Saturday, October 03, 2009
Iwerddon yn fotio 'Ia'
Er mai canran isel iawn o'r blychau pleidleisio sydd wedi eu hagor, mae'n weddol amlwg mai 'Ia' fydd y canlyniad yn ail etholiad Lisbon - a hynny gyda mwy na 60% o'r bleidlais. Mae hyn yn gryn newid ers Lisbon 1. Mae hefyd yn adlewyrchiad o'r hyn ddigwyddodd yn 2001 - 2002 lle cafwyd dwy refferendwm Nice. 'Doedd y canlyniad cyntaf ddim yn dderbyniol i sefydliad gwleidyddol Ewrop, felly cafwyd ail refferendwm yn gofyn fwy neu lai yr un cwestiwn.
Wna i ddim gwneud mor a mynydd o'r refferendwm - mae gen i deimladau cymysg am Lisbon, ond bydd yn ddiddorol gweld os bydd hen batrwm mewn refferendwms (os mai dyna lluosog refferendwm) Gwyddelig.
Mae refferendwm yn beth cyffredin iawn yn yr Iwerddon - mae'n rhaid cael un cyn addasu'r cyfansoddiad mewn unrhyw ffordd. Yn yr ystyr yna mae'r Iwerddon yn fwy democrataidd nag unrhyw wlad arall yn Ewrop.
Ond ceir gwahanol fathau o refferendwm, gan gynnwys rhai ynglyn a materion cymdeithasol a chyfansoddiadol. Mae rhai o'r rhai cyfansoddiadol yn cael eu hystyried yn fygythiad i'r Weriniaeth gan gydrannau o gymdeithas y wlad. Roedd Lisbon a Nice yn syrthio i'r categori yma.
Mewn refferendwms sy'n ymwneud a materion cymdeithasol (ysgariad neu erthyliad er enghraifft), mae ardaloedd ceidwadol (gwledig a Gorllewinol yn aml), yn pleidleisio'n drwm yn erbyn unrhyw newidiadau. Mae cymunedau dosbarth gweithiol, trefol yn pleidleisio'n drwm iawn o blaid - weithiau'n drymach na neb arall. Mae cymunedau dosbarth canol yn tueddu i fod yn rhyddfrydig.
Fodd bynnag, mewn refferendwms sy'n ymddangos i gynnig newidiadau sy'n bygwth y Weriniaeth, mae'r cymunedau dosbarth gweithiol, trefol a'r rhai ceidwadol gwledig yn pleidleisio yn yr un ffordd. Er enghraifft yn ystod Lisbon 1 pleidleisiodd Donegal North East - lle gwledig iawn, anghysbell a hynod geidwadol a Dublin South West sydd wedi ei ganoli ar stad tai cymdeithasol enfawr Tallaght, yn yr un ffordd yn union (tua 65% yn erbyn). Roedd etholaethau cyfoethog iawn Dublin South a Dublin South East yn drwm o blaid y cynnig.
Mae'r patrwm yma'n mynd yn ol i gyfnod cyn creu'r Weriniaeth - ceidwadwyr gwledig a phroletariaid trefol oedd fwyaf taer tros ei sefydlu.
Bydd yn ddiddorol gweld os bydd y patrwm hwnnw'n cael ei ailadrodd unwaith eto.
Mae rhywbeth trist iawn, iawn mewn gweld Iwerddon yn dewis ildio mwy fyth o'i sofraniaeth genedlaethol i'r wladwriaeth ganolog, annemocrataidd y mae Brussels yn ceisio'i orfodi ar bawb ohonom.
ReplyDeleteMae'n eironig iawn hefyd mai bod yn rhan o'r clwb Ewropeaidd(a methu gallu gosod eu cyfraddau llog eu hunain ac ati)sydd wedi arwain at eu twll du economaidd presennol. Ac eto, wrth bleidleisio mor gryf o blaid IA heddiw, mae nhw cystal a dweud MWY, MWY!
Dwi'n gefnogol iawn i referenda fel egwyddor- ond mae'n amlwg iawn na chafodd y refferendwm hwn ei gynnal mewn modd teg a gwrthrychol. Cafodd y cwbl ei heijacio gan ddiddordebau busnes mawr y tu hwnt i Iwerddon sy'n malio dim am fuddiannau pobl gyffredin y wlad ond yn hytrach am fwydo'r anghenfil yn Brussels fydd yn caniatau iddyn nhw barhau i wneud fel fyd a fynnent.