Tuesday, May 25, 2010

A oes bradwr yn y ty hwn?

Mi fydd dilynwyr y blogosffer Cymraeg yn ymwybodol o'r digwyddiadau yn Siambr Dafydd Orwig ddoe, gyda phobl (ac aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn arbennig) yn yr oriel gyhoeddus oedd yn gwrthwynebu cau Ysgol y Parc ger y Bala yn cyhuddo cynghorwyr Plaid Cymru o frad. Mae Dyfrig Jones, Guto Dafydd ac eraill wedi dweud eu pwt ynglyn a'r mater. Ceir mwy yma.


Cyn i mi gychwyn hoffwn bwysleisio nad bwriad y blogiad yma ydi cefnogi na gwrthwynebu cau Ysgol y Parc, na'r un ysgol arall. Yn hytrach ymgais ydyw i wneud ychydig o sylwadau ynglyn a natur cenedlaetholdeb Gymreig ar sail digwyddiadau ddoe.


Mae’r term bradwr yn un sarhaus ym mhob rhan o Gymru wrth gwrs, ond bu gwenwyn anarferol yn perthyn iddo yng nghymunedau Dyffryn Ogwen – megis Gerlan , y gymuned a gynrychiolir gan Dyfrig Jones ar Gyngor Gwynedd. Y rheswm am hyn ydi bod i’r term ystyr a defnydd penodol iawn yn ystod Streic Fawr y Penrhyn – y digwyddiad hanesyddol enwog sydd wedi gadael eu cysgod tros y Dyffryn hyd heddiw.


‘Dwi ddim am aros llawer efo hanes y streic, mae’n weddol adnabyddus bod y streic yn chwarel y Penrhyn ymysg yr hiraf a’r mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol y DU. Arweiniodd at ddioddefaint gwirioneddol yn yr ardal, ac oherwydd amgylchiadau dychwelodd llawer o’r gweithwyr at wyneb y graig cyn i’r streic ddod i ben. Roedd yr arwyddion – Nid Oes Bradwr yn y Ty Hwn yn fater o gryn falchder i’r sawl oedd mewn sefyllfa i’w osod yn ffenest y ty – yn arbennig felly at y diwedd fel y gorfodwyd mwy a mwy o ddynion i ddychweld i’w gwaith. Mae’r creithiau cymunedol a adawyd gan y streic yn ddiarhebol wrth gwrs, gyda drwg deimlad rhwng teuluoedd bradwyr a’r sawl arhosodd yn ffyddlon i’r streic yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth fel rhyw lun ar drysor teuluol.


‘Rwan o safbwynt y blogiad yma y cwestiwn diddorol ydi hwn – beth yn union oedd y bradwyr yn ei fradychu? Ar un olwg mae’r ateb yn syml – y streic. Ond mae mwy iddi na hynny, byddai’r cwbl o’r streicwyr yn perthyn i ddosbarth gweithiol diwydiannol, mi fyddant bron yn ddi eithriad gyda’r Gymraeg yn famiaith iddynt, a byddai’r rhan fwyaf (er nad y cwbl) yn anghydffurfwyr o ran daliadau crefyddol. Nid oedd perchnogion y Penrhyn yn syrthio i’r un o’r categoriau hyn wrth gwrs. Ar olwg arall roedd y bradwr (yng ngolwg y gymuned ehangach) yn bradychu yr hyn oedd, ei gymuned, ei deulu, ei lwyth - roedd yn bradychu ei hunaniaeth ei hun.


Daw hyn a ni yn ol at fradwyr Y Parc. Pam bod pobl megis Ffred Ffransis ac Osian Jones yn ei chael mor hawdd i ddefnyddio’r term ymfflamychol yma mewn perthynas a chenedlaetholwyr oherwydd eu bod yn cymryd penderfyniad fydd yn arwain at gau ysgol mewn cymuned wledig iawn. O edrych ar bethau o bell mae’n anodd gweld bod yna gysylltiad agos rhwng syniadaeth wleidyddol genedlaetholgar (yr hyn fyddai'n nodweddu cynghorwyr Plaid Cymru ac yn eu gwahanu oddi wrth y gweddill a bleidleisiodd i gau) ac ymrwymiad i gynnal ysgolion o faint arbennig. Nid yw penderfyniadau i gau ysgolion yn arwain at gyhuddo cenedlaetholwyr y gwledydd Celtaidd eraill o frad.


