tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post4649165599887890820..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Ymgais ryfedd awdur Syniadau i danselio ei blaid ei hunCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger55125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-16508737045349945512013-08-11T13:41:08.753+01:002013-08-11T13:41:08.753+01:00Ti'n rhoi geiriau yn fy ngheg i geisio cyfiawn...Ti'n rhoi geiriau yn fy ngheg i geisio cyfiawnhau dy ymddygiad rhyfeddol tros yr etholiad - ymddygiad na welais i gan unrhyw Bleidiwr erioed.

Mi fyddai rhywun gwrthrychol yn gweld bod amwyster yn y tri safbwynt sy'n cael eu disgrifio uchod. Fedri di ddim ennill etholiad ynm Mon tra'n ymgyrchu yn erbyn WylfaB. Yn wir roedd amwyster yn safbwynt y Blaid yn yr etholiadau lleol - pwysleisio'r elfen o'r polisi sy'n mynnu bod swyddi ac ati yn mynd yn lleol, tra'n anwybyddu'r gwrthwynebiad WylfaB i bob pwrpas.

A gwna ffafr a fi - paid a dweud beth fyddai Pleidwyr Mon wedi neu heb ei wneud oni bai dy fod wedi siarad a nhw. Wyt ti erioed wedi siarad efo Pleidiwr o Fon?

A gyda llaw, dydan ni byth wedi cael yr eglurhad pam dy fod di'n gywir a phawb arall yn y Blaid yn anghywir parthed etholiad Ynys Mon.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-47503050739525378652013-08-10T16:48:31.768+01:002013-08-10T16:48:31.768+01:00Felly, ti'n cydnabod roedd e'n amwys, Cai....Felly, ti'n cydnabod roedd e'n amwys, Cai. Ond ydy pawb yn amwys?

Doedd Ann ddim yn amwys am Wylfa B, na Heledd chwaith. Dim ond Rhun oedd yn amwys amdano. Ond dwi'n cytuno â thi am ei reswm: er mwyn ennill yr enwebiad ... ond trwy dwyll. Roedd Heledd ac Ann yn gwbl onest am eu safbwynt nhw. Enillodd Rhun gan fod yn gamarweiniol. Nid yw hynny'n ddim byd i ymfalchïo ynddo. Byddai llawer llai o aelodau Môn wedi'i ddewis os oedden nhw'n gwybod ar y pryd taw safbwynt Rhun oedd yn erbyn polisi Plaid Cymru.

Roedd Rhun yn gamarweiniol am ei safbwynt ac, yn nes ymlaen, yn gelwyddgi am bolisi Plaid Cymru. Mae'n ddyn anonest. Dyna pam fydd ethol Rhun yn AC Ynys Môn yn drychineb i'r Blaid.MHhttps://www.blogger.com/profile/09329059309196746446noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-63424365082551542582013-08-08T22:45:16.635+01:002013-08-08T22:45:16.635+01:00Tua mil a chant dwi'n meddwl - os di fy syms i...Tua mil a chant dwi'n meddwl - os di fy syms i'n iawn - mae'n system gymhleth.

Ond roedd pleidlais y Lib Dems i lawr hefyd wrth gwrs.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-88617012025087158112013-08-08T22:30:14.450+01:002013-08-08T22:30:14.450+01:00Mi dria i ei weithio fo allan pan ga i ddau funud....Mi dria i ei weithio fo allan pan ga i ddau funud.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-10045217327438864102013-08-08T22:15:38.135+01:002013-08-08T22:15:38.135+01:00Ddigon gwir, ond faint yn brin oedd Heledd? Dwi...Ddigon gwir, ond faint yn brin oedd Heledd? Dwi'm yn cofio - tua 500?Ioannoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-43009098316551019572013-08-08T21:54:58.116+01:002013-08-08T21:54:58.116+01:00Er nad ydym yn gwybod i sicrwydd beth fyddai wedi ...Er nad ydym yn gwybod i sicrwydd beth fyddai wedi digwydd i'r bleidlais ranbarthol wrth gwrs.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-43020598980933816052013-08-08T21:32:09.386+01:002013-08-08T21:32:09.386+01:00Gyda llaw, dwi'n meddwl mod i'n iawn i ddw...Gyda llaw, dwi'n meddwl mod i'n iawn i ddweud os basa'r Blaid wedi cael y perfformiad yma yn 2011, mi fasa Heledd Fychan yn y senedd (yn lle Aled Roberts)Ioannoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-28035456959175944952013-08-08T21:21:18.991+01:002013-08-08T21:21:18.991+01:00MH,
Dyma'n union pam wnes i ddim agor fy nheg...MH,

