tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post7152495554627742332..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: A oes bradwr yn y ty hwn?Cai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger24125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-49596403578400220252010-05-27T11:22:51.388+01:002010-05-27T11:22:51.388+01:00Anhysbys 10:08 -
"Mae'r broydd Cymraeg y...Anhysbys 10:08 -
"Mae'r broydd Cymraeg yn marw o'ch cwmpas chi ..."

Na 'di! Mae'r nifer a chanran siaradwyr cymraeg ar i fynu yn Nwyfor ac Arfon (os ti'n cymharu census 1991 efo 2001).

O edrych ar Meirionydd, mi fyswn ni'n deud bod di-boblogi, a siaradwyr Cymraeg yn siarad Saesneg efo'i plant an lawer mwy o broblem na cholli un ysgol fach.Ioannoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-24702516746761809152010-05-27T09:37:57.071+01:002010-05-27T09:37:57.071+01:00Anhysbys 11:33
Mae Blogmenai yn iawn. £2.2 miliwn...Anhysbys 11:33

Mae Blogmenai yn iawn. £2.2 miliwn mae Cyngor Gwynedd yn ei gyfrannu at gost Ysgol yr Hendre. Dylid cofio hefyd bod hwn yn dod o gronfa cyfalaf, felly ni fyddai modd ei ddefnyddio i ariannu unrhyw gostau rhedeg ysgol, dim ond costau adeiladu ysgolion newydd.Dyfrighttps://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-37345534479411435772010-05-27T08:50:27.695+01:002010-05-27T08:50:27.695+01:00Dwi dal yn cadw'r hawl i wneud sylwadau ar flo...Dwi dal yn cadw'r hawl i wneud sylwadau ar flogiau pobl eraill!!Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-58805969251691430512010-05-26T23:43:53.334+01:002010-05-26T23:43:53.334+01:00£5.3 miliwn o grant.£5.3 miliwn o grant.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-77457670262987308962010-05-26T23:33:19.815+01:002010-05-26T23:33:19.815+01:00"Anhysbys 8.02 - 'mond gair bach er mwyn ..."Anhysbys 8.02 - 'mond gair bach er mwyn eglurdeb. Pres grant (gan y Cynulliad) sydd yn ariannu ysgol newydd yng Nghaernarfon - nid pres y Cyngor Sir ei hun."

Na - Tua £4.5 miliwn o grant a £4.5 miliwn o arian Cyngor Gwynedd - hyd yma - mae'r cynllun yn dechrau swnio fel Dome Mileniwm.

Dwedodd Dyfrig: "Dwi'n ymwybodol o faint y Rhwyd Diogelwch, ond un elfen o'r gôst ychwanegol ydi hyn, sef cyflog athrawon. Nid yw'r ffigwr yma yn cymeryd i ystyriaeth yr holl arian sydd yn cael ei wario ar gynnal a gweinyddu safle ysgol."

