Wednesday, May 26, 2010

Arolwg YouGov o etholiad cyffredinol 2010 yng Nghymru

Mae YouGov ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cynnal arolwg cynhwysfawr (sampl 1457) o'r sawl a bleidleisiodd yn yr etholiad diweddar. Cafodd y gwaith maes ei wneud wedi'r etholiad ond cyn ffurfio'r glymblaid.

Dyma rai o'r canfyddiadau:


  • Roedd 40% wedi gwneud eu meddyliau i fyny ynglyn a phwy y byddant yn pleidleisio iddo ymhell, bell cyn yr etholiad. Penderfynodd 37% sut i bleidleisio yn ystod yr ymgyrch.
  • Y Lib Dems ddioddefodd waethaf oherwydd pleidleisio tactegol gyda mwy o'u cefnogwyr yn pleidleisio i rhywun arall am resymau tactegol na'r un blaid arall (a 'dwi ddim yn tynnu coes).
  • Carwyn Jones ydi'r arweinydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, wedyn Ieuan Wyn Jones, wedyn Kirsty Williams a dyn yr ystafell molchi sy'n olaf.
  • Roedd 49.3% o'r sawl a holwyd yn dweud na fyddent byth yn pleidleisio i'r Toriaid o gymharu a 52.7% oedd yn dweud hynny am UKIP. Y ffigyrau ar gyfer y Lib Dems, Llafur a'r Blaid oedd 17.3%, 28.7% a 30.7% - yn y drefn yna.
  • Plaid Cymru oedd a'r ganran uchaf o'i phleidlais yn dod o gategoriau cymdeithasol A,B ac C1. Llafur ac Eraill oedd a'r ganran isaf.
  • Y Toriaid oedd yr olaf o'r bedair prif blaid ymysg y sawl oedd a hunaniaeth Gymreig, ond nhw oedd y cyntaf ymysg y sawl sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr.
  • Bydd pleidlais Llafur a'r Lib Dems yn cynyddu yng nghydadran etholaethol etholiadau'r Cynulliad tra bydd pleidlais y Toriaid a Phlaid Cymru yn disgyn. Yn y cydadran rhanbarthol bydd pleidlais y Lib Dems yn cynyddu'n sylweddol iawn gyda phleidlais y pleidiau mawr eraill yn cwympo. Golyga hyn y bydd gan Llafur 28 o seddi, y Lib Dems 12 gyda Phlaid Cymru a'r Toriaid yn cael 10 yr un.
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl am weld mwy o bwerau i'r Cynulliad, ac mae mwyafrif clir o'r farn bod y wlad yn cael ei rheoli'n well ers dyfodiad y sefydliad.
  • Mae mymryn tros hanner yn bwriadu pleidleisio 'Ia' gydag ychydig llai na thraean am roi croes wrth 'Na'. Yn bisar braidd mae mymryn mwy o blaid yr un pwerau a'r Alban na sydd o blaid yr argymhellion fydd yn cael eu hystyried yn ystod y refferendwm. Mae gan yr Alban fwy o bwerau o lawer na'r hyn a argymhellir ar gyfer Cymru wrth gwrs.
Mi fyddaf yn dod yn ol at un neu ddau o'r pwyntiau uchod yn ystod y dyddiau nesaf, ond gair bach o rybudd - cafodd yr ymarferiad ei gynnal yn dilyn cyfnod o wythnosau o Brydaineiddio gwleidyddiaeth Cymru gan y cyfryngau. Bydd ein gwleidyddiaeth yn raddol ddad Brydaineiddio tros y misoedd nesaf. Os bydd y Lib Dems yn ennill deuddeg sedd yn etholiadau'r Cynulliad mi fyddaf yn syrthio ar fy ngliniau wrth draed y cerflyn anghynnes o Lloyd George ar faes Caernarfon (yr un efo llwyth o faw adar ar ei ben) ac yn bwyta fy nhrons melyn gorau - yn gyhoeddus ar b'nawn Sadwrn.

Diolch i RWJ am y data.

5 comments:

  1. Os bydd y Lib Dems yn ennill deuddeg sedd yn etholiadau'r Cynulliad mi fyddaf yn syrthio ar fy ngliniau wrth draed y cerflyn anghynnes o Lloyd George ar faes Caernarfon (yr un efo llwyth o faw adar ar ei ben) ac yn bwyta fy nhrons melyn gorau - yn gyhoeddus ar b'nawn Sadwrn.

    Rwyt newydd fy mherswadio i fwrw pleidlais i'r Lib Dems mis Mai nesaf.

    ReplyDelete
  2. Anonymous10:58 pm

    Mae sampl YouGov yn cael ei dynnu o nifer cymharol fach: o gwmpas 12,000 y tro diwethaf i mi edrych. Dim yn unig hynny ond pobl sydd wedi cofrestru ymlaen llaw i gymryd rhan mewn arolygon dros y we. Carfan hynod o ddethol. Deunydd i newyddiadurwyr yn unig yw hwn yn hytrach na dim cynrychioladol dibynadwy.

    ReplyDelete
  3. Y Chwigiaid yn dod yn ail? Wel yn wir!

    ReplyDelete
  4. Alwyn - os ydi'r Lib Dems yn cael deuddeg mi gei di wahoddiad i'r wledd.

    Anhysbys. Nid y pol Prydeinig ydi o - un penodol i Gymru gyda sampl sylweddol yng Nghymru a phwysiad i wneud i'r sampl gyd fynd a chanlyniad yr etholiad.

    Wedi dweud hynny, mae wedi ei gymryd wedi i wleidyddiaeth Cymru gael ei wyrdroi gan yr etholiad Prydeinig.

    Tori Chwig.

    Yn od iawn pedwerydd ydi'r Lib Dems yn ol y pol o ran pleidleisiau yn y cydadran etholaethol.

    Yr hyn sy'n rhoi seddi iddyn nhw ydi'r etholiad rhanbarthol.

    ReplyDelete
  5. Er gwaetha'r ffaith bod yr arolwg wedi'i wneud mewn adeg 'Brydeing' iawn byddai hefyd yn wirion diystyru ffigurau'r Cynulliad. Wedi'r cyfan, roedd y polau Cymreig a wnaed ychydig cyn yr etholiad diwethaf yn rhyfeddol o agos (cyn belled ag y mae polau Cymreig yn y cwestiwn) felly rhaid peidio รข'u hesgeuluso.

    ReplyDelete