Dyma'n union pam wnes i ddim agor fy nheg yn ystod yr ymgyrch. ARALL EIRIO oeddwn ni - mi wnaeth Rhun lawer gwell job yn y Daily Post o egluro ei safbwynt.

Yn yr hustings wnaeth neb ddweud bod nhw o blaid nac yn erbyn Wylfa B, ond mi roedd pawb yn gallu darllen rhwng y llinellau - yn yr un ffordd a gwnes ti pan ddarllenaist ti y Daily Post.

p.s. be oeddwn ni fwyaf hapus efo Rhun ar y noson, oedd ei fod o'n Genedletholwr i'r carn. Annibyniaeth yw'r no^d, a dwi'n amau pan wnei di glywed mwy oddiwrth Rhun y byddi di (gobeithio) yn addasu dy diwn.

Ioannoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-49850303892394595722013-08-08T17:19:03.502+01:002013-08-08T17:19:03.502+01:00Edrych ar arall eiriad Ioan - mae pawb yn amwys -...Edrych ar arall eiriad Ioan - mae pawb yn amwys - mae'n rhaid iddyn nhw fod neu maent yn colli'r enwebiaeth am eu bod yn colli hanner y gynulleidfa cyn cychwyn. Maen nhw'n ymladd am enwebiad go iawn yn y Byd go iawn - dydyn nhw ddim mewn twr ifori yn Llundain.

Rwan wyt ti am egluro pam bod dy ganfyddiad - bod ennill Ynys Mon yn drychineb i'r Blaid - yn fwy cywir na chanfyddiad actifyddion y Blaid, arweinyddiaeth y Blaid, y Blaid ar Ynys Mon, sylwebyddion annibynnol, Pwyllgor Gwaith y Blaid a 12,601 etholwyr Mon?

Dwi'n marw eisiau gwybod.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-72114678256292157942013-08-08T16:30:48.908+01:002013-08-08T16:30:48.908+01:00Dwi wedi dangos bod Rhun oedd yn dweud celwydd noe...Dwi wedi dangos bod Rhun oedd yn dweud celwydd noeth am bolisi Plaid Cymru. Byddai'n well i ti gydnabod hynny, Cai. Dwi wedi dangos bod Rhun oedd yn niwlog ac yn amwys am Wylfa B yn gyhoeddus cyn y 19eg o Orffennaf. Byddai'n well i ti gydnabod hynny, hefyd.

Ond beth ddigwyddodd yn yr hystings? Yn ôl Ioan (10:35) fe ddywedodd bob un o'r tri ymgeisydd:

"... OND os ydy [Wylfa B] yn digwydd, mae angen gwneud y mwyaf er lles pobl yr Ynys ..."

Nid yw hynny'n syndod i neb. Mae hyn yn bolisi Plaid Cymru. Y gair holl bwysig yw'r "os".

Ond beth am Rhun? Yn ôl Ioan, fe ddywedodd:

"Mae genai barch at pobl sydd yn erbyn Wylfa B OND os dio'n digwydd, mae angen gwneud y mwyaf er lles pobl yr Ynys ..."

Wel, mae parch 'da fi hefyd at bobl sydd yn erbyn ac o blaid Wylfa B. Neis, ond beth yw'r ots am hynny?

Edrychwch yn ofalus. Yn y frawddeg hon, ni ddywedodd pa un a oedd e o blaid Wylfa B, neu pa un a oedd e yn ei erbyn. Roedd Rhun yn osgoi datgelu ei farn ar y cwestion, ond oedd e? Roedd y geiriau yn amwys.

