Sunday, October 04, 2009
A dyna i ni rhywbeth arall am ras y crwbanod_ _ _
Nid Huw Lewis ydi fy hoff wleidydd i - ond 'does yna ddim amheuaeth ei fod yn cynrychioli safbwyntiau gweddol gyffredin yn y Blaid Lafur Gymreig. Byddai dyn yn meddwl y byddai'n gymharol hawdd i wleidydd adnabyddus a chyn weinidog, sydd yn cynrychioli ffrwd pwysig o ran meddylfryd ei blaid, roi ei enw ymlaen i sefyll am arweinyddiaeth y blaid honno. Mae hynny'n arbennig o wir pan mae'r ddau ymgeisydd tebygol arall yn cynrychioli agweddau cwbl wahanol i rai Huw.
Ond na - 'dydi pethau ddim cweit yn gweithio felly yn y Blaid Lafur Gymreig. O farnu o flog Vaughan, cafodd Huw gryn drafferth i ddod o hyd i'r chwech Aelod Cynulliad roedd eu hangen er mwyn cael rhoi ei enw ymlaen. Petai ganddo fwy na chwech, go brin y byddai wedi gorfod rhoi ei enw ei hun ac un ei gymar, Lynne Neagle ar y papur.
Erbyn meddwl mae sylwadau Lynne ar y mater yn rhai digon anisgwyl: - Now, there are three good candidates to choose from. Carwyn's easy, affable manner is an attractive quality in the Assembly Chamber; Edwina's decisive nature as Health Minister has been a valuable asset - but I don't live with either of them.
A barnu o'r sylwadau hynny mae'n rhyw ymddangos nad ydi Lynne eisiau pleidleisio i Huw mewn gwirionedd, ond ei bod yn teimlo bod rhaid iddi arwyddo ei bapur er mwyn osgoi misoedd o dreulio min nosweithiau ynghanol ysbeidiau hir o ddistawrydd pwdlyd, gwrando ar ddrysau yn clecian a chysgu cefn wrth gefn efo'i phartner.
Am blaid ryfedd, wir Dduw.
I fod yn deg rhan yn unig o sylwadau Lynne Neagle oedd y dyfyniad hwnnw! Serch hynny mae trothwy o chwech yn uchel. Er gwybodaeth roedd 'na ambell i AC nad ydynt yn bwriadu pleidleisio i Huw oedd yn ystyried ei enwebu pe na bai wedi cyrraedd y trothwy. Hynny oherwydd yr union resymau yr wyt yn eu crybwyll.
ReplyDeleteAh Vaughan, y gwahaniaeth rhwng blog gwleidyddol fel fy un i a dy un di ydi dy fod ti'n gorfod ceisio bod yn deg.
ReplyDelete'Dydw i ddim yn gorfod llafurio o dan y faich yna.