Fydda i ddim yn ymweld a blog y Cynghorydd Aeron Jones yn aml am resymau amlwg, ond o fynd am dro yno ddoe mae'n rhaid i mi ofyn y cwestiwn hwn - oes yna rhyw fath o gystadleuaeth wyrdroedig rhwng aelodau etholedig Llais Gwynedd i wneud y gyhariaeth fwyaf hysteraidd ac ymfflamychol bosibl?
Chwi gofiwch i arweinydd y feicroblaid gymharu polisiau Cyngor Gwynedd i'r rhai a arweiniodd at wagio ucheldiroedd yr Alban o'i phoblogaeth er mwyn gwneud lle i ddefaid a cheirw yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg, ac fe gofiwch hefyd mor rhyfeddol o amhriodol ydi'r gymhariaeth honno.
Mae Aeron yn ceisio mynd ymhellach na'r giaffar - yn llawer pellach. Mae'n egluro ei wrthwynebiad i bolisiau'r hen Gyngor Gwynedd (hynny yw yr un o 2004 i 2008 am wn i) trwy gyfeirio at y gerdd enwog a briodolir i'r diwynydd Almaeneg, Martin Niemöller. Dyma'r fersiwn o'r gerdd mae yn dewis ei dyfynu.
First they came for the Communists and I did not speak out because I was not a Communist
Then they came for the Socialists and I did not speak out because I was not a Socialist
Then they came for the trade unionists and I did not speak out because I was not a trade unionist
Then they came for the Jews and I did not speak out because I was not a Jew
Then they came for me and there was no one left to speak out for me.
First they came for the Communists and I did not speak out because I was not a Communist
Then they came for the Socialists and I did not speak out because I was not a Socialist
Then they came for the trade unionists and I did not speak out because I was not a trade unionist
Then they came for the Jews and I did not speak out because I was not a Jew
Then they came for me and there was no one left to speak out for me.
Os mai Martin Niemöller oedd yn gyfrifol am y gerdd, mae' n debyg iddi gael ei chyfansoddi yn y blynddoedd yn dilyn y rhyfel, roedd Niemöller wedi treulio'r rhyfel yng ngwersylloedd llofruddio Sachsenhausen a Dachau. Cyfeiriad ydi'r gerdd at y cyfnod yn dilyn dyfodiad y Natsiaid i rym a chyn yr Ail Ryfel Byd. Y cyfnod yn benodol ydi'r un yn dilyn 1933 pan gafodd y rhan fwyaf o hawliau sifil yn yr Almaen eu dileu. Yn eironig roedd Niemöller yn lled gefnogol i'r Natsiaid ar y cychwyn, ond trodd yn eu herbyn o ddeall eu bod yn disgwyl i bobl roi'r wladwraeth o flaen yr Eglwys - dyna wir gyd destun y dyfyniad.
Ymhen blwyddyn neu ddwy wedi dileu hawliau sifil roedd tua 100,000 o ysbiwyr yn cadw golwg ar pob agwedd ar fywyd trigolion y wlad - roedd yn gyffredin i elynion y weinyddiaeth i gael eu harestio, eu arteithio a'u llofruddio. 'Does yna ddim ffigyrau manwl ar gael, ond mae'n debyg i rai degau o filoedd o Gomiwnyddion a Sosialwyr farw ar ol cael eu harestio gan yr awdurdodau. Mae'n debyg i rai degau o filoedd o Almaenwyr a ystyrid yn 'ddiffygiol' o safbwynt genetig gael eu llofruddio yn ystod y cyfnod hefyd er mwyn amddiffyn 'purdeb' y genedl. Dioddef o anableddau corfforol a salwch meddwl oedd y rhan fwyaf o'r anffodusion hyn. Er na laddwyd niferoedd mawr o Iddewon yn ystod yr amser arbennig yma, collodd y rhan fwyaf eu eiddo a'u dinasyddiaeth Almaeneg a gadawodd tua 200,000 ohonynt y wlad. Wna i ddim mynd ar ol y cyfnod dilynol - yr Ail Ryfel Byd - mae' rhan fwyaf o bobl yn gwybod i hyd at 70 miliwn o bobl (gan gynnwys hyd at 52 miliwn o sifiliaid) farw yn ystod y cyfnod hwnnw.