Er enghraifft mae yna 33 o ysgolion cynradd a dwy ysgol uwchradd wedi eu cau yn yr Alban yn ystod blwyddyn ysgol 2009 / 2010. Mae yna gynghorwyr o genedlaetholwyr wedi pleidleisio o blaid y cau ar lefel lleol, ac mae yna weinidog (Mike Russell) o genedlaetholwr wedi cadarnhau’r penderfyniadau ar lefel cenedlaethol. Hyd y gwn i ‘does yna neb yn cyhuddo’r SNP o frad. Cenedlaetholwraig ydi'r gweinidog tros addysg yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ac mae hithau wedi bod yn cadarnhau penderfyniadau mae cynghorwyr ei phlaid wedi eu cymryd i gau ysgolion. 'Does yna neb yn disgrifio Sinn Fein fel bradwyr am y rheswm yna beth bynnag. 'Dydi hyn ddim yn golygu nad oes gwrthwynebiad i gau ysgolion yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon wrth gwrs, mae gwrthwynebiad chwyrn mewn rhai lleoedd. Y gwahaniaeth ydi nad ydi'r penderfyniadau i gau yn cael eu gwneud yn gyfystyr a gweithredoedd o frad.


Fy nheimlad i ydi bod y bennod fach ddiweddar yn eithaf dadlennol o ran deall natur – a rhai o brif wendidau – cenedlaetholdeb Cymreig. Nid ydi cymunedau gwledig iawn Cymraeg eu hiaith yn arbennig o nodweddiadol o Gymru, o Wynedd, nag o’r Gymru Gymraeg hyd yn oed. Mae’r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg Gwynedd yn byw mewn wardiau trefol neu fwrdeisdrefol. Mae mwyafrif llethol pobl Cymru yn byw mewn llefydd felly hefyd. I’r graddau hynny mae cyhuddo cenedlaetholwyr, sydd yn aml yn cynrychioli cymunedau trefol o fradychu cymunedau gwledig yn ymddangos afresymegol.


Ond mae mwy iddi na hynny wrth gwrs – mae’r ddelfryd o Gymru Gymraeg wledig yn rhywbeth sydd wedi treiddio i’r ffordd mae llawer o Gymry Cymraeg yn diffinio eu Cymreictod. Mae hefyd yn rhywbeth sy’n rhan o lawer o’n llenyddiaeth – hyd yn oed llenyddiaeth y pentrefi chwarel. Ar un lefel felly cyhuddiad o fradychu delfryd sy’n annwyl i lawer o Gymru Cymraeg a geir. Ydi hi’n bosibl bradychu delfryd? ‘Dwi ddim yn meddwl rhywsut – mae’n wahanol i fradychu hunaniaeth.


Ond mae yna haenen arall i’r sefyllfa. Nid delfryd yn unig sy’n cael ei fradychu yng ngolwg y sawl sy’n gwneud y cyhuddiad – bradychir ardal neu fro hefyd. Yn wahanol i’r Alban neu Ogledd Iwerddon mae brogarwch yng Nghymru gyda gafael gadarnach ar ddychymyg, a felly deyrngarwch pobl, na chenedlaetholdeb. Mae hyn oherwydd gwendid y syniadaethau sydd ynghlwm a chenedlaetholdeb Cymreig yn hytrach na chryfder brogarwch. ‘Does gennym ni ddim set o ddadleuon cryf wedi eu ffurfio tros annibyniaeth, dim syniad clir am yr hyn sy’n ein gwneud yn un genedl er ein gwahaniaethau, dim ymdeimlad o genedlaetholdeb sific (yn hytrach na llwythol), dim ymdeimlad o ffyddlondeb i ddelfryd genedlaethol, dim llawer o fytholeg sy’n atyniadol i garfanau sylweddol o bobl wedi tyfu o gwmpas y syniadaeth.


