Saturday, September 26, 2009
A oes gwersi i'w dysgu o'r 'trai Spring'?
Blogmenai ydi'r unig flog yn y byd mawr crwn sy'n gwneud arfer o gymharu gwleidyddiaeth etholiadol Cymru a gwleidyddiaeth etholiadol Iwerddon - hyd y gwn i. 'Dwi ddim yn siwr bod cymharu dwy wlad sydd mewn rhai ffyrdd yn debyg, ond sydd o ran system etholiadol a diwylliant gwleidyddol yn gwbl wahanol, yn syniad da. 'Dwi'n rhyw led ymddiheuro pob tro 'dwi'n gwneud cymhariaeth, a 'dwi'n gwneud hynny eto y tro hwn.
Beth bynnag - mae clymbleidio yn rhan anatod o ffurfio llywodraeth yn Iwerddon - y dyddiau hyn mae'n ymylu at fod yn amhosibl ffurfio llywodraeth heb wneud hynny. Mae clymbleidio yn gysyniad newydd yng Nghymru, ac mae'n amlwg o nifer o sylwadau diweddar ar y We a thu hwnt nad ydi oblygiadau bod mewn tirwedd etholiadol sy'n gorfodi clymbleidio wedi treiddio'n llawn i'r ymwybyddiaeth dorfol eto.
'Rydym eisoes wedi edrych ar sut y llwyddodd John A Costello i achub ei blaid - Fine Gael - trwy ffurfio clymblaid llywodraethol ym 1948. Y ddadl pan gynhyrchais y blogiad hwnnw oedd os oedd yn briodol i'r Blaid glymbleidio o gwbl. Y ddadl y tro hwn ydi os y dylai'r Blaid dynnu allan o glymblaid, neu newid partneriaid mewn clymblaid lywodraethol. Efallai y gall dau etholiad Gwyddelig mwy diweddar fod o gymorth i ni.
Yn fy marn bach i etholiad 1992 yng Ngweriniaeth Iwerddon oedd yr un mwyaf dramatig ers un 1918, pan sgubodd y wlad gan Weriniaethol anferth. Ton etholiadol o fath gwahanol a gafwyd ym 1992. Dwblodd y Blaid Lafur Wyddelig ei chynrychiolaeth yn y Dail o 15 i 33. Dwblwyd hefyd y bleidlais i bron i 20%. Yn yr ardaloedd trefol oedd y rhan fwyaf o'r gefnogaeth newydd, ond llwyddodd y blaid ryddfrydig yma i gael mwy na 10% o'r bleidlais yn rhai o geiri ceidwadiaeth Pabyddol Gwyddelig - llefydd fel Donegal North East er enghraifft. I mi roedd hyn yn fwy syfrdanol na'r buddigoliaethau trefol anferth.
'Roedd llawer (gan fy nghynnwys i) yn darogan ar y pryd bod newid strwythurol, hir dymor ar ddigwydd yng ngwleidyddiaeth yr ynys. Hyd hynny roedd yr ymgiprys gwleidyddol yn Iwerddon wedi croni o gwmpas yr hafn a agorwyd mewn cymdeithas Gwyddelig gan y Rhyfel Cartref. Roedd gwleidyddiaeth i raddau helaeth yn llwythol - gyda'r sawl oedd a'u teuluoedd wedi gwrthwynebu'r Cytundeb Eingl Wyddelig yn cefnogi Fianna Fail, a'r sawl a'i cefnogodd yn pleidleisio i Fine Gael. Roedd mwy iddi na hynny wrth gwrs - ond goroesodd y Rhyfel Cartref yng ngwleidyddiaeth Iwerddon am ddegawdau wedi i'r bwled olaf gael ei danio. Byddai aml i un yn dadlau bod y rhyfel yn waelodol i wleidyddiaeth y Weriniaeth hyd heddiw.
Canlyniad hyn oedd system oedd yn cynhyrchu dwy blaid - Fine Gael a Fianna Fail - oedd i rhywun o'r tu allan yn edrych yn ddigon tebyg i'w gilydd. Roeddynt yn ddwy blaid adain Dde - y naill efallai ychydig yn fwy rhyddfrydig yn gymdeithasol, a'r llall yn gogwyddo ychydig i'r Chwith weithiau mewn polisiau economaidd. 'Doedd yr hollt De / Chwith oedd yn nodweddu gwleidyddiaeth etholiadol gweddill Ewrop ddim yn ffactor ar yr Ynys Werdd.
