Sunday, December 06, 2009

Croeso Sian

Wedi tynnu sylw at flog newydd Guto Dafydd, 'dwi newydd sylwi bod ei fam, Sian Tir Du wedi dechrau blogio hefyd. Croeso iddi hithau.

Tybed os mai dyma'r unig esiampl i fam a mab yn blogio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi gymrwn i fet go lew ar hynny. Mi fydd hi'n ddiddorol edrych os fyddan nhw'n cymryd yr un lein ar faterion y dydd!

2 comments:

  1. Siân4:15 pm

    Diolch am y croeso.
    Mae'r ddolen o blogmenai wedi gwneud y byd o les i nifer yr hits - wyddwn i ddim dy fod ti mor boblogaidd!

    ReplyDelete
  2. Wel ti'n gwybod fel dwi mor ffeind efo pawb pob amser.

    ReplyDelete