Dyma pam bod yr holl stori yn achosi’r fath ddiflastod i mi – mae’n taflu pelydr di drugaredd o oleuni oer ar wendidau seicolegol y traddodiad cenedlaetholgar Gymreig. Mae’r syniadaeth sy’n cynnal y ffordd mae llawer ohonom yn dehongli’n gwlad wedi ei wreiddio mewn delfryd o’r hyn y ‘dylai’ Cymru fod yn hytrach na’r hyn ydyw mewn gwirionedd, ac mae’n is raddio’r cenedlaethol a’r hyn sy’n gyffredin rhyngom– hanfod cenedlaetholdeb – tra'n dyrchafu y lleol a’r hyn sy’n ein gwahanu.

24 comments:

  1. Anonymous9:00 pm

    A'i neges ynglyn a chyswllt un aelod penodol PC efo mart lleol oedd yr holl son am 'oen'?

    Ffermwyr ardal wledig Y Parc yn gwrthwynebu ei safbwynt ac felly yn bygwth defnyddio mart arall. Dyna oedd y syniad efo'r oen tegan meddal a'r son am 'wyn i'r lladdfa', ia?

    ReplyDelete
  2. Alla i ddim dychmygu Ffred yn gwneud llawer efo mart rhywsut!

    ReplyDelete
  3. Mae'r ymadrodd "bradwr" yn gysyniad 'contested' ys dywed y Sais oherwydd ei fod yn dibynnu ar eich dealltwriaeth chi o'r achos i gychwyn a'ch barn am y ffordd ymlaen.

    Dwi'n cymryd mae sail Osian wrth alw Dyfrig yn fradwr oedd fod Osian yn gweld mai diben gwreiddiol Plaid Cymru oedd gwarchod a hyrwyddo cymunedau Cymraeg ac mae Osian yn credu fod cau ysgol y Parc yn mynd yn erbyn diben gwreiddiol achos Plaid Cymru ac felly yn ol y dehongliad yma o'r sefyllfa mae Dyfrig yn 'fradwr'.

    Mi fyddai Dyfrig yn dadlau yn wahanol gan awgrymu hyd yn oed mae Osian sy'n tanseilio achos y Parc ac felly mae Osian sy'n bradychu.

    Fy mhwynt yw fod y term 'bradwr' yn un meddal, mae'r cyfan yn dibynnu ar lle rydych chi'n sefyll ar sbectrwm dadl.

    ReplyDelete
  4. Mi fyddai dy gael yn euog o frad yn ddigon i dy garcharu neu hyd yn oed dy saethu mewn aml i wlad. 'Dydi o ddim yn derm arbennig o feddal.

    Hyd y gwn i 'dydi Dyfrig ddim yn cyhuddo Osian, Ffred na neb arall o frad.

    ReplyDelete
  5. Dwi'n meddwl dy fod ti'n gor-ddadansoddi'r busnas bradwr 'ma a'i gyswllt â'r Streic Fawr yn isymwybod cynghorydd Gerlan. Hogyn o Fangor 'di Dyfrig!

    Mae o'n genedlaetholwr gweithgar a da a dwi'n siwr ei fod o'n brifo go iawn o gael ei alw'n fradwr. Mae 'na lot o genedlaetholwr da yn gynghorwyr Plaid Cymru ar hyd a lled Cymru (ac mae 'na ambell i lemon). Mae 'na hefyd lawer o genedlaetholwyr (fel fi) sydd wedi'u digalonni'n llwyr gan be sy'n ymddangos weithiau fel polisi bwriadol Plaid Cymru o danseilio bob un dim sy'n werthfawr i ni - ein iaith, ein cymunedau a'n diwylliant. Mae iaith danllyd yn siwr o ffrwydro i'r wyneb pan mae dadleuon fel cau ysgol a sbaddu cymuned yn codi.