Ac yna daeth etholiad 1992. 'Doedd y polau piniwn ddim wedi darogan yr hyn ddigwyddodd - ond roedd perfformiad rhyfeddol o gryf y Blaid Lafur a'u harweinydd carismataidd, Dick Spring - yn rhoi lle gwirioneddol i gredu bod yr hen drefn ar ddymchwel. Fianna Fail oedd y blaid gryfaf o hyd - ac wedi ychydig wythnosau o'r hym hymian arferol, cafwyd clymblaid FF / Llafur. Cafodd Llafur 6 o'r 15 sedd yn y cabinet, a gwnaethwyd Spring yn Tánaiste - dirprwy brif weinidog. Albert Reynolds, arweinydd FF oedd y prif weinidog. Cafodd Spring fuddugoliaeth bersonol anferth yn ei etholaeth ei hun - Kerry North. Bathwyd y term Spring Tide - llanw Spring i ddisgrifio'r hyn oedd wedi digwydd.
Cafwyd newidiadau sylweddol yn fuan iawn mewn polisi cyhoeddus - cynllunwyd ar gyfer refferendwm i gyfreithloni ysgariad, cyfreithlonwyd rhyw hoyw am y tro cyntaf, cafwyd deddfwriaeth i ddelio efo llygredd llywodraethol, caniatawyd gwethiant offer atal cenhedlu ac ati.
Syrthiodd yr olwynion oddi ar y wagen ym 1994. Yn dilyn un neu ddwy o is etholiadau gwael i Lafur, cafodd Spring homar o ffrae efo Reynolds ynglyn a phenodiad llywodraethol. Wna i ddim mynd i mewn i'r mater yma - mae'n gymhleth. Bu'n rhaid i Reynolds ymddiswyddo, a chymerwyd ei le gan Bertie Ahern a'r disgwyl oedd y byddai llywodraeth FF / Llafur newydd yn cael ei ffurfio - ond nid dyna beth ddigwyddodd. Y diwrnod cyn roedd y trafodaethau i fod i ddod i ben, newidiodd Spring ei feddwl - ac aeth ati i ffurfio clymblaid anhebygol efo Fine Gael a'r Democratic Left. Roedd rhaid i Bertie Ahern ddisgwyl tair blynedd arall cyn gwireddu uchelgais oes.
Ac wedyn daeth 1997 ag etholiad arall yn ei sgil. Collodd Llafur yr oll roeddynt wedi ei ennill yn 92 - fwy neu lai. Yng ngeiriau'r Irish Independent, roedd hi'n Payback Time. Cadwodd Spring ei sedd, ond bu'n rhaid iddo ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Lafur. Collodd ei sedd yn yr etholiad canlynol - un 2002 i wleidydd carismataidd arall - Martin Ferris - dyn oedd wedi treulio cyfran dda o'i fywyd fel oedolyn mewn carchar, ac a oedd yn ol pob tebyg yn un o uchel swyddogion yr IRA. 'Dydi'r Blaid Lafur byth wedi ad ennill y tir a gollwyd, ac mae strwythurau gwaelodol gwleidyddiaeth Gwyddelig yn dal yn ddigon tebyg i'r hyn a fuont ers dau ddegau cynnar y ganrif ddiwethaf.
'Rwan, nid y neidio o un gwely gwleidyddol i'r llall oedd yr unig reswm tros berfformiad sal y Blaid Lafur Wyddelig, ond roedd yn sicr yn ffactor pwysig. Llwyddodd y blaid i dynnu blewyn o drwyn pawb oedd yn gogwyddo tuag at FF, pawb oedd yn gogwyddo tuag at FG a phawb nad oeddynt yn hoff o'r Chwith eithafol mewn un tymor llywodraethol. Gwnaethant hefyd i'r blaid ymddangos yn ddi gyfeiriad ac yn anwadal.
Byd gwleidyddol hollol wahanol? Efallai. Trefn etholiadol hollol wahanol? Efallai - ond dim ond ffwl fyddai'n dweud nad oes yna wers i'w hystyried o gwbl.
Rhaid cydnabod nad ydwyf yn gwybod dim am wleidyddiaeth yr Iwerddon a gan hynny yn methu gwneud sylw parthed geirwiredd dy ddadansoddiad am dranc Mr Spring.
