Mae'r cyfri wedi dod i ben yma hefyd, ac mae rhestr wedi ei llunio. Am rhyw reswm 'dydi'r Blaid yno ddim eisiau i'r canlyniad gael ei gyhoeddi am dipyn - er y bydd pawb yn gwybod y canlyniad erbyn fory beth bynnag.
Ta waeth, mi barchaf y dymuniad, a gwneud dim byd mwy na nodi nad ydi'r canlyniad yn un anisgwyl. Mae'r drefn o fynnu bod merch yn gyntaf neu'n ail ar y rhestr wedi creu sefyllfa anffodus braidd yn yr achos hwn mae gen i ofn.
Diweddariad - mae'r canlyniad (neu o leiaf y rhestr) ar flog Alun Williams.
Mae'n warth fod Angela Larsen yn yr ail le a hithau heb dderbyn dim un bleidlais gyntaf, a dim ond pedair pleidlais ailddewis, yn rhoi'r swm rhyfeddol iddi o 2.2 pleidlais yn ôl system STV. Ar y llaw arall cafodd John Dixon 120 pleidlais, 40 yn llai na Simon Thomas. Pa fath o ddemocratiaeth ydi hyn
ReplyDelete