    Pob lwc i ymgyrch Ysgol y Parc. Gobeithio y gwneith rywun clyfar iawn yng Nghyngor Gwynedd ddeall fod modd (does bosib) nôl pres o'r pot addysg a phres o'r pot diwylliant (neu beth bynnag fyddai'r adran achub iaith a chymuned) a'i roi at ei gilydd i roi cyfle i'r Parc oroesi.

    ReplyDelete
  6. 'Dwi'n gwybod mai o Fangor y daw Dyfrig yn wreiddiol. Y rheswm roeddwn yn mynd ar ol y streic oedd i ddangos gwahaniaeth rhwng brad mewn sefyllfa lwythol (megis y streic) a brad mewn sefyllfa lle disgwylir i bobl gadw'n driw i ddelfryd sydd ond yn bodoli ym meddyliau pobl eraill.

    'Dydi'r Blaid ddim yn tanseilio'r iaith - mi ddylai stori Treganna wneud hynny'n ddigon clir Hanna. Rydym yn derbyn beirniadaeth gan Gymry Cymraeg yn lleol pan nad ydym yn cynnig yr union ddarpariaeth addysg Cymraeg maent yn gofyn amdano ar yr union amser maent yn gofyn amdano.

    Serch hynny, pan rydym yn cael ein hunain mewn sefyllfa o ymarfer grym, ac yn rhoi'r union ddatrusiad y gofynir amdano, 'dydi'r Cymry Cymraeg lleol ddim yn ystyried bod darparu addysg Gymraeg yn fater sy'n ddigon pwysig i'w cael i bleidleisio i'r Blaid mewn niferoedd arwyddocaol.

    Mae'n anodd weithiau.

    ReplyDelete
  7. Anonymous8:02 am

    Oes 'na rywbeth od ym mlaenoriaethau'r Blaid yn Ngwynedd ella?

    Dros £2filiwn YCHWANEGOL (ella o bot gwahanol, ond £2filiwn ydi £2filiwn) i adeilad Ysgol Yr Hendre a 'methu' darganfod £50,000 i'r Parc.
    Byddai £2filiwn yn cadw'r Parc i fynd am 40 mlynedd.

    Dwi ddim yn dweud nad oedd y penderfyniad yn iawn un ffordd neu'r llall ond pwy fyddai'n meddwl 'chydig o flynyddoedd yn l y byddai Y Blaid, o bawb, yn gwario cymaint ar ysgol drefol ac yn gwrthod gwario 0.5% o gyllideb adeiladu'r ysgol fawr yma ar warchod ysgol fach bentref.

    ReplyDelete
  8. Wel fel rhywun o Ddyffryn Ogwen baswn i'n sicr yn dweud bod y gair 'bradwr' yn air cryf iawn!

    Mae'n episod digon trist. 'Sneb isho cau ysgolion gwledig ond dwi'm yn gweld unrhyw fath o gyfiawnhad dros gadw ysgol 18 disgybl ar agor, pa ysgol bynnag y bo. Mae'n hurt. Mae'n arbennig o hurt i rywun o ardal fel Dyffryn Ogwen lle ceir ysgolion gweddol mawr fel Llanllechid a Phenybryn a'r canfyddiad cyffredinol ydi bod ysgolion bach o'r fath yn dargyfeirio adnoddau mewn ffordd gwbl anghymesur ac annheg. Dwi'n cytuno â'r farn honno.

    Ac mae arna i ofn ei fod yn gwneud i Gymdeithas yr Iaith edrych yn uffernol o blentynnaidd. Dadl addysgol ydi'r ddadl yng Ngwynedd yn y bôn a dwi'n ffieiddio at y mudiad am ei throi'n ddadl ieithyddol, ac eraill hefyd yn gwneud hynny at ddibenion gwleidyddol.

    Er fy mod yn gefnogol iawn i'r Gymdeithas, mae gweld aelodau blaenllaw yn cyhuddo pobl dda o fod yn 'fradwyr' wir yn gwneud i rywun golli parch ati. Rhag eu cywilydd.