ReplyDeleteGwendid dy ddadl, wrth gwrs, yw'r honiad bod tynnu allan o glymblaid yn beth drwg i'w wneud ar bob achlysur.
Pwrpas cytundeb clymblaid yw i ddwy blaid, neu ragor, dod i gytundeb am hyd dymor llywodraeth.
Un o arfau'r pleidiau llai sy'n glymbleidiol yw'r bygythiad i dynnu allan os nad ydynt wedi ennill eu goliau tymor byr, tymor canolig neu, yn agosach at etholiad, eu dymuniadau hir dymor.
Y goliau sy'n cael eu hepgor pob tro, wrth gwrs, yw'r rhai hir dymor y rhai sy'n cael eu torri jest cyn etholiad er mwyn creu dadl etholiadol.
Yn achos y Blaid Lafur yng Ngymru y cytundeb i'w torri er mwyn creu'r ddadl yw'r un mae'r pleidwyr yn gwlychu eu trôns amdani ac am hepgor pob siom arall am dani, sef yr un parthed y refferendwm. Addewid na chaiff byth ei gyflawni er mwyn cadw Plaid Cymru yn rhan o'r glymblaid hyd y dadrithiad olaf.
Mae clymblaid "Cymru'n Un" yn un wahanol i glymbleidiau arferol eraill Ewrop. Prin ar y diawl yw'r achosion o'r brif wrthblaid yn glymbleidio a chyn plaid y llywodraeth fwyafrifol er mwyn cynnal yr hen lywodraeth.
Oherwydd bod y glymblaid yn unigryw dylid disgwyl canlyniadau unigryw hefyd, sef yr ail blaid yn cael llawer mwy o fendith o'r ymrwymiad na sydd yn arferol o glymblaid cyffredin.
Yn anffodus yr hyn a gaed o Gymru'n Un, hyd yn hyn, yw Plaid Cymru yn cael ei drin fel unrhyw blaid fach ymylol arall sydd mewn glymblaid.
Mae Cymru'n Un wedi mynd heibio ei hanner amser.
Cwestiwn syml i'r rhai a oedd yn frwdfrydig o'i blaid
Lle, yn union, mae'r brawf o'i fanteision i Gymru a'r achos cenedlaethol wedi dod i'r amlwg?
Os na ellir ateb y cwestiwn efo llond dalen o enghreifftiau sy'n cyfeirio at faniffesto’r Blaid, mae'r Blaid wedi ei drin fel mỳg a hanner.
Dwi'n credu dy fod yn dysgu'r wers anghywir fan hyn Cai. Bu'r perfformiad rhyfeddol i Lafur yn Iwerddon yn 1992 yn adlewyrchiad o siom, dicter a rhwystredigaeth y wlad gyda ymddygiad llwgwr FF tan arweinyddiaeth y gwleidydd ardderchog ond anonest, Charles Haughey.
ReplyDeleteYr oedd sgandalau ariannol y cyfnod yn wirioneddol ryfeddol ac os dwi'n cofio'n iawn y mae ymddygiad FF a chriw dethol y dosbarth llywodraethol yn Iwerddon dros y cyfnod hwn wedi bod yn destun ymchwiliadau cyhoeddus drudfawr byth ers hynny (yr enwog Tribunals).
Yn wahanol i'r hyn ti'n gofio yr wyf yn weddol sicr fod disgwyl perfformiad da gan Lafur - y syndod efallai oedd pa mor dda y bu iddynt berfformio. Serch hynny, yr hyn oedd yn allweddol oedd fod elfen o'r perfformiad hwn yn adlewyrchu dicter y bobl gyda'r 'status quo' a'r mwyaf amlwg o'r pleidiau sy'n cynrychioli'r 'status quo' yn y Weriniaeth ydi FF.
Cangymeriad Spring oedd denu pleidlais brotest wrth sefydliadol ac wedyn denyddio y bleidlais honno i gynnal Llywodraeth FF oedd wedi pechu'r boblogaeth yn anfaddeuol. Yn rhyfedd iawn, pan fu i Spring neidio allan o'r cangymeriad hwn ni chafodd unrhyw glod. Yr oedd achub FF yn y man cyntaf wedi suro'r berthynas rhwng Llafur a'r bobl (fel y dangosodd yr is-etholiadau). Yr oedd troi at lywodraeth mwy radical a lliwgar (yr enfys wreiddiol dwi'n credu) yn gam rhy hwyr i adfer yr ymdeimlad o siom a ddaeth o achub FF yn y man cyntaf.