Ydi mae o - mae'r £400,000 rhwyd diogelu yn cynnwys cynnal a gweinyddu. Mae pob ysgol yn derbyn swm o arian trwy fformiwla ar gyfer cyflogau, gweinyddu, cynnal safle ayyb. Mae'r rhwyd yn rhoi arian ar ben hyn os nad ydi o'n ddigon i gyrraedd yr isafswm.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-60927635039434678232010-05-26T22:08:23.632+01:002010-05-26T22:08:23.632+01:00Ond be sy'n cael ei adael AR OL, Aled G J? Cr...Ond be sy'n cael ei adael AR OL, Aled G J? Cragen wag o bentref. Fe allwn ni gryfhau'r Gymraeg yn ein hysgolion yn ddibendraw drwy grynhoi adnoddau - hei, be am adeiladu un ysgol enfawr yng nghanol y sir rywle a hel y plant cynradd i gyd iddi - bydd eu Cymraeg nhw'n WYCH!
Bydd y Gymraeg stafell ddosbarth yn atsain oddi ar furiau newydd hyfryd yr ysgolion ffantastig gwerth miliynau a godir - bydd SGLEIN ar y Gymraeg!!! Ond ar ol tri or gloch, be am tu allan i'r ysgolion? Be am o fewn eu 'cymunedau' fydd prin yn gymunedau erbyn hynny?
Mae'r broydd Cymraeg yn marw o'ch cwmpas chi tra 'dach chi'n rhaffu celwyddau yn esgusodion dros gynghorwyr y Blaid sydd i'w gweld yn poeni mwy am arbed pres nag am ddyfodol yr iaith.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-18163003163408423412010-05-26T22:05:45.252+01:002010-05-26T22:05:45.252+01:00Dwi'n ymwybodol o faint y Rhwyd Diogelwch, ond...Dwi'n ymwybodol o faint y Rhwyd Diogelwch, ond un elfen o'r gôst ychwanegol ydi hyn, sef cyflog athrawon. Nid yw'r ffigwr yma yn cymeryd i ystyriaeth yr holl arian sydd yn cael ei wario ar gynnal a gweinyddu safle ysgol.
O ran y cwestiwn ieithyddol, mae barn arbenigol annibynnol yn awgrymu yn gryf na fydd impact negyddol ar yr iaith Gymraeg. Fel y mae Aled G J yn ei ddweud, mae yr ad-drefnu yma yn creu uned addysgol sydd yn fwy, a sydd a gwell gallu i oroesi i'r dyfodol.
Ystriwch hyn. Beth sy'n digwydd i gymeriad ieithyddol yr ysgol os oes teulu o 10 o Wolverhampton yn symyd i'r Parc? Yn sydyn, mae canran y siaradwyr Cymraeg yn yr ysgol yn cwympo yn ddramatig, ac mae iaith y buarth yn newid. Mae ysgol fwy yn llawer mwy abl i gymhathu menwfudwyr.Dyfrighttps://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-12926253850829112092010-05-26T21:43:18.284+01:002010-05-26T21:43:18.284+01:00Faint o blant sydd yn yr ysgol?Faint o blant sydd yn yr ysgol?Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-32005433749156979482010-05-26T21:41:05.696+01:002010-05-26T21:41:05.696+01:00Dau sylw i un blogiad HOR!
Ti'n dechrau gwegi...Dau sylw i un blogiad HOR!

Ti'n dechrau gwegian efo'r penderfyniad gwirion 'ma i roi'r gorau i flogio yn barod!Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-42429936971042154972010-05-26T21:16:07.096+01:002010-05-26T21:16:07.096+01:00Sori ond dydw i ddim yn derbyn mai dadl ieithyddol...Sori ond dydw i ddim yn derbyn mai dadl ieithyddol ydi hi. Mae pentrefi Cymraeg eu hiaith bywiog yng Ngwynedd a Chymru lle nad oes ysgol i'w chael - nid ysgol ydi cymuned. Gwae ni os ydym yn gwneud y ddau beth yn gyfystyr â'i gilydd, mae hynny'n ei hun yn dangos dirywiad y syniad o gymuned hyd yn oed yng nghefn gwlad Cymru a hynny'n ymhlith y bobl frodorol.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-53699343745909751062010-05-26T21:13:05.438+01:002010-05-26T21:13:05.438+01:00Yn fy marn i, mae rhethreg unllygeidiog C yr I yng...Yn fy marn i, mae rhethreg unllygeidiog C yr I ynghylch yr angen i arbed ysgolion bach doed a ddelo yn eufallu rhag gweld mai cryfhau'r iaith yn yr ardal hon fydd y cynllun hwn, nid ei wanio. Trwy ychwanegu 18 o ddisgyblion Parc i Ysgol Llanuwchllyn( 2 filltir i ffwrdd), ceir ysgol o tua 90 o blant a rheini i gyd bron iawn yn Gymry Cymraeg. Cadarnhau ac atgyfnerthu Cymreictod yr ardal fydd effaith crynhoi adnoddau fel hyn.Trwy greu canolfan addysg wledig gref yn fanno, a chanolfan addysg drefol gref yn Y Bala, credaf fod cynghorwyr Plaid Cymru wedi creu cynllun cytbwys a realistig.Aled G Jnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-3554785342658363792010-05-26T20:32:35.563+01:002010-05-26T20:32:35.563+01:00Anhysbys 8.02 - 'mond gair bach er mwyn eglurd...Anhysbys 8.02 - 'mond gair bach er mwyn eglurdeb. Pres grant (gan y Cynulliad) sydd yn ariannu ysgol newydd yng Nghaernarfon - nid pres y Cyngor Sir ei hun.

