Bu etholiad yng Ngogledd Iwerddon a gwelwyd perfformiad gwael gan y ddwy blaid fawr ‘gymhedrol’. Yn fy marn i mae’r canlyniadau yn arwyddocaol iawn am sawl rheswm. Yn y blog hwn byddaf yn edrych ar yr effaith tymor canolig y bydd y canlyniadau yn eu cael ar bleidiau’r Gogledd.
Bellach yr UUP ydi pedwerydd plaid y Gogledd o ran nifer pleidleisiau. Mae hyn yn anhygoel. Y blaid yma ydi plaid fwyaf llwyddiannus Iwerddon erioed. Llwyddodd y blaid i ddal grym yn ddi dor am hanner canrif – prin iawn, iawn o bleidiau gorllewinol sydd wedi gwneud hyn o’r blaen. Ddegawd yn ol – yn etholiad cyffredinol 1997 roedd eu pleidlais yn dod i 32.7% o’r cyfanswm, cawsant 10 aelod seneddol. Yn etholiad cyffredinol 2005 un aelod seneddol oedd ganddynt – yn North Down. Ar ffigyrau dydd Mercher byddai honno wedi cwympo hefyd. Yn etholiad y cynulliad 2003 cawsant 22.7%. Ddydd Mercher 14.9% oedd eu canran. Mae llawer o’u haelodau etholedig yn hen – rhai ohonynt yn hen iawn.
Mae’n weddol amlwg fod y blaid yn datgymalu, a bod ei dyfodol tymor canolig yn hynod amheus. Does ganddyn nhw ddim dyfodol ar eu ffurf presenol.
Dydi cwymp yr SDLP ddim mor amlwg – cwymp o 24.1% yn 1997 i 15.2% ddydd Mercher, ac mae ganddynt dei Aelod Seneddol San Steffan o hyd. Gallant yn hawdd gadw’r rheiny yn yr etholiad San Steffan nesaf – oherwydd pleidleisio tactegol gan Unoliaethwyr.
Ond o edrych yn fanwl ar y tirewdd gwleidyddol ‘dydi eu rhagolygon tymor canolig fawr gwell na rhai’r UUP. Ystyrier y canlynol:
Roedd cwymp canran pleidlais yr SDLP rhwng 2003 a 2007 yn dod i bron i 2%. Os bydd cwymp tebyg yn digwydd o’r etholiad yma i’r un nesaf yn 2011 (os y bydd yn mynd rhagddi) bydd yr effaith etholiadol yn arwyddocaol iawn). Roedd cwymp sylweddol mewn lleoedd arwyddocaol iawn iddyn nhw – F/S Tyrone 5%, North Antrim 3%, Gorllewin Belfast 6%, South Antrim 3%, North Belfast 3%, Upper Bann 3%.
I sicrhau sedd yng nghynulliad Gogledd Iwerddon mae’n rhaid sicrhau ychydig tros 14% o’r bleidlais erbyn diwedd y cyfrif – ac mae’n bwysig cyrraedd yn agos at hynny yn y cyfrif cyntaf. Os oes mwy nag un ymgeisydd dydi 14% hyd yn oed ddim yn sicrhau sedd. Cawsant fwy nag 14% ar y cyfrif cyntaf yn West Tyrone ond methwyd sicrhau sedd oherwydd bod y bleidlais wedi hollti dair ffordd a ni ddaeth yn ol at ei gilydd erbyn y diwedd.
Y sefyllfa ar hyn o bryd yn yr etholaethau yma yw F/S Tyrone 14% - N Antrim 12.2% - W Belfast 12.2% - S Antrim 11.1%, N Belfast 13.7%, Upper Babb 12.7%. Byddai cwymp tebyg i’r un a gafwyd rhwng 03 ac 07 yn colli’r cwbl o’r rhain iddynt - mae'n debyg. Mae’n ddigon posibl y byddai un o’u tair sedd yn eu cadarnle yn Foyle yn syrthio hefyd. Eu hunig darged posibl fyddai Strangford. Byddant i lawr i tua 10 sedd, tra bod SF gyda ymhell tros 30.