Oes yna gymhariaeth felly? Wel yma yng Nghymru fe gafwyd addewid o ddiwedd ar Lafur gan un blaid wleidyddol yn 2007. Bu posteri a thaflenni yn herio pobl Cymru i bledleisio i Lafur er mwyn 'kick Labour into touch' yn effeithiol mewn sawl etholaeth. Cafwyd canlyniad gwael iawn i Lafur gyda'r ddwy wbrif wrthblaid yn manteisio. Cafwyd y posibilrwydd o ddiwedd ar dra arglwyddiaethu Llafur yng Nghymru. Ond yr hyn a wnaeth y Blaid oedd cadw Llafur mewn grym.
Oes yna wersi o'r Iwerddon? O'r hyn dwi'n ddarganfod ar stepan drws oes yn bendant. O ddenu cefnogaeth ar sail herio'r brif blaid lywodraethol nid syndod ydi gweld dicter yn ymateb pobl i benderfyniad i gadw'r blaid lywodraethol honno mewn grym. Efallai fod hyn yn fwy amlwg mewn seddi gydag anian ceidwadol (c fach) ond serch hynny, y mae'n wers y dylai unrhyw ffwl ystyried yn ofalus.
Diolch bois - dau gyfraniad da.
ReplyDeleteHRF - 'dwi'n derbyn nad ydi dangos bod oblygiadau anymunol i dorri cytundeb weithiau yn golygu bod hynny'n digwydd yn ddi eithriad. 'Dwi'n credu ein bod eisoes wedi edrych ar fanteision y Cytundeb o berspectif cenedlaetholgar yma - https://www.blogger.com/comment.g?blogID=8485235&postID=955189004623623892
Guto - Mae dy gyfraniad yn un diddorol a gwybodus - ond 'dwi'n anghytuno 100% efo fo. Mae llawer o Wyddelod yn derbyn dy thesis, ond i mi mae'n camddeall beth ddigwyddodd yn 92, ac mae'n camddeall y ddilema sy'n ei gwneud mor anodd i'r Blaid Lafur Gwyddelig ffynnu.
Petai perfformiad 92 wedi bod yn ymateb etholiadol i'r sgandalau yn ymwneud a Haughey, yna sut mae egluro i lwyddiant Llafur wneud mwy o niwed i FG nag i FF? Collodd FG bron gymaint o'u pleidlais, a mwy o seddi. Yn yr etholaethau hynny lle enilliodd Llafur seddi o'r newydd, nid FF oedd yn dioddef yn amlach na pheidio. Cymerer Dublin North East er enghraifft, lle enilliodd Llafur ddwy sedd o'r newydd - FG a DL gollodd eu seddi iddynt - nid FF. Lle collodd FF seddi, roeddynt yn aml (nid pob tro wrth gwrs) i bobl o'r 'gene pool' FF - PDs ac ati.
Hefyd wrth gwrs, pan chwalodd y bleidlais Lafur yn 97 nid i FF aeth eu pleidlais - mi chwalodd ar hyd y lle i gyd. Awgrym pellach nad pleidleiswyr FF oedd yn protestio a bleidleisiodd iddynt.
Un o nodweddion ymgyrch 92 oedd nad oedd Llafur yn fodlon dweud efo pwy y byddant yn ffurfio clymblaid o gael dewis. Fel rheol maent yn dweud eu bod am glymbleidio efo FG - er mwyn cael ail a thrydydd pleidleisiau cefnogwyr FG. Mae llawer o fewn Llafur yn dadl;au bod hyn yn gamgymeriad, a'u bod yn cael mwy o bleidleisiau cyntaf pan maent yn osgoi clymu eu hunain i FG. Mae hanes etholiadol yn tueddu i'w cefnogi.
Problem sylfaenol Llafur ydi nad ydi llawer iawn o bobl dosbarth gweithiol yn hoffi FG. Mae ffrwd ol genedlaetholgar i'r blaid a dydi hynny ddim yn apelio at ddosbarth gweithiol sy'n aml yn ffyrnig o genedlaetholgar. Mae FG hefyd yn broblem i'r bobl hyn oherwydd hen raniadau dosbarth.