Credodd Cai ar y pryd (a dwi'n credu roedd e'n dweud y gwir) roedd barn y tri ymgeisydd ar Wylfa B yn "more or less identical" ... felly, roedd Rhun yn erbyn Wlyfa B, ynghyd â Heledd ac Ann. Gall rhwyun arall (Ioan, er enghraifft) credu roedd Rhun o blaid Wylfa B. Fe all ei eiriau olygu pethau gwahanol i bobl wahanol.

Mae'n amlwg, felly, roedd Rhun yn niwlog ac yn amwys am Wylfa B yn yr hystings hefyd.MHhttps://www.blogger.com/profile/09329059309196746446noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-84258967868806360762013-08-08T09:45:28.087+01:002013-08-08T09:45:28.087+01:00I ddechrau Alwyn dydw i ddim yn casau neb.
Yn ail...I ddechrau Alwyn dydw i ddim yn casau neb.

Yn ail - fel dwi wedi nodi dro nid trafod WylfaB ydi'r broblem, mae hynny'n iawn.

Y broblem ydi ymosod yn bersonol ar ymgeisydd yn ystod ymgyrch etholiad ac argymell i bobl beidio a fotio i'r Blaid. Mae hynny yn broblem - ac mi fyddai yn broblem mewn unrhyw blaid arall.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-52634747809984025222013-08-08T09:29:29.383+01:002013-08-08T09:29:29.383+01:00Rwy'n methu deall dy gasineb at Michael.
Mae&...Rwy'n methu deall dy gasineb at Michael.

Mae'r sylwadau a wnaed ganddo yn rhai digon dechau.

Y cwestiwn mawr, siawns, yw a wnaeth sylwadau Syniadau drwg i ymgyrch y Blaid ym Môn?

Mae'r canlyniad yn awgrymu na wnaethant. Sy'n codi cwestiwn arall – a wnaeth sylwadau Syniadau lles i'r achos?

Tybiwn eu bod.

Mae pob un sydd wedi cefnogi'r mudiad gwrth niwclear yn gwybod bod aelodau Plaid Cymru, Y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd wedi bod yn driw i'r achos ac yn gefn i'r achos. Mae'r achos niwclear yn codi cyfyng gyngor ym mhob un o'r pleidiau radical.

Aros yn dawedog bu hanes Llafurwyr a Rhyddfrydwyr gwrth niwclear yn ystod yr ymgyrch is-etholiadol.

Trafod y cyfyng gyngor yn agored bu hanes Plaid Cymru, a siawns bod y gonestrwydd yna wedi cyfrannu at fuddugoliaeth Rhun
Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-9832915147966667132013-08-07T21:17:37.232+01:002013-08-07T21:17:37.232+01:00Roedd proffwydi'r Hen Destament ers talwm yn c...Roedd proffwydi'r Hen Destament ers talwm yn cymryd safbwyntiau du a gwyn oedd yn groes i safbwynt pawb arall. Ond roedd Duw yn dweud wrthyn nhw beth i'w ddweud - neu o leiaf dyna oeddyn nhw yn ei feddwl.

Mae'r dyn yma yn meddwl bod IWJ yn anghywir, bod RhaI yn anghywir, bod Pwyllgor Gwaith y Blaid yn anghywir, bod y Blaid ym Mon yn anghywir, bod y cannoedd o aelodau cyffredin aeth i Fon i ymgyrchu yn anghywir, bod arweinyddiaeth y Blaid yn anghywir, bod pob sylwebydd gwleidyddol yn anghywir. Yn wir mae'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r uchod yn llwfr neu'n gelwyddog - o gymharu a fo ei hun - dyn dewr a geirwir.

