'Dwi'n gofyn y cwestiwn am ddau reswm. Yn gyntaf mae wedi fy synnu cymaint o gefnogwyr Llafur soled 'dwi wedi siarad efo nhw wrth ganfasio yma yn Arfon, tros y diwrnodiau diwethaf sydd wedi diflasu'n llwyr. Mae hynny'n cyd fynd efo'r awgrym
hwn ar wefan etholiadol orau Prydain,
Politicalbetting.com yn ogystal a'r gyfres o bolau diweddar sy'n rhoi Llafur yn drydydd o ran pleidleisiau ar lefel Prydeinig.
Mae Ian Lucas yn poeni'n fawr yn Wrecsam, a mae hynny gan un o hoelion wyth y Blaid Lafur yn lleol.
ReplyDeleteDiddorol iawn.
ReplyDelete