Felly refferendwm amdani.
Mi'r oeddwn i'n siarad efo ffrind yn y Black Boy y diwrnod o'r blaen. Roedd o am bleidleisio yn erbyn pwerau ychwangol er iddo bleidleisio Ie yn 97. Roedd ganddo amrywiaeth rhyfeddol o resymau - ddim yn hoffi'r ffaith bod ei fab yn gorfod gwneud y bacaloriat Cymreig a ddim yn hoffi ymateb Jane Hutt i'w lythyr yn cwyno am y peth, y ffaith nad oes yna ffatrioedd yng Nghaernarfon - mi'r oedd gennym Bernard Wardle a Ferodo cyn dyddiau'r Cynulliad (mae Bernard Wardle wedi cau ers 1980), bod Ieuan Wyn Jones methu siarad Saesneg yn iawn, bod pob dim yn mynd i'r De ac y bydd Abertawe mor gyfoethog a Chaerdydd mewn dim, bod arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu, y bydd aelodau'r Cynulliad yn helpu eu hunain i bres y cyhoedd yn union fel San Steffan gyda ag y byddant yn cael y cyfle ac ati ac ati.
Mi fydd yr ymgyrch yn erbyn wedi chanoli ar ragfarnau / ofnau fel yr uchod - felly oedd hi yn 97 a 79, a felly y bydd hi eleni. Codi ofnau a chreu hysteria ydi'r unig ffordd o ddadlau yn erbyn rhoi fframwaith effeithiol a chynaladwy i'r broses cymryd penderfyniadau gwleidyddol yng Nghymru.
Y perygl mwyaf i'r ochr Ia ydi ymateb mewn ffordd or emosiynol a gwneud mor a mynydd o bwysigrwydd hanesyddol y bleidlais. Byddai hynny'n gweddu i naratif hysteraidd y gwrth ddatganolwyr.
Effeithiolrwydd y Cynullad a'i allu i gymryd penderfyniadau ystyrlon a gweithredu arnynt er lles pawb ddylai fod yn ganolbwynt i'r ymgyrch. Dyna'r cyferbyniad gorau i'r naratif afresymegol o du'r gwrth ddatganolwyr sy'n ein haros, a dyna'r ffordd orau o gadw'r lled gonsensws anarferol ymysg gwledyddion Cymreig (neu rai'r Cynulliad o leiaf) at ei gilydd.
Cai - Yn gyntaf i ateb dy gwestiwn...gyda'n gilydd h.y. Pawb sydd am weld grymoedd y Cynulliad yn cael ei gryfhau yn uno a rhoi gwahaniaethau eraill i un ochr am 'chydig.
ReplyDeleteOND dwi wedi dweud eisioes, mi fydd hi'n ddiawl o job cael pobl i gymryd diddordeb a mentro i bleidleisio o gwbwl ac fentrai i ddweud rwan mai cael a chael fydd hi i ni sicrhau pleidlais IA.
Pam? Methiant y Cynulliad i wireddu ar ddisgwyliadau'r cyhoedd boed rheini yn gam neu yn gymwys. Heb os mae'r Cynulliad yn cael ei weld fel sefydliad sydd wedi gwarchod y De ar draul ni yma yn y Gogledd a'r Canolbarth.
Mae pethau fel y setliad difrifol i Gynghorau'r Gogledd a'r methiant i gyllido addysg ar draws Cymru yn gyfartal a Lloegr hefyd yn ffactorau.
Fydd angen ymgyrch i argyhoeddi y bydd pleidlais IA yn newid hynny..Tydi'r Cynulliad ddim wedi ennill ei phlwyf gyda llawer ac fel ddywedodd rhywun mae angen ennill calonau a meddyliau pobl mae fynnu i ni a nhw yr Aelodau Cynulliad a'r Llywodraeth i ddwyn perswad ar y pobl OND fel dwi eisioes wedi dwedu fydd hi ddim yn hawdd gan fod cymaint wedi ei siomi hyd yma. Dwi'n edrych ymlaen i'r her a gobeithio fod pawb arall sydd a Chymru yn gynta' hefyd.
Cai- Yn anffodus, mae agweddau tebyg i'r rhai a fynegwyd gan dy ffrind yn gyffredin iawn hyd yn oed yn yr ardaloedd Cymraeg. Dwi'n cytuno hefo Gwilym yn fan hyn y bydd hi'n dalcen caled iawn i berswadio pobl gyffredin am werth mwy o bwerau waeth beth bynnag a ddywed ein gwleidyddion yn y Bae.Dan ni yng nghanol y dirwasgiad gwaetha ers blynyddoedd, mae yna wasgu erchyll ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac wrth gwrs mae'r sgandal am dreuliau aelodau seneddol yn gefnlen anffodus i'r cyfan. Dwi'n meddwl mai'r gobaith gorau am bleidlais IA ydi aros tan flwyddyn nesaf- a chyfuno'r refferendwm hefo etholiadau'r cynulliad. Byddai hynny'n sicrhau'r turn-owt ac fe ellid cysylltu'r dadleuon dros mwy o bwerau i bolisiau penodol, real, y gall pobl gyffredin weld fydd yn effeithio arnyn nhw. Byddai hefyd yn fodd o niwtraleiddio bygythiad True Wales, fyddai fel arall yn gallu bod yn ffocws i'r teimladau gwrth-wleidyddol presennol.
ReplyDeleteAled - Mae'n ddrwg genai anghytuno efo ti ar amseriad y refferendwm ond byddai ei gynnal ar ddiwrnod yr etholiadau yn gwanhau yr ymgyrch IA yn sylweddol gan ei wneud hi'n anodd iawn i gydweithio ar un llaw gyda Phleidiau eraill tra ar y llaw arall yn ymgyrchu yn ei herbyn..Chydal a Elfyn Llwyd "That would be bloody confusing!".
ReplyDeleteMi glywais i Dr Dai Lloyd ar y radio bore 'ma. Gofynnodd Jonathan? Evans AS Ewropeaidd iddo sut byddai yn gwerthu'r syniad o gael mwy o bwerau i'r cynulliad. Mi ddywedodd.....gyda'r pwerau ychwanegol byddai Cymru wedi medru creu deddf i stopio ysmygu yn gynt nag y gwneaethwyd ac yn ail....y byddem yn gallu deddfu er mwyn atal pobl dan 18 i ddefnyddio gwelyau haul. Dyna'r ddau engraifft! Ie'r tebot.....dyna'r math o bethau roeddwn wedi bod yn breuddwydio amdano. Braf cael gwleidyddion gyda dychymyg.
ReplyDelete