Yn wahanol i broffwydi'r Hen Destament nid Duw sy'n dweud hyn oll wrtho - mae'n cyrraedd yn dwfn i mewn iddo'i hun ac yn cael yr ateb. Traha deallusol o'r radd flaenaf.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-41383073168440548532013-08-07T20:44:00.602+01:002013-08-07T20:44:00.602+01:00Mae blogiadau Syniadau yn aml yn ddiddorol ac yn e...Mae blogiadau Syniadau yn aml yn ddiddorol ac yn eang eu cynnwys. Ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fod ei gasgliadau yn rhy aml yn gyfyng ddu a gwyn mewn byd gwleidyddol sy'n gymleth amryliw. Mi fuaswn yn awgrymu cwrs carlam yng ngwaith Machiavelli iddo neu ei orfodi i sgwennu mil o linellau o waith George Orwell:

'Political language is designed to make lies sound truthful and murder respectable, and to give an appearance of solidity to pure wind'.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-78073085398283619212013-08-07T17:48:41.054+01:002013-08-07T17:48:41.054+01:00Chdi sy'n taflu cyhuddiadau o gelwydd nid fi.
...Chdi sy'n taflu cyhuddiadau o gelwydd nid fi.

Mae gen ti grynodeb o'r safbwyntiau a fynegwyd yn yr hystings uchod - Ioan 10.35. Dydi'r crynodeb ddim yn cefnogi dy safbwynt di - person nad oedd yna wedi'r cwbl. Roedd pawb yn niwlog i rhyw raddau neu'i gilydd - felly mae hi mewn gwleidyddiaeth go iawn - ti'n gorfod osgoi gwneud dy hun yn gocyn hitio i dy wrthwynebwyr ar rhai materion. Ti wedi dethol dehongliad roeddyt eisiau ei dethol.

Mi siaradais i efo cannoedd o bobl yn ystod yr ymgyrch (yr un oeddyt ti yn ei thanseilio o Lundain), a chlywais i ddim un person - yn Bleidiwr neu fel arall yn mynegi 'shock'. Tybed efo pwy ti wedi siarad.

Ti wedi pardduo cyd Bleidiwr, ti wedi cynnig cysur i bleidiau unoliaethol a ti wedi ymgyrchu yn erbyn plaid dy hun trwy argymell i bobl beidio a phleidleisio trosti. Dydi hynny ddim yn ymddygiad person sy'n addas i fod yn aelod o Blaid Cymru mae gen i ofn.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-7176627383788835702013-08-07T17:24:06.374+01:002013-08-07T17:24:06.374+01:00Ti'n cytuno felly, Cai. Rhun oedd yn dweud ce...Ti'n cytuno felly, Cai. Rhun oedd yn dweud celwydd am bolisi Plaid Cymru.

A dwi'n cytuno da' ti, mae 'na sawl mater arall i ystyried, hefyd.

1. Am aelodaeth y Blaid: Rhun yw'r un a oedd yn disgrifio ei hun fel "aelod newydd" o'r blaid, yma, nid fel rhywun sy'n ail-ymuno i'r blaid. Celwydd arall? Ydoedd, os oes hynny ddim yn wir.

Dwi'n cael fy meirniadu am alw Rhun yn "Johnny come lately", a dwi'n ymddiheuro am hynny'n llwyr os oedd Rhun yn aelod yn yr 80au. Byddai e'n "Johnny come back lately" yn hytrach. Ond, rili, beth yw'r ots am hynny? Os oedd Rhun yn aelod yn gynt, Rhun roedd yn gamarweiniol am y peth, nid y fi.

2. Ti, Cai, yw'r un a ddywedodd does dim llawer o wahaniaeth rhwng safbwynt Ann, Heledd a Rhun ar gyfer Wylfa B yn y hystings. Yn ôl sylwebydd dienw 11:35, Ann oedd yn gwrthwynebu Wylfa B yn llwyr. Yn ôl Heledd, roedd hi yn erbyn Wylfa B hefyd. Dywedodd ar ei blog, "I was also glad to have the opportunity to debate Wylfa, and explain my opposition to nuclear power in a constructive way." Felly, yn ôl ti, Cai, mae'n annhebygol iawn (amhosibl, hyd yn oed) y dywedodd Rhun ei fod o blaid Wylfa B yn y hustings. Neu a oeddet ti'n dweud celwydd?

