Ar ol cychwyn ei yrfa fel arweinydd y Blaid Doriaidd yn addo
new style of politics, mae David Cameron yn mynd yn fwyfwy personol ac annifyr yn y ffordd mae'n gwleidydda. Mae'r
ymysodiad heddiw ar Brown lle mae'n rhagrithiol ddigon, yn cyfuno'r busnes costau efo sylwadau personol yn nodweddiadol o hyn.
Fel rheol arwydd nad oes yna wahaniaethau polisi mawr ydi gwleidydda personol - ymgais i greu gwahaniaeth pan nad oes yna wahaniaeth mewn gwirionedd. Dyna sydd yn digwydd yma wrth gwrs - twidyldym yn ymosod ar twidyldi oherwydd nad yw'n gallu meddwl am reswm call pam y byddai rhywun eisiau rhoi ei groes wrth ymyl enw twidyldym yn hytrach na thwidyldi.
Panig efallai oherydd mae'r gap yn poliau opiniwn mynd yn llai.
ReplyDelete