Rwan, beth bynnag am anghytundebau Aeron a Llais Gwynedd efo polisiau datblygu ac ail strwythuro addysg yr hen Gyngor Gwynedd, 'dwi'n weddol siwr fy mod yn gywir i ddweud na lwyddodd y corff hwnnw i lofruddio cymaint ag un person. 'Dwi ddim yn meddwl iddynt wneud unrhyw ymdrech i ladd neb chwaith. Mae'r gymharieth felly yn un grotesg o amhriodol - mwy felly nag un Owain Williams hyd yn oed. 'Dydi anghytuno efo Llais Gwynedd ar faterion gwleidyddiaeth leol arferol ddim yn cymharu efo mynd i dai pobl yng nghanol y nos, a mynd a nhw i ffwrdd a'u harteithio nhw i farwolaeth.
Ar un olwg mae rhywbeth yn ddigri am y cymhariaethau lloerig o amhriodol yma, ond mae yna ochr mwy difrifol i'r peth i gyd. Mae rhai pobl yn ymateb yn gwbl hysteraidd i agweddau ar wleidyddiaeth Gwynedd ar hyn o bryd - ac mae hynny'n fater o ofid. Er enghraifft mae'r ymgyrch yn erbyn siop gig un o berthnasau cynghorydd a bleidleisiodd tros gau Ysgol Aberdyfi yn amlwg yn ymateb hysteraidd ac anheg. Felly hefyd y llythyr dienw ac anymunol a dderbyniodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn ddiweddar. A bod yn deg a Llais Gwynedd maent wedi condemio'r llythyr a anfonwyd at Mrs Jones yn gwbl ddi amwys.
Ond yr hyn mae'n rhaid ei ddeall ydi hyn - mae pobl yn ymddwn mewn ffordd hysteraidd pan mae'r cyd destun ehangach hysteraidd. Mae tueddiad gan Lais Gwynedd i ddefnyddio ieithwedd amhriodol ac eithafol yn cyfrannu at yr awyrgylch yma. Mae tueddiad Gwilym i wneud defnydd hynod o fynych o eiriau fel brad, neu ragrith, neu gelwydd ac ati, ac ati wrth drafod gwleidyddiaeth leol yn cyfrannu at yr awyrgylch anffodus yma. Felly hefyd gymariaethau boncyrs ac eithafol ei gyd gynghorwyr.
Mae'n iawn i Gwilym ddweud Dorwch Gorau I Hyn Rwan, pan mae pethau'n mynd yn hyll, ond y gwir syml amdani ydi bod perygl gwirioneddol i ieithwedd a rhethreg Llais Gwynedd greu awyrgylch sy'n arwain at ymddygiad hysteraidd ac amhriodol.
Fydda i'n mynd draw i flog Aeron Jones weithiau os oes angen hwyl go iawn arna' i. Mae o bob amser yn gysur mawr gwybod waeth pa mor ofnadwy ydi'ch blog chi bod 'na o leiaf un sy'n waeth!
ReplyDeleteFel arfer fy nghyfaill mwyn ti ddim yn ystyried am un funud cyfraniad Plaid Cymru i'r "ymddygiad hysteraidd ac amhriodol"...Ti'n gweld Cai, os ydi pobol yn teimlo fod gwleidyddion yn anwybyddu eu hawliau, barn a disgwyliadau yna mae nhw yn mynd i ffyrnigo a throi yn erbyn ni y gwleidyddion...dwi wedi derbyn llythyrau cas, beirniadaeth hallt ac yn y blaen ac i bwynt mae o'n dderbyniol...dwi ddim am un funud fodd bynnag am dderbyn bwrdwn y llith yma ti wedi sgwennu sydd yn y bon yn ymosodiad un llygeidiog (fel arfer) ar unigolion a Phlaid sydd yn sefyll yn gryf ac yn gadarn dros rhai llai ffodus, gwasanaethau a'n cymunedau...rhywbeth oeddet ti'n falch iawn o'r Blaid am ei wneud blynyddoedd yn ol..trueni o'r mwyaf nad yw'n arddel hynny mwyach.
ReplyDeleteAm be yn union mae dy Blaid yn sefyll drosto bellach Cai? Dwi'n gobeitho nad yw'r ymateb yma yn un "hysterical"...dwi yn ceisio fod yn gymhedrol ac yn agored efo ti a dy gyfeillion fel arfer.
Fel dwi wedi ei ddwued o'r blaen, mae esboniad syml iawn. Mae Aeron Maldwyn yn hynod, eithriadol o dwp. Dim ond lefel o ddealltwriaeth ar lefel Fox News yn yr UDA allai ganiatau araith sydd yn ymhlyg a chymhariaeth rhwng Cyngor Gwynedd a polisiau Adolf hitler.
ReplyDelete