Ond sdim ots am hynny, y peth sy'n bwysig yw hyn. Syth ar ôl y hystings, mewn cyfweliad yn y Daily Post ac wedyn yn ei flog, Rhun oedd yn niwlog ac yn amwys am Wylfa B. Felly, mae'n debygol roedd e'n niwlog ac yn amwys yn y hystings hefyd. Ond, o'r 19eg o Orffennaf, roedd yn bendant o blaid Wylfa B. Os oedd Rhun yn gyson o blaid Wylfa B, pam na ddywedodd hynny wrth y Daily Post neu ar ei flog? Roedd Rhun yn gamarwieniol am ei safbwynt ar Wylfa B cyn y 19eg o Orffennaf. Does dim dwywaith am hynny o gwbl.

3. Dwi'n gwybod am nifer o aelodau sy'n "shocked", Cai, ac am nifer llawer mwy sy'n cael eu siomi gan beth ddigwyddodd.

4. Ni ddwedais hynny, Cai. Rhaid i ti ail-ddarllen be dw i wedi sgrifennu.

Drwy'r cyfan, Cai, dw'i wedi cefnogi fy mhlaid i. Dwi wedi bod yn erbyn ymgeisydd sy wedi bod yn gamarweiniol am ei safbwynt ac yn gelwyddgi am bolisi Plaid Cymru. Nid pardduo oedd hynny, ond dweud y gwir. Gwell i ti, a phawb arall, gofio hynny.MHhttps://www.blogger.com/profile/09329059309196746446noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-6353448338653564682013-08-07T13:08:52.488+01:002013-08-07T13:08:52.488+01:00Ddim yn bwysig o ran ffordd oedd pobl yn pleidleis...Ddim yn bwysig o ran ffordd oedd pobl yn pleidleisio oeddwn ni'n feddwl (i.e. Lib dems oedd fwyaf gwrth Niwclear, Llafur fwyaf o blaid).Ioannoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-58732083055661314612013-08-07T11:43:39.629+01:002013-08-07T11:43:39.629+01:00Fyddwn i ddim yn dweud nad oedd o'n bwysig o g...Fyddwn i ddim yn dweud nad oedd o'n bwysig o gwbl - roedd rhai yn codi'r mater - yn arbennig felly yn yr ardaloedd o gwmpas y safle - roedd agweddau pobl yn tueddu i fod yn gymhleth.

Ond ti'n gywir mai lleiafrif bach oedd yn codi'r mater.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-42777205010636352342013-08-07T11:39:07.025+01:002013-08-07T11:39:07.025+01:00"Ioan - dwi'n meddwl bod y 2+2=5 yn fwria..."Ioan - dwi'n meddwl bod y 2+2=5 yn fwriadol."

Yn hollol be o'n ni'n feddwl, a dyna pam wnes i stopio postio ar ei flog o.

Doedd Yni Niwclear ddim yn bwysig o gwbl i'r etholwyr, ac mi fuasech chi'n disgwyl iddo fod yn llai pwysig i weddill Cymru.

Mae Tigi-dwt yn ffeithiol gywir bod ambell i aelod o Blaid Cymru heb bleidleisio (oherwydd Wylfa B) - dwi'n gwybod am ddau.
Ioannoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-24453925421174199672013-08-07T10:53:43.136+01:002013-08-07T10:53:43.136+01:00Ioan - dwi'n meddwl bod y 2+2=5 yn fwriadol.Ioan - dwi'n meddwl bod y 2+2=5 yn fwriadol. Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-84039225936381646832013-08-07T10:52:47.916+01:002013-08-07T10:52:47.916+01:00Tigidwt - mae'n dda gen i dy fod yn gallu clyw...Tigidwt - mae'n dda gen i dy fod yn gallu clywed yr aniddigrwydd o bell, ond mi es i Ynys Mon yn ystod yr etholiad a siarad efo cannoedd o bobl. A wyddost ti beth - wnes i ddim clywed unrhyw aniddigrwydd o gwbl - go iawn. Mae'n rhaid bod gen ti glyw da.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-62227429553851657322013-08-07T10:38:05.274+01:002013-08-07T10:38:05.274+01:00Cai,
re: "Faint o ymdrech wnest ti i ddargan...Cai,

re: "Faint o ymdrech wnest ti i ddarganfod beth yn union a ddywedyd gan Rhun yn yr hystings am WylfaB cyn datgan ei fod wedi dweud ei fod yn erbyn?"