Felly beth fydd y drefn bleidiol ar gyfer y dyfodol?
Yn fy marn i wneith Fianna Fail ddim caniatau i SF ddominyddu cenedlaetholdeb y Gogledd. Os ydi’r cwymp yn y bleidlais SDLP yn parhau byddant yn trefnu yn y Gogledd, a maes o law byddant yn cystadlu mewn etholiadau yno – ac yn llyncu’r SDLP. Bydd y gystadleuaeth ar ochr werdd y spectrwm gwleidyddol rhwng FF a SF. Bydd hyn yn newid sylfaenol – ar hyn o bryd cystadleuaeth a geir rhwng plaid genedlaetholgar ac un ol genedlaetholgar. Bydd y gystadleuaeth yn y dyfodol rhwng dwy blaid genedlaetholgar Iwerddon gyfan.
Ar yr ochr arall bydd newid hefyd. Clymblaid digon anesmwyth ydi’r DUP – er gwaethaf ei llwyddiant. Mae dwy adain gweddol amlwg iddi – un ffwndementalaidd sy’n cael ei gynrychioli gan bobl fel Jim Allister a Willie McCrea, ac un ‘ymarferol’ sy’n cael ei chynrychioli gan bobl fel Peter Robinson a Nigel Dodds – pobl sydd eisiau ennill ac ymarfer grym gwleidyddol. ‘Dydi’r ffwndementalwyr ddim eisiau rhannu grym gyda chenedlaetholwyr. Yn ei galon mae Paisley efo’r ffwndementalwyr, ond ar hyn o bryd mae’n eistedd rhywle yn y canol. Fo ydi’r glud sy’n dal ei blaid at ei gilydd, ac ni fydd yn arwain y blaid am lawer iawn o amser eto. Yn fy marn i bydd y blaid yn hollti wedi iddo adael, gyda lleiafrif yn gwrthod rhannu grym, ond y mwyafrif yn ffurfio plaid newydd – ac yn denu’r hyn fydd yn weddill o’r UUP.
Yr SDLP a’r Ulster Unionists oedd prif bleidiau’r Gogledd lai na degawd yn ol . Maes o law byddant (fel y Progressive Democrats, Fine Gael (efallai) y Workers’ Party) yn diflannu. Digwyddodd hyn eisoes i’r Northern Ireland Labour Party, Official SF, Democratic Left y Republican Labour Party, Clann na Poblachta, Clann naTalun, Independent Labour Party, Aontacht Eireann y Nationalist Party a nifer o bleidiau eraill.
Bydd math ychydig yn gwahanol o wleidyddiaeth yn tyfu o’r diflaniad yma.
Yn y blog nesaf byddaf yn bwrw golwg ar ddemograffeg Gogledd Iwerddon, ac yn ystyried beth mae hyn yn ei olygu i’r freuddwyd o Iwerddon unedig.
sylwadau difyr a diddorol. diolch i ti.
ReplyDeletedwi dim yn siwr serch hynny a fyddai cefnogwyr yr SDLP yn troi at FF chwaith. Falle fydd sefydlu Plaid Lafur y Weriniaeth yn y Gogledd yn fwy o fygythiad i SF?
'Dwi ddim yn meddwl.
ReplyDeleteGallai Llafur wneud yn eithaf da mewn rhai mathau o etholaethau trefol - Foyle yn enghraifft dda - neu efallai De Belfast. Ond byddai FF yn llawer mwy tebygol o apelio at bobl sy'n byw mewn lleoedd gwledig ac mewn man drefi - pleidlais geidwadol ydi honno yn ei hanfod - ac mae SF ymhell i'r chwith o'r rhan helyw o'i chefnogwyr yn y lleoedd hynny.
Yn ychwanegol - mae Llafur yn cael mwy na digon o drafferth i ddal y Shinners yn Artain a Finglas heb son am Andytown a Newry.
Mae FF yn fwy proffesiynol - ac mae ganddyn nhw fwy o awch am frwydr etholiadol.