'Dwi wedi son rhyw ychydig ar y blog yma ac ar flog Vaughan yn ddiweddar am wleidyddiaeth y gombeen. Mae lleiafrif da o aelodau'r Dail yn bobl y gallwn eu disgrifio fel gombeen. Y mwyaf lliwgar o'r rhain ydi TD annibynnol o South Kerry o'r enw Jackie Healy Rae. Gobeithio bod yr isod yn ffenestr fach ddiddorol i chi ar fyd lliwgar y gombeen gwleidyddol.
Fideo o Jackie yn derbyn enwebiaeth ei gefnogwyr i sefyll yn etholiad 2007 ydi'r cyntaf.
Jackie yn delio efo'r wasg yn ei ffordd ddihafal ei hun:
Jackie yn gadael swyddfeydd y llywodraeth wedi gwasgu rhyw gonsesiwn neu'i gilydd o'u crwyn:
'Dwi'n cymryd mai rhywun sydd o blaid priodas sifil yn dychanu Jackie yn hytrach na darllediad gwleidyddol gan Jackie ydi'r nesaf.
Darn arall o ddychan (gobeithio) sy'n cyfeirio at y ffaith bod y llwyth Healy Ray i gyd yn gwisgo capiau - gan gynnwys Danny a Michael sy'n gynghorwyr yn South Kerry.
Jackie yn gwneud yr hyn mae'n ei wneud orau - crafu am bleidleisiau - mewn ras beics y tro hwn.
Gombeen ta gobshites?
ReplyDeleteMae rhywun yn dallt Father Ted yn well ar ol gweld y rhain. Hilariws!
A - mae yna lawer mwy o bobl fel Jackie yn y ffatri gombeens.
ReplyDeleteMae'n gwneud i rywun werthfawrogi safon ein ACau!
ReplyDeleteIwan Rhys