Byddai'n groes i'r gyfraith i ddefnyddio'r pres i unrhyw bwrpas arall.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-54679717168561058322010-05-26T19:11:04.128+01:002010-05-26T19:11:04.128+01:00Er gwybodaeth Dyfrig, mae'r rhwyd diogelu - ge...Er gwybodaeth Dyfrig, mae'r rhwyd diogelu - gelli ei alw yn sybsidi, yn tua £400,000, llai na 0.5% o'r cyllid addysg yn flynyddol.

Os na rhywun wedi cyfri maint 'sybsidi' addysg i gymdeithasau trefol fel 'Dechrau'n Deg, Webbster Stratton, Athrawon Cynnal Ymddygiad, Swyddogion Lles, Amser Gwas Cym., plismona, systemau diogelwch, camerau cctv ac ati.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-42495292196966560262010-05-26T19:01:32.126+01:002010-05-26T19:01:32.126+01:00Na na, Hogyn o Rachub - y mae hi'n gwbl gwbl a...Na na, Hogyn o Rachub - y mae hi'n gwbl gwbl amlwg fod yr iaith yn greiddiol i'r ddadl drwyddi draw, gwae ni os na welwn ni hynny. Caewch ysgol, ac fe gollir cymuned - cymuned naturiol Gymraeg fel y maen nhw'n tueddu i fod yng nghefn gwlad Gwynedd (rai fwy na'i gilydd fel mae'r Parc yn ei brofi). Nid yn ddiffael, na, ond dyna yw'r norm: colli ysgol, ac mae'r gymuned a'r iaith ar ei cholled. Ac ydi, mae'r Gymraeg yn gryf yn nhrefi Gwynedd. Ond fedrwn ni ddim fforddio arfer polisi 'pic an mics'! Dyma gadarnleoedd y Gymraeg drwy Gymru - byddai'n drasiedi colli un ohonyn nhw.

Os mai credu y daw'r iaith drwyddi rywsut, yn wyrthiol, er gwaetha cau ysgolion a gwanychu cymunedau, sy'n cynnal Cynghorwyr Gwynedd - yna dihunwch, bobl! Mae niferoedd siaradwyr Cymraeg yn gyson ar i lawr. Mae cymunedau cefn gwlad yn crebachu, a'r ffiniau'n tynnu i mewn ym mhob man. Collwch chi'r ardaloedd rhwng y trefi a'r pentrefi mawr, a buan iawn yr aiff rheini'n ynysoedd, a chrebachu fwyfwy. Os awn ni ormod ar ffydd yn nyfodol yr iaith yng Ngwynedd, mi ddeffrwn un bore a sylweddoli ei bod hi wedi mynd yn rhy hwyr i'w hachub.