Mae llawer mwy o bobl dosbarth gweithiol yn pleidleisio i FF nag i Lafur - ac mi fydd hynny'n parhau mae'n debyg tra fydd Llafur yn cael ei chysylltu'n agos efo FG.
'Dwi'n deall na fyddant yn dweud gyda phwy maent yn bwriadu clymbleidio y tro nesaf - ac mi fydd hynny ynghyd a'r llanast economaidd yn rhoi cyfle newydd iddynt.
Serch hynny, diolch am y cyfraniad - mi wnes i fwynhau ei ddarllen.
Rhydd i bawb ei farn Cai ac wrth gwrs mae croeso i ti anghytuno gyda fi, ond 100%?
ReplyDeleteYn y man cyntaf, fel ti'n nodi yn dy ddarn gwreiddiol fe ddechreuodd y Blaid Lafur gael traed oer oherwydd canlyniadau is-etholiadau tra'r oedd y blaid yn dal mewn clymblaid gyda FF. Yn wir, onid y canlyniadau hyn oedd yn gyfrifol am y naid i ddwylo'r Enfys?
O gael canlyniadau gwael CYN newid clymblaid onid anodd yw datgan fod y colli seddi sylweddol ddigwyddodd yn 1997 yn ganlyniad i newid ceffyl blaen?
O ran dicter yr etholwyr ddim yn arwain at golli seddi sylweddol i FF - dwi'n anghytuno. Yr oedd canlyniad 1992 ymysg y salaf i'r peiriant etholiadol rhyfeddol hwnnw ei gael yn hanes y Weriniaeth. Trwy'r wythdegau bu i Haughey ymdrechu i gael llywodraethu heb angen am glymblaid ond ni lwyddodd - canlyniadau siomedig i FF. Yr oedd 1992 yn waeth.
I mi yr hyn sy'n ddiddorol yw fod cwymp pleidlais FF i lai na 40% yn wael yn 1992 ac yr oedd cwymp ei canran o'r bleidlais hefyd yn fwy na FG. Yr hyn arweiniodd at golledion mwy sylweddol FG yw fod trefn STV Iwerddon a pheiriant etholiadol hynod gryf FF wedi golygu fod y blaid honno wedi dioddef llai na'r hyn wnaeth FG. I raddau mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith fod gan FG fwy o aelodau dan fygythiad gan eu bod yn llawer llai tebygol o weld ethol aelodau ar frig rhestr etholaethau unigol -yn wahanol iawn i FF.
Croeso i ti anghytuno ond 100%? Dwi ddim yn credu fod fy nehongliad o'r wers hanesyddol o reidrwydd yn llai cywir na'th ddehongliad di!
GB - O gael canlyniadau gwael CYN newid clymblaid onid anodd yw datgan fod y colli seddi sylweddol ddigwyddodd yn 1997 yn ganlyniad i newid ceffyl blaen?
ReplyDeleteMae canlyniadau gwael yn normal yn y Weriniaeth i blaid sy'n llywodraethu. Mewn blynyddoedd diweddar ychydig iawn o obaith fu gan pleidiau yn y sefyllfa honno.
GB - O ran dicter yr etholwyr ddim yn arwain at golli seddi sylweddol i FF - dwi'n anghytuno. Yr oedd canlyniad 1992 ymysg y salaf i'r peiriant etholiadol rhyfeddol hwnnw ei gael yn hanes y Weriniaeth. Trwy'r wythdegau bu i Haughey ymdrechu i gael llywodraethu heb angen am glymblaid ond ni lwyddodd - canlyniadau siomedig i FF. Yr oedd 1992 yn waeth.
Nid dyna beth oeddwn yn ei ddadlau. Dadlau oeddwn i na ellid egluro'r cynnydd ym mhleidlais Llafur yng nghyd destun amhoblogrwydd FF. Cafwyd cymaint o bleidleisiau gan gefnogwyr FG - mewn amserau cyffredin byddai gogwydd yn syth i FG.
GB - Croeso i ti anghytuno ond 100%? Dwi ddim yn credu fod fy nehongliad o'r wers hanesyddol o reidrwydd yn llai cywir na'th ddehongliad di!
