Dwi'n siwr y gall darllenwyr y blog hwn feddwl am fil ac un o resymau pan na ddylai Cymro gwerth ei halen bleidleisio i'r Blaid Lafur.
Maen nhw'n wrth Gymreig (neu mae tipyn go lew ohonyn nhw beth bynnag), maen nhw'n gelwyddog a dan din, maen nhw'n hoff iawn o ryfeloedd tramor, maen nhw'n piso pres cyhoeddus i lawr y toiled, mae ganddyn nhw obsesiwn am osod targedau am pob dim dan haul, maent yn cynnal agenda gwladoli ac agenda gwrth undebau llafur Mrs Thatcher, mae eu dau dymor cyntaf yn rheoli yng Nghaerdydd wedi methu, mae'r economi wedi mynd i'r diawl er gwaethaf yr holl falu cachu am fod wedi dod o hyd i ffordd o atal boom & bust y Toriaid.
Ond er gwaethaf hyn oll nhw ydi'r blaid sydd eisiau bod yn deg, sydd eisiau ail ddosbarthu cyfoeth ac ati.
Wel na fel mae'n digwydd. Gweler hyn.
Neu a chymryd y tablau allan o'r wefan:
Ia - dyna fo - 'dydi Llafur ddim wedi ail ddosbarthu cyfoeth o gwbl ers dyddiau Mrs T. I'r gwrthwyneb - os rhywbeth maent wedi stwffio mwy o bres i bocedi eu cefnogwyr cyfoethog na stwffiodd yr ast o Grantham i bocedi ei chefnogwyr cyfoethog hi.
O farnu o'u record plaid y dyn cyfoethog ydi'r Blaid Lafur - plaid Dug Westminster, plaid Richard Branson, plaid Bernie Ecclestone, plaid Arglwydd Sainsbury. Mi gaiff y dyn bach tlawd fynd i'r diawl - does ganddo fo ddim byd i'w gynnig i'r hwch Lafur fawr.
Oes yna unrhyw un sy'n gallu meddwl am un rheswm da - neu gweddol dda - neu gwael tros bleidleisio i'r Blaid Lafur?
Fedra i ddim meddwl am reswm dros bleidleisio i'r Blaid Lafur, ond mi fedraf ychwanegu rhesymau eraill dros BEIDIO - fel y ffaith eu bod wedi codi trethiant, eu bod yn gwasgu gwariant cyhoeddus i lefelau anghynaladwy, eu bod yn fiwrocrataidd wallgo, wedi creu 3,000 o droseddau ychwanegol, ac yn cadw oddeutu 600 o eitemau data personol gwahanol am bob un dinesydd yn y wladwriaeth. Sydd yn fwy na gadwai'r Stasi yn Nwyrain yr Almaen gomiwnyddol cyn dymchwel wal Berlin.
ReplyDeleteA'r 42 diwrnod wrth gwrs.
ReplyDelete