Ymddengys i flogmenai wneud cam ag Awdurdod S4C - mae'n edrych bellach i'r Awdurdod dynnu sylw'r llywodraeth yn Llundain at y ffaith y byddai lleihau ei chyllideb o £2m eleni yn gwbl groes i'r gyfraith. Daeth y wybodaeth yma i'r amlwg yn sgil rhyddhau gohebiaeth rhwng S4C ac Adran Ddiwylliant, Cyfryngau, Hamdden a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan mewn ymateb i gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan Rhodri Glyn Thomas.
Felly pan roedd yr Adran Diwylliant yn dweud wrthym bod y gostyngiad o £2m wedi ei gytuno gydag S4C roeddynt yn dweud rhywbeth nad yw'n wir.
Roedd David Davies ar y radio y bore 'ma yn awgrymu nad oedd hi'n fawr o ots os oedd y llywodraeth wedi torri'r gyfraith oherwydd y gallent newid y Ddeddf beth bynnag, ac y bydd rhaid i S4C gymryd y toriadau llawn (o thua chwarter eu cyllideb) fel pawb arall.
Mae hynny'n wir, ond mae'n weddol amlwg os ydi'r llywodraeth am wneud y toriadau y dylent newid y Ddeddf yn hytrach na cheisio dwyn y pres trwy fygwth a dweud celwydd. Mi fyddai hynny'n caniatau i'r mater gael ei drafod yn drylwyr ar lawr Ty'r Cyffredin, a byddai'n gorfodi Mark Williams, Roger Williams, Jenny Willott, Guto Bebb, David Jones, David Davies, Alun Cairns, Jonathan Evans, Stephen Crabb, Glyn Davies a Simon Hart i fynd trwy lobi yn Nhy'r Cyffredin i bleidleisio tros wanhau un o'r prif strwythurau sy'n cefnogi'r iaith Gymraeg, a dangos eu hunain am yr hyn ydynt mewn gwirionedd.
Dwi'm yn credu fod llywodraeth yn gallu torri'r gyfraith ac yna newid y gyfraith i siwtio'i hun. Mae Jeremy Hunt mewn lle peryglus iawn fama os gellir profi ei fod wedi camarwain Ty'r Cyffredin, unai'n fwriadol neu'n anfwriadol.
ReplyDelete