Mae posib colli ac arbed arian sawl gwaith drosodd mewn myrdd o wahanol ffyrdd o rwan tan ddydd y farn. Unwaith y collwn ni'r iaith, ddaw hi ddim yn ôl.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-21183379640912085032010-05-26T14:23:26.161+01:002010-05-26T14:23:26.161+01:00Diolch am dy sylwadau caredig, Hanna. Dwi'n cr...Diolch am dy sylwadau caredig, Hanna. Dwi'n credu bod gan Blaid Cymru le i ail-gysylltu a'i hegwyddorion craidd ar lefel genedlaethol. Ond fel rhywun sydd ynghanol yr ad-drefnu addysg gynradd, dwi ddim yn credu ein bod yn euog o hynny yng Ngwynedd.
Ti'n son am Blaid Cymru fel gwarcheidiaid cymunedau Cymraeg, ond mae'r ddadl ynglyn ac ysgolion bychain yn ymwneud a phwyso a mesur anghenion gwahanol gymunedau Cymraeg. Nid y wlad Gymraeg yn erbyn y dref Saesnig yw hyn. Beth am ein cymunedau Cymraeg yng Nghaernarfon, Porthmadog, Bethesda, neu Y Bala? Onid yw'r cymunedau hyn hefyd yn haeddu tegwch?
O ran dy bwynt olaf, ynglyn a symyd pres o un pot i'r llall. Dwi wedi ateb hon ar flog Guto Dafydd, ond fe wna i ail-adrodd fy hun. Mae 80% o gyllid Cyngor Gwynedd yn mynd ar 3 maes - Addysg, Priffyrdd a Gofal Cymdeithasol. Bach iawn yw'r "pot" ar gyfer adfywio economaidd. Yn sicr, does dim digon o arian ynddo i alluogi Gwynedd dalu'r sybsidi anferthol sydd ei angen i gadw ysgolion lleiaf y sir ar agor.Dyfrighttps://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-64906130285755650882010-05-26T13:15:56.711+01:002010-05-26T13:15:56.711+01:00Y gwir yw y bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn br...Y gwir yw y bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn bradychu cymuned Y Parc os na lwyddir i achub yr ysgol a chalon cymuned Y Parc. Plant y Parc sydd wedi eu bradychu oherwydd mae’r Cynghorwyr wedi penderfynu cau’r ysgol i fodloni gofynion Adran Addysg y Cynulliad Cenedlaethol o gau ysgolion. Does dim rheswm addysgol, cymunedol nag ariannol tu ôl i’r penderfyniad. Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud lot o bethau da eraill ond mae cau’r ysgol yn weithred o frad oherwydd eu bod nhw’n fodlon aberthu un ysgol i blesio’r Cynulliad. Dyma pam defnyddiwyd yr oen oherwydd fod yr ysgol yn cael ei aberthu. Ond wedyn aeth pethau braidd yn gymysglyd pan wnaeth rhywun weiddi ‘mochyn’. Os nag ydyn ni'n sefyll fyny dros gymunedau naturiol Gymraeg, byddwn ni'n yn eu ymostwng i fod yn gymunedau artiffisial gan roi Swyddog Adfywio i geisio 'adfywio' beth oedd yn fyw yn naturiol! Dyw e ddim yn fater o 'athroniaeth wleidyddol' mae'n fater o chefnogi a phweru'r egni naturiol sydd yn y gymuned yn barod.
www.cymdeithas.org/blogMenna Machreth Joneshttps://www.blogger.com/profile/14993757389514152888noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-11374529591123532422010-05-26T09:12:06.215+01:002010-05-26T09:12:06.215+01:00Wel fel rhywun o Ddyffryn Ogwen baswn i'n sicr...Wel fel rhywun o Ddyffryn Ogwen baswn i'n sicr yn dweud bod y gair 'bradwr' yn air cryf iawn!

Mae'n episod digon trist. 'Sneb isho cau ysgolion gwledig ond dwi'm yn gweld unrhyw fath o gyfiawnhad dros gadw ysgol 18 disgybl ar agor, pa ysgol bynnag y bo. Mae'n hurt. Mae'n arbennig o hurt i rywun o ardal fel Dyffryn Ogwen lle ceir ysgolion gweddol mawr fel Llanllechid a Phenybryn a'r canfyddiad cyffredinol ydi bod ysgolion bach o'r fath yn dargyfeirio adnoddau mewn ffordd gwbl anghymesur ac annheg. Dwi'n cytuno â'r farn honno.

