Sunday, April 18, 2010

Louise i ymddiswyddo o Lais Gwynedd

Mae yna sibrydion o gwmpas bod Louise Hughes i ymddiswyddo o Lais Gwynedd mewn cyfarfod o'r grwp nos fory.

Yn anffodus mae'n eithaf sicr y bydd y cyfarfod yn un hynod anodd am resymau eraill fydd yn dod yn amlwg maes o law.

5 comments:

  1. Anonymous2:47 pm

    Mae Louise Hugehs wedi bod yn hynod o lwyddianus yn hyrwyddo ei hun yn y Cambrian News ym Meirionnydd - mae hi wedi cael tudaeln flaen oleiaf bedair gwaith eleni!

    Mae hyn yn adleywrchu yn dda arni hi, yn dangos ei gallu i roi sylw i faterion sydd o bwys iddi, ond mae'n adlewyrchu yn wael iawn ar y Cambrian News, gan fod nifer o'r straeon yn ddi-ddim yn aml, ac mae pethau llawer pwysicach yn cael eu gwthio i ryw gongl ddi-nod yn y papur.

    Yn anffodus i louise Hughes, mae'n ymddangos fel eu bod hi wedi mynd i gredu ei 'hype' ei hunan. Mae'r holl sylw yma wedi arwain iddi gredu mae hi yw'r peth gorau i daro Meirionnydd ers Edward 1af.

    Ynghylch yr ail hanesyn yr wyt ti'n ei gyfeirio ato, mae'n syfrdanol ac yn codi braw ar rywun. Mae'r stori yn fras ar wefan BBC Cymru erbyn hyn - trist iawn i bawb sydd yn rhan o'r helynt.

    ReplyDelete
  2. Ymddiheuriadau i bwy bynnag adawodd sylwadau digon diddorol yma yn gynharach. Mae gen i broblem fechan ar y system ac mi chwalwyd y neges yn anfwriadol.

    Mae croeso i chi eu hail 'sgwennu ac mi driwn ni eto.

    ReplyDelete
  3. Anonymous6:02 pm

    Blydi hel, newydd ddarllen y stori am GER ar wefan y BBC, ceisio llofruddio! mae o yn y cach go iawn rwan ta!

    ReplyDelete
  4. rhydian fôn8:52 pm

    Hen amser i Gyngor Gwynedd wneud fel y dylent fod wedi'r stori cyntaf, a'i wahardd fel cynghorydd. Mae o'n dod a llawer o ohebiaeth drwg i ddrws y Cyngor!

    Ar ran Llais Gwynedd, wel, "you can judge a man by his friends"... Dechrau'r diwedd i Aeron Maldwyn a'i griw annifyr, gobeithio!

    ReplyDelete
  5. Yn anffodus mae'r sefyllfa wedi mynd ymhell y tu hwnt i un y gall y Cyngor ymateb iddi na dylanwadu arni.

    Gadael i bethau fod ydi'r gorau Rhydian, mae yna adegau i wleidydda ac mae yna adegau i beidio. Adeg i beidio ydi hwn.

    ReplyDelete