Mae'r ddau ohonom yn gweithio ar ffeithiau cytunedig, ond mae dy ddehongliad di yn anwybyddu effeithiau dilema sydd wrth galon gobeithion etholiadol y Blaid Lafur Wyddelig
A bob parch Cai dwi'n credu dy fod yn malu glo man yn glapia gyda'r atebion hyn i fy mhwyntiau.
ReplyDeleteTa waeth, dwi'n credu fod yna wers syml, mae 'na oblygiadau etholiadol i ddewis clymbleidio!
GB - Ta waeth, dwi'n credu fod yna wers syml, mae 'na oblygiadau etholiadol i ddewis clymbleidio!
ReplyDeleteOes - ond mae yna oblygiadau i dynnu allan o glymblaid hefyd.
Ia Cai, ond fedri di ddim tynnu allan heb fod wedi ymuno yn y man cyntaf!
ReplyDeleteDyna, fel mae'n digwydd, oedd fy mhwynt. Dwi'n derbyn yn llwyr fod yna oblygiadau sylweddol o ddewis rhopi diwedd ar gytundeb clymbleidio.
A dyna ni ta - ddim am y tro cyntaf rydym wei cael, er mawr syndod i'r ddau ohonom, ein bod yn yr un corlan.
ReplyDeleteIt's really a nice and helpful piece of info. I'm happy that you shared
ReplyDeletethis helpful information with us. Please keep us up to
date like this. Thank you for sharing.
Here is my web site hardwood floors
It's really a nice and helpful piece of info. I'm
ReplyDeletehappy that you shared this helpful information with us.
Please keep us up to date like this. Thank you for sharing.
my blog :: hardwood floors
Also see my website :: click the next document
naturally like your web site however you have to take a look at the spelling on several of your
ReplyDeleteposts. A number of them are rife with spelling
problems and I find it very bothersome to tell the reality then again
I will certainly come again again.
engineered hardwood floors
Also visit my website refinishing hardwood floors
Yesterday, while I was at work, my cousin stole my iphone and tested to see if it
ReplyDeletecan survive a 25 foot drop, just so she can be a youtube sensation.
My iPad is now destroyed and she has 83 views.
I know this is totally off topic but I had to share it with someone!
My web blog: hardwood flooring
Attractive section of content. I just stumbled upon your web site and in accession capital to assert that I acquire actually enjoyed account your blog posts.
ReplyDeleteAny way I will be subscribing to your augment and
even I achievement you access consistently quickly.
Also visit my web site :: hardwood flooring
my website :: hardwood floors
Thank you a bunch for sharing this with all people you
ReplyDeleteactually recognize what you are talking about! Bookmarked.
Please also seek advice from my site =). We may have a link exchange agreement between us
my site ... click here to go there now
Hi! Quick question that's totally off topic. Do you know how to make your site mobile friendly? My site looks weird when viewing from my iphone 4. I'm trying to find a template or plugin that might be able
ReplyDeleteto fix this issue. If you have any suggestions, please share.
With thanks!
Also visit my homepage ... http://www.flooranddecoroutlets.com/hardwood-solid.html
I wanted to thank you for this excellent read!
ReplyDelete! I definitely enjoyed every bit of it. I have you bookmarked to check out new stuff you post…
my homepage; treatment for toenail fungus
Howdy just wanted to give you a quick heads up. The text in your post seem to be
ReplyDeleterunning off the screen in Internet explorer. I'm not sure if this is a formatting issue or something to do with web browser compatibility but I thought I'd post
to let you know. The layout look great though! Hope you get the issue resolved soon.
Thanks
My blog post - nail fungus zetaclear
I'm curious to find out what blog system you have been working with? I'm having some minor security issues with my latest
ReplyDeletesite and I'd like to find something more secure. Do you have any recommendations?
Here is my site: toenail fungus treatment
my web page: nail fungus zetaclear
I am truly thankful to the holder of this website
ReplyDeletewho has shared this enormous post at at
this time.
Here is my blog - maid services
Hi there! I could have sworn I've been to your blog before but after browsing through some of the posts I realized it's
ReplyDeletenew to me. Anyways, I'm certainly pleased I found it and I'll be
bookmarking it and checking back regularly!
Stop by my page: find employment
I've read a few excellent stuff here. Definitely worth bookmarking for revisiting. I wonder how a lot attempt you place to make the sort of excellent informative site.
ReplyDeleteLook into my blog post: cleaning services phoenix