tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post5642016520800409224..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Y polau diweddarafCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger6125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-21025689425162156282010-01-13T12:28:47.788+00:002010-01-13T12:28:47.788+00:00Roedd y darn isod hefyd i fod yn rhan o'r post...Roedd y darn isod hefyd i fod yn rhan o'r post gwreiddiol:

Yr unig beth all newid y drifft hwn tuag at fuddugoliaeth gyffyrddus i'r Toriaid yn fy meddwl i ydi "game-changer" llwyr megis Gordon Brown yn dewis sefyll i lawr cyn yr etholiad. Fyddwn i ddim yn distyru'r posibilrwydd hwn yn llwyr- mae ganddo "form" o ran tynnu allan o ornestau etholiadol y mae'n debyg o'u colli, fel y dangosodd Tom Bower yn ei fywgraffiad ohono.Aled G Jnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-69420183508939075042010-01-13T11:36:33.807+00:002010-01-13T11:36:33.807+00:00Aled: "ii) dwi'n ofni'r ymchwydd o Br...Aled: "ii) dwi'n ofni'r ymchwydd o Brydeindod fyddai'n digwydd yn sgil buddugoliaeth Geidwadol fawr."

... be, a dydy'r Blaid Lafur a Gordon Brown heb wneud digon o hynny eisoes. Llafur ydy'r gwir blaid o blaid cenedlaetholdeb Brydeinig.

Dwi methu gweld sut fyddai'r Toriaid yn llai Brydeinllyd na Llafur!

MAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-42875568319655522872010-01-13T10:47:59.470+00:002010-01-13T10:47:59.470+00:00Yn reddfol, senedd grog fyddai fy ngobaith i am dd...Yn reddfol, senedd grog fyddai fy ngobaith i am ddau reswm:i) dwi ddim yn credu bod llywodraethau hefo mwyafrifoedd mawr yn lywodraethau da nac yn llesol i ddemocratiaeth a ii) dwi'n ofni'r ymchwydd o Brydeindod fyddai'n digwydd yn sgil buddugoliaeth Geidwadol fawr.

Yn anffodus, dwi'n ryw amau erbyn hyn mai dyna'r hyn a gawn ni.Dwi'n meddwl y bydd awydd Gordon Brown i'w gadael hi tan y funud dwytha un yn gwneud i bobl deimlo mai dim ond glynu wrth rym sy'n bwysig iddo a hynny yn ei dro yn perswadio mwy o bobl i droi allan i bleidleisio- fydd yn ffafrio'r Toriaid. Mae'n bosib hefyd y bydd Rhyfel Iraq yn ail-ymddangos fel sumbol o bopeth y mae pobl yn ei gasau am Lafur Newydd( gweler yr ymateb i berfformiad wynebgaled a digywilydd Alastair Campbell yn Ymchwiliad Chilcott ddoe). Gyda Tony Blair hefyd i ymddangos o flaen yr ymchwiliad o fewn yr wythnosau nesaf mi fydd y meta-narratif hon am dwyll a llygredd moesol Llafur Newydd yn flaenllaw ym meddyliau pobl yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad.Aled G Jnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-85742238422443597712010-01-13T09:49:47.869+00:002010-01-13T09:49:47.869+00:00Oes angen cydnabod elfen o 'danbwyso' o Bl...Oes angen cydnabod elfen o 'danbwyso' o Blaid Llafur - h.y. pobl yn gyndyn o ddweud eu bod am fotio Llafur (fel fyddent yn gyndyn o ddweud eu bod am fotio Tori yn y gorffennol)? Ti'n nabod y teip, lladd ar Lafur, anghytuno a phopeth mae nhw'n eu wneud .... ac eto, pleidleisio drostynt.

Gall fod elfen o'r rhai sy'n dweud eu bod am bleidleisio i rai o'r pleidiau llai (gwyrdd, BNP) bleidleisio Llafur ar y dydd hefyd?

MAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-2998992223856208612010-01-13T07:31:04.224+00:002010-01-13T07:31:04.224+00:00Efallai dy fod yn gywir - ond mi ddaru'r polau...Efallai dy fod yn gywir - ond mi ddaru'r polau roi gormod i Lafur cyn etholiadau Ewrop y llynedd.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-14374173180240181512010-01-13T06:42:48.335+00:002010-01-13T06:42:48.335+00:00Mae gwerth nodi bod yna dueddiad hefyd i'r pol...Mae gwerth nodi bod yna dueddiad hefyd i'r polau sy'n rhoi'r canrannau isaf i Lafur fod yn nes ati na'r un arall.

Yr wyt yn llygad dy le, wrth gwrs, i nodi bod y polau, ar y cyfan wedi tan gyfrif y bleidlais Geidwadol ac wedi or gyfrif y bleidlais Llafur yn ystod y 35 mlynedd diwethaf. Mae'r system "pwyso" polau, bellach yn ceisio gwirio hyn. Rwy'n credu bod y polau yn or bwyso o blaid y Ceidwadwyr bellach.

Rhaid nodi, mae eleni bydd y tro cyntaf ers 1979 inni weld y posibilrwydd o'r Blaid Ceidwadol yn disodli'r Blaid Lafur fel plaid Llywodraeth San Steffan!

Ers deng mlynedd ar hugain mae'r polau wedi canfod pobl sydd yn gyndyn o gydnabod eu bod am gefnogi'r Ceidwadwyr. Bu rhesymau dechau am hyn. Y ffaith mae benyw oedd yn arwain plaid wleidyddol am y tro cyntaf yn yr ynysoedd hyn cyn 1979. Y ffaith bod y fenyw arbennig yn un i bolareiddio pobl, rhai yn meddwl mai hi yw'r prif weinidog gorau erioed, eraill yn casáu'r ast a'r cas perffaith.

Yna cafwyd cyfnod o farwolaeth araf y Blaid Geidwadol, yn cael ei ddilyn gan Llywodraeth Lafur poblogaidd.

Am dros ddeng mlynedd ar hugain mae cefnogi'r Ceidwadwyr wedi bod yn "gontrofersial".

Efo Llafur ar ei lawr a chenhedlaeth o bleidleiswyr sy dim yn cofio'r gaeaf o aflonyddwch na dinoethi'r ardaloedd glofaol, does dim rheswm i Geidwadwyr dweud celwydd wrth y polwyr mwyach! Bydd y pwyso o blaid y Ceidwadwyr yn cael ei brofi yn ormodaeth eleni!

Bydd pethau yn agosach o lawer na mae'r polau yn proffwydo!Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.com