Mae'r gyfres o bolau sydd wedi eu rhyddhau ers y sioe nos Iau (mae'r diweddaraf yn rhoi'r Lib Dems ar y blaen o ran pleidleisiau) yn galonogol i'r Lib Dems wrth gwrs - ond mae hefyd yn dda i Lafur. Er mai trydydd fyddant o ran pleidleisiau pe gwireddid y polau, byddant yn dod yn gyntaf o ran y seddi y gallant ddisgwyl eu hennill.
Mae'r holl beth yn drychineb o'r radd flaenaf i'r Toriaid ar y llaw arall. Flwyddyn yn ol roedd ganddynt oruwchafiaeth o fwy na 10% yn y polau. Erbyn heddiw mae'n ymddangos yn bosibl y bydd Toriaid Cameron yn 2010 yn llai poblogaidd na rhai Michael Howard yn 2005.
Penderfyniad trychinebus Cameron i gymryd rhan yn y sbloets ydi un o'r prif resymau am y sefyllfa sy'n ei wynebu heno. Yn draddodiadol 'dydi'r sawl sydd ar y blaen ddim yn mentro cymryd rhan mewn digwyddiad o'r fath rhag ofn rhywbeth tebyg i'r hyn sydd newydd ddigwydd. Mae'r blog yma eisoes wedi trafod pam ddigwyddodd hyn - oherwydd bod y sgandal treuliau wedi newid strwythur gwleidyddiaeth etholiadol Prydain trwy gryfhau'r pleidiau llai, a bod y Toriaid eisiau ail greu'r hen drefn tair plaid sydd wedi bod mor garedig tuag atynt tros y degawdau.
Mi fydd darllenwyr cyson y blog hwn yn fwy nag ymwybodol nad oes gen i fawr o amser i'r Lib Dems a'u nonsens gwirion. Serch hynny mae'n anodd peidio a gwenu wrth feddwl am Cameron yn gwneud yr hyn a allai fod yn benderfyniad etholiadol mwyaf trychinebus yn hanes diweddar y DU oherwydd ei fod, fel ei blaid, o ran greddf yn wrth ddemocrataidd ac am gadw grym gwleidyddol mewn cyn lleied o ddwylo a phosibl.
Y reddf yma sydd hefyd y tu ol i wrthwynebiad y Toriaid i gyfundrefn bleidleisio gyfrannol a theg. Mae'r dymuniad i gadw cymaint a phosibl o bleidiau rhag ymarfer grym (trwy hyrwyddo a chynnal cyfundrefn etholiadol llwgr) a rhag cael sylw cyfryngol (trwy ganoli'r ymgyrch ar ymryson arlywyddol ar y teledu) yn dechrau edrych fel petai am gadw'r Toriaid eu hunain rhag ymarfer grym am gyfnod eto.
Trist iawn, very sad.
mae'n siwr fod Cameron yn cicio ei hun ... a'i MPs yn ei gicio yntai!
ReplyDeleteFe all weithio o blaid y Toriaid os gallan nhw gymryd fôts UKIP yn ôl a dweud fod pleidlais i'r LibDems yr un peth â phleidlais i Gordon Brown.
... neu penderfyniad dogmatig Simon Thomas i gadw gwisgo clustdlws yng Nheredigion gan lwyddo i wneud pobl yn ddrwgdybus ohono am ddim rheswm o gwbl. Llwyddo i ddieithro lot o bobl am reswm hollol wirion fel nad oedden nhw'n gwrando ar ei neges.
ReplyDeleteColli o 200 er mwyn edrych fel rhywun o 1985 yn styc yng ngwleidyddiaeth asgell chwith y ddegawd.