Ac mae arna i ofn ei fod yn gwneud i Gymdeithas yr Iaith edrych yn uffernol o blentynnaidd. Dadl addysgol ydi'r ddadl yng Ngwynedd yn y bôn a dwi'n ffieiddio at y mudiad am ei throi'n ddadl ieithyddol, ac eraill hefyd yn gwneud hynny at ddibenion gwleidyddol.

Er fy mod yn gefnogol iawn i'r Gymdeithas, mae gweld aelodau blaenllaw yn cyhuddo pobl dda o fod yn 'fradwyr' wir yn gwneud i rywun golli parch ati. Rhag eu cywilydd.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-50923816969769917952010-05-26T08:02:34.420+01:002010-05-26T08:02:34.420+01:00Oes 'na rywbeth od ym mlaenoriaethau'r Bla...Oes 'na rywbeth od ym mlaenoriaethau'r Blaid yn Ngwynedd ella?

Dros £2filiwn YCHWANEGOL (ella o bot gwahanol, ond £2filiwn ydi £2filiwn) i adeilad Ysgol Yr Hendre a 'methu' darganfod £50,000 i'r Parc.
Byddai £2filiwn yn cadw'r Parc i fynd am 40 mlynedd.

Dwi ddim yn dweud nad oedd y penderfyniad yn iawn un ffordd neu'r llall ond pwy fyddai'n meddwl 'chydig o flynyddoedd yn l y byddai Y Blaid, o bawb, yn gwario cymaint ar ysgol drefol ac yn gwrthod gwario 0.5% o gyllideb adeiladu'r ysgol fawr yma ar warchod ysgol fach bentref.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-42104454896437916052010-05-26T00:12:43.666+01:002010-05-26T00:12:43.666+01:00'Dwi'n gwybod mai o Fangor y daw Dyfrig yn...'Dwi'n gwybod mai o Fangor y daw Dyfrig yn wreiddiol. Y rheswm roeddwn yn mynd ar ol y streic oedd i ddangos gwahaniaeth rhwng brad mewn sefyllfa lwythol (megis y streic) a brad mewn sefyllfa lle disgwylir i bobl gadw'n driw i ddelfryd sydd ond yn bodoli ym meddyliau pobl eraill.

'Dydi'r Blaid ddim yn tanseilio'r iaith - mi ddylai stori Treganna wneud hynny'n ddigon clir Hanna. Rydym yn derbyn beirniadaeth gan Gymry Cymraeg yn lleol pan nad ydym yn cynnig yr union ddarpariaeth addysg Cymraeg maent yn gofyn amdano ar yr union amser maent yn gofyn amdano.

Serch hynny, pan rydym yn cael ein hunain mewn sefyllfa o ymarfer grym, ac yn rhoi'r union ddatrusiad y gofynir amdano, 'dydi'r Cymry Cymraeg lleol ddim yn ystyried bod darparu addysg Gymraeg yn fater sy'n ddigon pwysig i'w cael i bleidleisio i'r Blaid mewn niferoedd arwyddocaol.

Mae'n anodd weithiau.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-70051399787343207952010-05-25T23:19:10.061+01:002010-05-25T23:19:10.061+01:00Dwi'n meddwl dy fod ti'n gor-ddadansoddi&#...Dwi'n meddwl dy fod ti'n gor-ddadansoddi'r busnas bradwr 'ma a'i gyswllt â'r Streic Fawr yn isymwybod cynghorydd Gerlan. Hogyn o Fangor 'di Dyfrig!

