Saturday, February 27, 2010

Mae Peter Hain o'r farn eich bod yn ddwl fel het

Mae yna lawer o resymau tros beidio hoffi Peter Hain, ond mae'n rhaid i mi ddweud mai'r hyn sydd yn fy nghythruddo fi fwyaf am y dyn ydi ei fod yn fy ystyried yn (a benthyg term hyll braidd sy'n cael ei ddefnyddio'r ffordd hyn) thico.

Yn ol Peter mae'n hanfodol bod Democratiaid Rhyddfrydol a Phleidwyr yn fotio i'w blaid o er mwyn cadw'r hen Doris drwg yna sy'n bwyta babis a lluchio'r henoed i mewn i ffynnon, allan o 10 Stryd Downing. Naratif wleidyddol sy'n dangos dirmyg a gwawd at ddeallusrwydd y sawl mae wedi ei gyfeirio ato ydi hwn yn y bon - fi - a chithau yn ol pob tebyg. Mae'n gwneud hyn am ddau reswm.

Yn gyntaf does yna ddim mewath o dystiolaeth y byddai unrhyw wahaniaeth o gwbl yng nghanlyniad yr etholiad petai pob copa walltog o bleidleisiwr Lib Dems a Phlaid Cymru yn pleidleisio i New Labour. Yn sicr, does yna ddim un etholiad Prydeinig yn y gorffennol y byddai ei chanlyniad wedi bod yn wahanol petai'r Pleidwyr a Lib Dems Cymru i gyd wedi fotio i blaid Peter.

Yn ail mae'n gofyn i ni fynd i fyd gwleidyddol simplistaidd iawn - Llais Gwyneddaidd (os caf fathu term), lle mae gwleidyddiaeth yn cael ei ddeall mewn termau cwasi grefyddol o wrthdaro rhwng drygioni di bendraw a daioni gogoneddus. Rhyw fath o fersiwn Cymru gyfan o naratif gwleidyddiaeth yr anterliwt.

'Dwi'n gwybod mai cyffredinol ydi dirmyg Peter at ddeallusrwydd pobl Cymru - mae'n ein hystyried yn thicos ar lefel torfol yn hytrach nag yn unigol, ond fedra i ddim peidio a chymryd y peth yn bersonol mae gen i ofn. Mae'n dra anhebygol y bydd Peter byth yn ymddangos ar fy stepan drws i yn canfasio, a da o beth ydi hynny - i Peter.

Peter yn ei wisg beicio

No comments:

Post a Comment