A bod yn onest, mi wnes i roi fynnu ar MH pan wnaeth o gymeryd be wnest ti ddweud (mi wnes i hefyd adael neges ar ei flog yn dweud mod i'n cytuno ar be ddwedodd Rhun, Heledd ac Ann yn yr hystings ynglun a Wylfa), a mi aeth o ati i adio dau a dau a cael pump.

Pam wnaeth o ddim gyrru e-bost bach cyflym (i ti ella) yn gofyn be ddwedodd Rhun?

O be dwi'n gofio o'r hustings (a dwi wedi ei drafod efo pobol arall fuodd yno)

Arall eirio mawr rwan:
Rhun: "Mae genai barch at pobl sydd yn erbyn Wylfa B OND os dio'n digwydd, mae angen gwneud y mwyaf er lles pobl yr Ynys..."
Heledd: "Dwi ddim isho Chelnobyl yn Sir Fon, OND os dio'n digwydd, mae angen gwneud y mwyaf er lles pobl yr Ynys..."
Ann: "Dwi'n yn deallt syt mae o'n gweithio, OND os dio'n digwydd, mae angen gwneud y mwyaf er lles pobl yr Ynys..."

p.s. Dwi'n falch drost Ann bod HM heb glywed y gymeradwyaeth gofodd hi am ei gwrthwynebiad i felianu gwynt (ar sail tlodi ynni)...Ioannoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-48209834646073863102013-08-07T10:06:06.326+01:002013-08-07T10:06:06.326+01:00Wnaethoch chi,Mr Larsen, ystyried y rhai wnaeth at...Wnaethoch chi,Mr Larsen, ystyried y rhai wnaeth atal eu pleidlais oherwydd eu anfodlonrwydd efo safbwynt Rhun ab Iorwerth? Gwn am nifer o Bleidwyr oedd wedi gwrthod pleidleisio o gwbl oherwydd eu teimladau cryfion yn erbyn Wylfa B, yn enwedig rhai sydd wedi colli anwyliaid i ganser.

Dydw i ddim yn byw ar yr ynys, ond yn medru clywed yr anniddigrwydd o bell.

Am y rhain yr oeddwn yn meddwl pan awgrymais y gallai mwyafrif y Blaid fod wedi bod yn uwch. Tigi-dwtnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-31749712234071192812013-08-07T09:55:40.964+01:002013-08-07T09:55:40.964+01:00Na, ddim mewn gwirionedd - mae hefyd yn fater o ba...Na, ddim mewn gwirionedd - mae hefyd yn fater o bardduo ymgeisydd dy blaid dy hun, cynorthwyo pleidiau unoliaethol mewn is etholiad ac ymgyrchu yn erbyn dy blaid dy hun.

Ond gan dy fod yn son am gelwydd, faint o ymdrech wnest ti i ddarganfod os oedd RhaI wedi bod yn aelod o Blaid Cymru erioed cyn datgan nad oedd?

Faint o ymdrech wnest ti i ddarganfod beth yn union a ddywedyd gan Rhun yn yr hystings am WylfaB cyn datgan ei fod wedi dweud ei fod yn erbyn?

Ti hefyd wedi bod yn dweud y byddai aelodau cyffredin yn 'shocked' at agwedd RhaI at WylfaB. Wyt ti wedi dod ar draws aelod 'shocked' - ond bai amdant ti dy hun?

A ti'n dweud bod aelodau o'r arweinyddiaeth yn aros i gael dweud eu dweud. Pwy oedd y rheini a pham nad ydynt wedi cymryd dy safbwynt?

Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-72368361714830145952013-08-07T05:01:30.795+01:002013-08-07T05:01:30.795+01:00Mae'r mater yn hollol syml, Cai. Rhun oedd yn...Mae'r mater yn hollol syml, Cai. Rhun oedd yn dweud celwydd noeth pan ddywedodd, ar Sunday Supplement:

“You know that there’s been a policy in Plaid Cymru going back 40 years where we’ve said, ‘Develop nuclear power stations on the sites where there are nuclear power stations in the past.’”

Nid dadl ar bolisi yw hyn, ond mater o ddweud celwydd am bolisi.MHhttps://www.blogger.com/profile/09329059309196746446noreply@blogger.com