Efallai y byddai'n syniad hel enghreifftiau o Lib Dem Resymeg yn ystod yr ymgyrch. Rhesymeg ydi hwn sy'n cael ei ddefnyddio yng nghyd destun etholaeth unigol er mwyn cefnogi achos y Lib Dems, ond petai'n cael ei ddefnyddio'n ehangach byddai'n ddistrywiol i achos y blaid honno.
Dyma ddwy enghraifft sy'n cael eu defnyddio yng Ngheredigion ar hyn o bryd:
1) Mae'n well fotio i'r Lib Dems (na Phlaid Cymru) am bod ganddynt dim mwy o aelodau seneddol, ac felly mae ganddynt fwy o ddylanwad i hyrwyddo buddiannau Ceredigion. Mae'r rhesymeg yma'n rhyw hanner gweithio yng Ngheredigion, ond petai'n cael ei ddefnyddio yn ehangach byddai'n ddistrywiol i'r Lib Dems - pam pleidleisio i'r Lib Dems efo eu tim cymharol fach nhw o aelodau seneddol pan y gallech fotio i Lafur neu'r Toriaid sydd efo timau mwy o lawer? Gellid defnyddio'r ddadl hefyd i annog pobl i beidio a fotio i'r Lib Dems yng Ngheredigion mewn etholiad cynulliad. Faint o fet na fyddwn yn ei chlywed yn 2011?
2) Only the Lib Dems can win here. Mae'r ddadl yma tros wleidyddiaeth negyddol yn nodweddu'r Lib Dems mewn llawer o etholaethau ar hyd a lled Cymru (a thu hwnt), er enghraifft - Ceredeigion - fotiwch i ni yn lle'r Welshies drwg 'na - Canol Caerdydd - fotiwch i ni yn lle'r Llafur drwg 'na. Brycheiniog a Maesyfed - fotiwch i ni yn lle'r Toris drwg 'na. Petai'r rhesymeg yn cael ymestyn ar hyd Cymru (ac y byddai pobl yn ddigon gwirion i'w gredu) yna byddai pleidlais y Lib Dems yn syrthio trwy'r llawr - mewn lleiafrif gweddol fach o etholaethau yn unig maent yn gyntaf neu'n ail.
Mae pob plaid yn rhedeg y math yma o dacteg i rhyw raddau ac mae hynny i raddai helaeth iawn oherwydd natur Cynta i'r Felin yn etholiadau SS.
ReplyDeleteTa waeth, bydd angen i Blaid Cymru ennill rhyw 43% o'r fôt yng Ngheredigion gan y bydd y LibDems yn corlannu holl bleidleisiau gwrth-Welshie y sir.
Nid fod pob pleidleisiwr LibDem yn wrth-Gymraeg ond dyna fydd yr is-neges i nifer o bleidleiswyr nad sydd eisiau 'gormod' o Gymraeg a Chymreictod.
Wn i ddim am y sylw uchod - derbynnir yn gyffredinol bod Plaid Cymru wedi 'cornelur farchnad' o ran pleidleisiau'r di-Gymraeg yn y sir, yn enwedig yn y 90au - efallai nad ydi hynny mor wir rwan fodd bynnag
ReplyDeletePetai hynny'n wir fyddai yna ddim i boeni amdano - mae yn agos i hanner pleidleiswyr Ceredigion yn ddi Gymraeg.
ReplyDelete