    ReplyDelete
  9. Y gwir yw y bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn bradychu cymuned Y Parc os na lwyddir i achub yr ysgol a chalon cymuned Y Parc. Plant y Parc sydd wedi eu bradychu oherwydd mae’r Cynghorwyr wedi penderfynu cau’r ysgol i fodloni gofynion Adran Addysg y Cynulliad Cenedlaethol o gau ysgolion. Does dim rheswm addysgol, cymunedol nag ariannol tu ôl i’r penderfyniad. Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud lot o bethau da eraill ond mae cau’r ysgol yn weithred o frad oherwydd eu bod nhw’n fodlon aberthu un ysgol i blesio’r Cynulliad. Dyma pam defnyddiwyd yr oen oherwydd fod yr ysgol yn cael ei aberthu. Ond wedyn aeth pethau braidd yn gymysglyd pan wnaeth rhywun weiddi ‘mochyn’. Os nag ydyn ni'n sefyll fyny dros gymunedau naturiol Gymraeg, byddwn ni'n yn eu ymostwng i fod yn gymunedau artiffisial gan roi Swyddog Adfywio i geisio 'adfywio' beth oedd yn fyw yn naturiol! Dyw e ddim yn fater o 'athroniaeth wleidyddol' mae'n fater o chefnogi a phweru'r egni naturiol sydd yn y gymuned yn barod.
    www.cymdeithas.org/blog

    ReplyDelete
  10. Diolch am dy sylwadau caredig, Hanna. Dwi'n credu bod gan Blaid Cymru le i ail-gysylltu a'i hegwyddorion craidd ar lefel genedlaethol. Ond fel rhywun sydd ynghanol yr ad-drefnu addysg gynradd, dwi ddim yn credu ein bod yn euog o hynny yng Ngwynedd.
    Ti'n son am Blaid Cymru fel gwarcheidiaid cymunedau Cymraeg, ond mae'r ddadl ynglyn ac ysgolion bychain yn ymwneud a phwyso a mesur anghenion gwahanol gymunedau Cymraeg. Nid y wlad Gymraeg yn erbyn y dref Saesnig yw hyn. Beth am ein cymunedau Cymraeg yng Nghaernarfon, Porthmadog, Bethesda, neu Y Bala? Onid yw'r cymunedau hyn hefyd yn haeddu tegwch?
    O ran dy bwynt olaf, ynglyn a symyd pres o un pot i'r llall. Dwi wedi ateb hon ar flog Guto Dafydd, ond fe wna i ail-adrodd fy hun. Mae 80% o gyllid Cyngor Gwynedd yn mynd ar 3 maes - Addysg, Priffyrdd a Gofal Cymdeithasol. Bach iawn yw'r "pot" ar gyfer adfywio economaidd. Yn sicr, does dim digon o arian ynddo i alluogi Gwynedd dalu'r sybsidi anferthol sydd ei angen i gadw ysgolion lleiaf y sir ar agor.

    ReplyDelete
  11. Anonymous7:01 pm

    Na na, Hogyn o Rachub - y mae hi'n gwbl gwbl amlwg fod yr iaith yn greiddiol i'r ddadl drwyddi draw, gwae ni os na welwn ni hynny. Caewch ysgol, ac fe gollir cymuned - cymuned naturiol Gymraeg fel y maen nhw'n tueddu i fod yng nghefn gwlad Gwynedd (rai fwy na'i gilydd fel mae'r Parc yn ei brofi). Nid yn ddiffael, na, ond dyna yw'r norm: colli ysgol, ac mae'r gymuned a'r iaith ar ei cholled. Ac ydi, mae'r Gymraeg yn gryf yn nhrefi Gwynedd. Ond fedrwn ni ddim fforddio arfer polisi 'pic an mics'! Dyma gadarnleoedd y Gymraeg drwy Gymru - byddai'n drasiedi colli un ohonyn nhw.

    Os mai credu y daw'r iaith drwyddi rywsut, yn wyrthiol, er gwaetha cau ysgolion a gwanychu cymunedau, sy'n cynnal Cynghorwyr Gwynedd - yna dihunwch, bobl! Mae niferoedd siaradwyr Cymraeg yn gyson ar i lawr. Mae cymunedau cefn gwlad yn crebachu, a'r ffiniau'n tynnu i mewn ym mhob man. Collwch chi'r ardaloedd rhwng y trefi a'r pentrefi mawr, a buan iawn yr aiff rheini'n ynysoedd, a chrebachu fwyfwy. Os awn ni ormod ar ffydd yn nyfodol yr iaith yng Ngwynedd, mi ddeffrwn un bore a sylweddoli ei bod hi wedi mynd yn rhy hwyr i'w hachub.

