Hmm - ymddengys bod rhywbeth o'r enw Andrew Lansley sy'n rhywbeth i'w wneud efo rhywbeth o'r enw'r Blaid Geidwadol o'r farn nad oes esgys tros fod yn dew. A dweud y gwir mae o'r farn (os dwi'n deall ei safbwynt yn iawn) y dylid gorfodi pobl dew i gymryd mwy o ymarfer a bwyta'n gallach.
Diddorol iawn - os caiff ei blaid ei hethol mewn deunaw mis gallaf ddisgwyl dictat gan Andrew yn dweud wrthyf faint ydwyf i fod i'w fwyta a pham mor aml yr ydwyf i fod i loncian i fyny Lon Las Menai.
Efallai y bydd hefyd eisiau dweud wrthyf pam mor aml y dyliwn gymryd gwydriaid o win, pam mor aml y caf fynd allan am ffag (hy byth), pam mor aml mae'n briodol i mi gael cyfathrach rywiol a pham mor aml y bydd gwr bonheddig yn ymweld a'r toiled yn ddyddiol.
Andrew - ffyc off, meindia dy fusnes a cheisia ddod o hyd i rhywbeth gwell i wneud efo dy amser na bysnesu ym mywydau pobl sy'n gwahanol i ti yn normal. Dim ond nytar o'r radd eithaf fyddai eisiau dweud wrth bobl eraill faint maent yn cael pwyso.
Mae o'n iawn!
ReplyDeleteA thithau'n bennaeth ysgol 'rwy'n synnu nad oes cyfeiriad at ran fwyaf gwirion / dieflig o'r cynllun yn dy bodt.
ReplyDeleteMae'r Ceidwadwyr am annog "positive peer pressure" er mwyn sicrhau bod plant tenau yn cynorthwyo plant tew i golli pwysau! Swnio'n debyg i fwlio hen ffasiwn imi, ond os oedd o'n gweithio yn Eton erstalwm, pwy ydw i i godi amheuon?