Mi fydd yna lawer o bobl eraill yn ‘sgwennu am ddigwyddiadau heddiw, felly mi edrychwn ar yr etholiad cyffredinol o ongl ychydig yn wahanol.
Yn wahanol i’r pleidiau unoliaethol nid yr etholiad yma ydi’r un bwysicaf i Blaid Cymru – etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf fydd yr un allweddol i ni – yr etholiad fydd yn penderfynu pwy fydd yn arwain llywodraeth Cymru am bedair blynedd. Arwain llywodraeth Cymru o 2011 ddylai fod yn brif darged i’r Blaid. Llywodraeth sy’n cael ei harwain gan genedlaetholwyr fydd y ffordd mwyaf effeithiol o amddiffyn y wlad yn ystod y blynyddoedd anodd sydd i ddod.
Byddai bod mewn sefyllfa i fargeinio mewn senedd grog hefyd yn bwysig iawn, iawn wrth gwrs - ond hyd yn oed os na fydd hynny'n bosibl mi fyddai llwyddiant yn gosod y cywair ar gyfer etholiadau 2011.. Felly mae’n bwysig bod y Blaid yn perfformio’n gryf fis nesaf. Dyma ddylai’r targedau fod yn fy marn bach i:
1) Perfformio’n gryf ym mhob un o’r seddi sy’n cael eu dal gan y Blaid ar lefel Cynulliad ar hyn o bryd – Ynys Mon, Arfon, Aberconwy, Meirion Dwyfor, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr a Llanelli. Golyga hyn ennill neu ddod yn ail agos.
2) Perfformio’n gryf mewn amrediad o seddi eraill – Gorllewin Clwyd, y ddwy sedd Sir Benfro, Castell Nedd, Cwm Cynon, y Rhondda, Pontypridd, Caerffili, Islwyn a Gorllewin Caerdydd. Golyga hyn ddod yn ail, neu’n drydydd cryf.
3) Cael canran uwch o’r bleidlais tros y wlad nag a gafwyd erioed o’r blaen mewn etholiad cyffredinol. Golyga hyn fod yr ochr iawn i 15%.
Ydi’r targedau uchod yn heriol? Ydynt wrth gwrs – ond maent hefyd yn rhai sy’n bosibl i’w gwireddu. Mae gan y Blaid pob dim i ymladd trosto - yn 2010 1 2011.
Mae isio ychwanegu Aberconwy i rhif 1 a byswn i'n ychwanegu De Clwyd i rhif 2.
ReplyDeleteFel arall... amdani!
Targed arall ddylai Plaid Cymru anelu amdano ydi cyrraedd y trothwy 200,000 o bleidleisiau am y tro cyntaf ar y lefel hon. Cwbl gyrraeddadwy - gallai fod yn lifeline os nad ydi pethau'n mynd yn wych yn yr etholaethau.
ReplyDeleteO ran yr etholaethau, dwi'm yn meddwl bod 'dod yn ail cryf' yn ddigon yng Ngheredigion nac Ynys Mon (er y bydd Ynys Mon yn anodd iawn ei hennill) - fel yn 2005, rhaid i Blaid Cymru wirioneddol ennill yma i hawlio llwyddiant yn yr etholiad.
Dylid adio Aberconwy i'r seddi yn rhestr (1).
ReplyDeleteAc Aberconwy, siwr. Peidied a gadael Phil allan!!!
ReplyDeleteDwy sedd ydy "Castell Nedd Port Talbot" wrth gwrs - Castell Nedd ac Aberafan. Castell Nedd fydd y tir mwyaf ffrwythlon i Blaid Cymru
Sori gyfeillion - dylai aberconwy fod ar y rhestr wrth gwrs - ac mae dwy sedd yng Nghastell Nedd Port talbot, sef Castell Nedd ac Aberafan.
ReplyDelete'Dwi i ffwrdd o gartref ac mae fy mynediad i'r We yn gyfyng - felly 'dwi'n gwneud pob dim ar frys gwyllt mae gen i ofn!