Lloegr | Cymru | Yr Alban | Y DU | |
Cristnogaeth | 71.4 | 69 | 72.3 | 71.4 |
Bwdiaeth | 0.4 | 0.3 | 0.2 | 0.4 |
Hindwiaeth | 1.5 | 0.4 | 0.4 | 1.4 |
Iddewiaeth | 0.6 | 0.1 | 0.1 | 0.5 |
Mwslemiaeth | 4.7 | 1.2 | 1.2 | 4.2 |
Siciaeth | 0.7 | 0.1 | 0.1 | 0.6 |
Arall | 1.1 | 0.9 | 0.9 | 1.1 |
Di Grefydd | 19.6 | 28 | 24.7 | 20.5 |
Yr hyn sy'n drawiadol ydi bod Cymru yn llai crefyddol, ac yn llai Cristnogol na'r gwledydd eraill. Dylid ychwanegu efallai bod y DU yn un o'r gwladwriaethau lleiaf crefyddol yn Ewrop - sy'n golygu bod Cymru yn un o wledydd lleiaf crefyddol Ewrop - os nad y Byd.
Mae hyn yn gryn newid o fewn cyfnod o ddwy genhedlaeth. Hyd 1960au'r ganrif ddiwethaf roedd Cymru ymysg y rhannau mwyaf crefyddol o Ewrop ar sawl cyfrif. Rydym wedi ceisio cynnig eglurhad am y newid syfrdanol yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn sut mae eich rhan chi o Gymru yn cymharu a gweddill y wlad, gweler isod:
Crefyddol | Di grefydd | |
Ynys Mon | 77 | 23 |
Blaenau Gwent | 67 | 33 |
Penybont | 71 | 29 |
Caerffili | 67 | 33 |
Caerdydd | 71 | 29 |
Caerfyrddin | 72 | 28 |
Ceredigion | 77 | 23 |
Conwy | 71 | 29 |
Dinbych | 76 | 24 |
Fflint | 81 | 19 |
Gwynedd | 72 | 28 |
Merthyr Tydfil | 75 | 25 |
Mynwy | 77 | 23 |
Castell Nedd Port Talbot | 68 | 32 |
Casnewydd | 77 | 23 |
Penfro | 73 | 27 |
Powys | 72 | 28 |
Rhondda, Cynon, Taf | 69 | 31 |
Abertawe | 67 | 33 |
Torfaen | 69 | 31 |
Bro Morgannwg | 75 | 25 |
Wrecsam | 71 | 29 |
Roedd rhaid i mi edrych ddwywaith o weld mai Fflint ydi'r ardal fwyaf crefyddol yn y wlad - ond erbyn meddwl, Fflint o bosibl ydi'r ardal fwyaf Seisnig yng Nghymru - ac mae'n dilyn felly bod eu canran nhw yn nes at un Lloegr nag ydyw at un Cymru.
Data i gyd o'r Integrated Household Survey.
Beth oedd maint y sampl yng Nghymru?
ReplyDelete'Dwi ddim yn siwr - ond roedd y sampl cyfan yn 450,000.
ReplyDeletePam felly y cwymp mwy yng Nghymru, tybed? Ai oherwydd mai gwladd yr anghydfurddiaeth oedd Cymru? Dwi'n cofio sylwad Hywel Williams yn ei gyfres ar Gymru ar S4C y llynedd bod Catholigaeth, oherwydd ei holl ddyfodau a'r pwyslais ar gyfrinachaeth wedi dal ei thir yn well nag anghydffurfiaeth sych, "rhesymegol". Cymheraf bod Eglwys Lloegr/Yr Eglwys yng Nghymru rhywle yng nghanol yr ystod. Byddai'n diddorol cymharu ar draws yr enwadau.
ReplyDeleteEfrogwr
Wrth gwrs, dyw'r ffigurau hyn ddim o anghenrheidrwydd yn adlewyrchu pa mor 'grefyddol' neu pa mor 'Gristnogol' yw pobl/gwlad. Dyna i gyd mae'r ystadegau hyn yn dangos yw faint o bobl sy'n ystyried eu hunain yn grefyddol neu'n Gristnogol. Mae na gryn amrywiaeth ymysg diffiniadau o 'Gristnogaeth', ac fel Crynwr, mae gen i ddiffiniad llacach na llawer!
ReplyDeleteA oes mwy o'r sentiment "Prydeinwyr - 'da ni i gyd yn Gristnogion" yn bodoli yn Lloegr nag sydd yng Nghymru tybed?
Iwan Rhys
"Dylid ychwanegu efallai bod y DU yn un o'r gwladwriaethau lleiaf crefyddol yn Ewrop - ............"
ReplyDeleteTystiolaeth?
Tystiolaeth?
ReplyDeleteEurobarometer Poll 2005.
Gallup 2008.
Nid dyna oedd canfyddiadau Euroreligio 2009.
ReplyDeleteNa ddylai teitl y blogiad yma fod yn 'Crefydd a Pobl Cymru'. Mae'r term 'Cymry' wedi hen mynd allan o ffasiwn was. Mi ddylset ti o bawb wybod hynny.
ReplyDeleteFi o bawb?
ReplyDeleteMae'n gryn syndod i mi ddeall fy mod yn un am wybod beth sydd mewn ffasiwn a beth sydd allan o ffasiwn.
Mi fyddai'n fwy o syndod i'r ddynas acw.