    Mae posib colli ac arbed arian sawl gwaith drosodd mewn myrdd o wahanol ffyrdd o rwan tan ddydd y farn. Unwaith y collwn ni'r iaith, ddaw hi ddim yn ôl.

    ReplyDelete
  12. Anonymous7:11 pm

    Er gwybodaeth Dyfrig, mae'r rhwyd diogelu - gelli ei alw yn sybsidi, yn tua £400,000, llai na 0.5% o'r cyllid addysg yn flynyddol.

    Os na rhywun wedi cyfri maint 'sybsidi' addysg i gymdeithasau trefol fel 'Dechrau'n Deg, Webbster Stratton, Athrawon Cynnal Ymddygiad, Swyddogion Lles, Amser Gwas Cym., plismona, systemau diogelwch, camerau cctv ac ati.

    ReplyDelete
  13. Anhysbys 8.02 - 'mond gair bach er mwyn eglurdeb. Pres grant (gan y Cynulliad) sydd yn ariannu ysgol newydd yng Nghaernarfon - nid pres y Cyngor Sir ei hun.

    Byddai'n groes i'r gyfraith i ddefnyddio'r pres i unrhyw bwrpas arall.

    ReplyDelete
  14. Aled G J9:13 pm

    Yn fy marn i, mae rhethreg unllygeidiog C yr I ynghylch yr angen i arbed ysgolion bach doed a ddelo yn eufallu rhag gweld mai cryfhau'r iaith yn yr ardal hon fydd y cynllun hwn, nid ei wanio. Trwy ychwanegu 18 o ddisgyblion Parc i Ysgol Llanuwchllyn( 2 filltir i ffwrdd), ceir ysgol o tua 90 o blant a rheini i gyd bron iawn yn Gymry Cymraeg. Cadarnhau ac atgyfnerthu Cymreictod yr ardal fydd effaith crynhoi adnoddau fel hyn.Trwy greu canolfan addysg wledig gref yn fanno, a chanolfan addysg drefol gref yn Y Bala, credaf fod cynghorwyr Plaid Cymru wedi creu cynllun cytbwys a realistig.

    ReplyDelete
  15. Sori ond dydw i ddim yn derbyn mai dadl ieithyddol ydi hi. Mae pentrefi Cymraeg eu hiaith bywiog yng Ngwynedd a Chymru lle nad oes ysgol i'w chael - nid ysgol ydi cymuned. Gwae ni os ydym yn gwneud y ddau beth yn gyfystyr â'i gilydd, mae hynny'n ei hun yn dangos dirywiad y syniad o gymuned hyd yn oed yng nghefn gwlad Cymru a hynny'n ymhlith y bobl frodorol.

    ReplyDelete
  16. Dau sylw i un blogiad HOR!

    Ti'n dechrau gwegian efo'r penderfyniad gwirion 'ma i roi'r gorau i flogio yn barod!

    ReplyDelete
  17. Anonymous9:43 pm

    Faint o blant sydd yn yr ysgol?

    ReplyDelete
  18. Dwi'n ymwybodol o faint y Rhwyd Diogelwch, ond un elfen o'r gôst ychwanegol ydi hyn, sef cyflog athrawon. Nid yw'r ffigwr yma yn cymeryd i ystyriaeth yr holl arian sydd yn cael ei wario ar gynnal a gweinyddu safle ysgol.
    O ran y cwestiwn ieithyddol, mae barn arbenigol annibynnol yn awgrymu yn gryf na fydd impact negyddol ar yr iaith Gymraeg. Fel y mae Aled G J yn ei ddweud, mae yr ad-drefnu yma yn creu uned addysgol sydd yn fwy, a sydd a gwell gallu i oroesi i'r dyfodol.
    Ystriwch hyn. Beth sy'n digwydd i gymeriad ieithyddol yr ysgol os oes teulu o 10 o Wolverhampton yn symyd i'r Parc? Yn sydyn, mae canran y siaradwyr Cymraeg yn yr ysgol yn cwympo yn ddramatig, ac mae iaith y buarth yn newid. Mae ysgol fwy yn llawer mwy abl i gymhathu menwfudwyr.