Mae o'n genedlaetholwr gweithgar a da a dwi'n siwr ei fod o'n brifo go iawn o gael ei alw'n fradwr. Mae 'na lot o genedlaetholwr da yn gynghorwyr Plaid Cymru ar hyd a lled Cymru (ac mae 'na ambell i lemon). Mae 'na hefyd lawer o genedlaetholwyr (fel fi) sydd wedi'u digalonni'n llwyr gan be sy'n ymddangos weithiau fel polisi bwriadol Plaid Cymru o danseilio bob un dim sy'n werthfawr i ni - ein iaith, ein cymunedau a'n diwylliant. Mae iaith danllyd yn siwr o ffrwydro i'r wyneb pan mae dadleuon fel cau ysgol a sbaddu cymuned yn codi.

Pob lwc i ymgyrch Ysgol y Parc. Gobeithio y gwneith rywun clyfar iawn yng Nghyngor Gwynedd ddeall fod modd (does bosib) nôl pres o'r pot addysg a phres o'r pot diwylliant (neu beth bynnag fyddai'r adran achub iaith a chymuned) a'i roi at ei gilydd i roi cyfle i'r Parc oroesi.Hannahttps://www.blogger.com/profile/18348710010469650860noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-28054735799288975082010-05-25T22:03:18.474+01:002010-05-25T22:03:18.474+01:00Mi fyddai dy gael yn euog o frad yn ddigon i dy ga...Mi fyddai dy gael yn euog o frad yn ddigon i dy garcharu neu hyd yn oed dy saethu mewn aml i wlad. 'Dydi o ddim yn derm arbennig o feddal.

Hyd y gwn i 'dydi Dyfrig ddim yn cyhuddo Osian, Ffred na neb arall o frad.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-13832530970517993662010-05-25T21:51:04.665+01:002010-05-25T21:51:04.665+01:00Mae'r ymadrodd "bradwr" yn gysyniad ...Mae'r ymadrodd "bradwr" yn gysyniad 'contested' ys dywed y Sais oherwydd ei fod yn dibynnu ar eich dealltwriaeth chi o'r achos i gychwyn a'ch barn am y ffordd ymlaen.

Dwi'n cymryd mae sail Osian wrth alw Dyfrig yn fradwr oedd fod Osian yn gweld mai diben gwreiddiol Plaid Cymru oedd gwarchod a hyrwyddo cymunedau Cymraeg ac mae Osian yn credu fod cau ysgol y Parc yn mynd yn erbyn diben gwreiddiol achos Plaid Cymru ac felly yn ol y dehongliad yma o'r sefyllfa mae Dyfrig yn 'fradwr'.

Mi fyddai Dyfrig yn dadlau yn wahanol gan awgrymu hyd yn oed mae Osian sy'n tanseilio achos y Parc ac felly mae Osian sy'n bradychu.

Fy mhwynt yw fod y term 'bradwr' yn un meddal, mae'r cyfan yn dibynnu ar lle rydych chi'n sefyll ar sbectrwm dadl.Rhys Llwydhttp://blog.rhysllwyd.com/noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-82514427758467020072010-05-25T21:34:48.974+01:002010-05-25T21:34:48.974+01:00Alla i ddim dychmygu Ffred yn gwneud llawer efo ma...Alla i ddim dychmygu Ffred yn gwneud llawer efo mart rhywsut!Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-92224649349006246172010-05-25T21:00:42.931+01:002010-05-25T21:00:42.931+01:00A'i neges ynglyn a chyswllt un aelod penodol P...A'i neges ynglyn a chyswllt un aelod penodol PC efo mart lleol oedd yr holl son am 'oen'?

Ffermwyr ardal wledig Y Parc yn gwrthwynebu ei safbwynt ac felly yn bygwth defnyddio mart arall. Dyna oedd y syniad efo'r oen tegan meddal a'r son am 'wyn i'r lladdfa', ia?Anonymousnoreply@blogger.com