Gan i hynt a helynt Ysgol Treganna fod yn rhywbeth o obsesiwn gan y blog yma, mae'n debyg y dylwn nodi bod cynllun diweddaraf Cyngor Caerdydd i godi ysgol newydd yn un i'w groesawu'n fawr.
Gan geisio peidio a swnio'n grintachlyd, mi fyddwn fodd bynnag yn nodi bod dwy broblem efo'r cynllun. Yn gyntaf mae'r ffaith y bydd Ysgol Radnor Road yn etifeddu adeilad gwag gan Ysgol Treganna am gynyddu'r llefydd gwag yn y sector cyfrwng Saesneg yn ardal Treganna - rhywbeth sydd am fod yn gostus i drethdalwyr Caerdydd am ddegawdau i ddod. Yn ail, 'dwi'n deall mai yn Sanatorium Road y bydd yr ysgol yn cael ei chodi. 'Dydi'r lleoliad ddim yn ddelfrydol - mae ymhell o galon Treganna, ac mae'n agos at ysgol cyfrwng Cymraeg arall - Ty Pwll Coch.
Ond wedi dweud hynny mae'r syniad o ysgol newydd sbon sydd a'r capasiti i dderbyn tri dosbarth gwahanol pob blwyddyn yn ddatblygiad cynhyrfus, sy'n gam bras i'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin Caerdydd.
Dylid hefyd llongyfarch Cyngor Caerdydd am fod digon hirben i fynd am opsiwn uchelgeisiol - a drud. Mi fydd hi'n anodd iawn o dan yr amgylchiadau, i'r Cynulliad beidio ag ariannu talp sylweddol o'r cynllun £9m.
Ond fydd Rhodri a'i gang yn gwrthwynebu eto tybed?
ReplyDeleteNa fyddan - mae'r cynnig yn delio efo problem wleidyddol o'u rhan nhw.
ReplyDeleteDydw i ddim yn meddwl y bydd adilad gwag Treganna/Radnor yn ychwanegu at y llefydd Saesneg. Ar y rat hyn fe fydd ei hangen ar gyfer addysg Gymraeg!
ReplyDeleteMae 'na bron ddigon o blant eleni i lenwi ysgol dair ffrwd. Fe fyddai ysgol newydd yn Grangetown neu Riverside yn cynnig ateb ond does dim safle amlwg yn y naill ward na'r llall.
Yr hyn sy'n ddiddorol yn ardaloedd mwyaf difreinitiedig Gorllewin Caerdydd yw bod nifer cynyddol o rieni yn troi i fyny'n annisgwyl gyda phlentyn ar ddechrau tymor yr hydref gan fynnu lle i'w plentyn gan mai'r Ysgol Gymraeg yw "our local school".
Mae hyn wedi bod yn wir yng Nghoed y Gof ers tro ac mae'n sicr o ddigwydd yn ysgolion newydd Nant Caerau a Gabalfa hefyd.
Yn amlwg mae hyn yn newyddion da yn yr ystyr bod 'na ddatrysiad ar y gorwel. Diolch i Adran Addysg Llywodraeth Cymru ac i Gyngor Caerdydd am ein palu ni allan o'r twll a grewyd gan Carwyn Jones. Ond o safbwynt polisi cyhoeddus mae'n ddatrysiad gwbl, gwbl wallgof. Tydi tywallt llond wilbrei o arian i ffwrdd er mwyn osgoi penderfyniadau caled ddim yn ateb i unrhyw beth yn yr hirdymor. Ac mae'r holl fusnes wedi creu cynseiliau hynod beryglus...
ReplyDeleteUn peth bach i gloi: ga'i awgrymu fod pobl yn rhoi'r bai am y penderfyniad yn y lle cywir. Oedd mae'n siwr fod Rhodri Morgan a'i fys yn y brwes yn rhywle. Ond, credwch fi, nid oedd Carwyn Jones angen unrhyw annogaeth i gyrraedd y penderfyniad a gyrhaeddodd. Er na fu yn y swydd ers blwyddyn mae eisoes yn amlwg nad yw'n ffit i fod yn Brif Weinidog Cymru. Rhad arnom....