    ReplyDelete
  19. Anonymous10:08 pm

    Ond be sy'n cael ei adael AR OL, Aled G J? Cragen wag o bentref. Fe allwn ni gryfhau'r Gymraeg yn ein hysgolion yn ddibendraw drwy grynhoi adnoddau - hei, be am adeiladu un ysgol enfawr yng nghanol y sir rywle a hel y plant cynradd i gyd iddi - bydd eu Cymraeg nhw'n WYCH!
    Bydd y Gymraeg stafell ddosbarth yn atsain oddi ar furiau newydd hyfryd yr ysgolion ffantastig gwerth miliynau a godir - bydd SGLEIN ar y Gymraeg!!! Ond ar ol tri or gloch, be am tu allan i'r ysgolion? Be am o fewn eu 'cymunedau' fydd prin yn gymunedau erbyn hynny?
    Mae'r broydd Cymraeg yn marw o'ch cwmpas chi tra 'dach chi'n rhaffu celwyddau yn esgusodion dros gynghorwyr y Blaid sydd i'w gweld yn poeni mwy am arbed pres nag am ddyfodol yr iaith.

    ReplyDelete
  20. Anonymous11:33 pm

    "Anhysbys 8.02 - 'mond gair bach er mwyn eglurdeb. Pres grant (gan y Cynulliad) sydd yn ariannu ysgol newydd yng Nghaernarfon - nid pres y Cyngor Sir ei hun."

    Na - Tua £4.5 miliwn o grant a £4.5 miliwn o arian Cyngor Gwynedd - hyd yma - mae'r cynllun yn dechrau swnio fel Dome Mileniwm.

    Dwedodd Dyfrig: "Dwi'n ymwybodol o faint y Rhwyd Diogelwch, ond un elfen o'r gôst ychwanegol ydi hyn, sef cyflog athrawon. Nid yw'r ffigwr yma yn cymeryd i ystyriaeth yr holl arian sydd yn cael ei wario ar gynnal a gweinyddu safle ysgol."

    Ydi mae o - mae'r £400,000 rhwyd diogelu yn cynnwys cynnal a gweinyddu. Mae pob ysgol yn derbyn swm o arian trwy fformiwla ar gyfer cyflogau, gweinyddu, cynnal safle ayyb. Mae'r rhwyd yn rhoi arian ar ben hyn os nad ydi o'n ddigon i gyrraedd yr isafswm.

    ReplyDelete
  21. £5.3 miliwn o grant.

    ReplyDelete
  22. Dwi dal yn cadw'r hawl i wneud sylwadau ar flogiau pobl eraill!!

    ReplyDelete
  23. Anhysbys 11:33

    Mae Blogmenai yn iawn. £2.2 miliwn mae Cyngor Gwynedd yn ei gyfrannu at gost Ysgol yr Hendre. Dylid cofio hefyd bod hwn yn dod o gronfa cyfalaf, felly ni fyddai modd ei ddefnyddio i ariannu unrhyw gostau rhedeg ysgol, dim ond costau adeiladu ysgolion newydd.

    ReplyDelete
  24. Anhysbys 10:08 -
    "Mae'r broydd Cymraeg yn marw o'ch cwmpas chi ..."

    Na 'di! Mae'r nifer a chanran siaradwyr cymraeg ar i fynu yn Nwyfor ac Arfon (os ti'n cymharu census 1991 efo 2001).

    O edrych ar Meirionydd, mi fyswn ni'n deud bod di-boblogi, a siaradwyr Cymraeg yn siarad Saesneg efo'i plant an lawer mwy o broblem na cholli un ysgol fach.

    ReplyDelete