Wednesday, July 27, 2011

Guto Harri a'r Gemau Olympaidd

Mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr blogmenai yn ymwybodol o'r ffrae fach sydd wedi bod yn mynd rhagddi heddiw (ar y radio yn bennaf) ynglyn a'r ffaith nad yw'n edrych y bydd Cymru'n elwa fawr ddim o'r Gemau Olympaidd.  Mi gychwynodd pethau efo Guto Harri, sydd bellach yn gweithio i faer Llundain, Boris Johnson, yn ymateb ar y Post Cyntaf i sylwadau Carwyn Jones ddoe,  trwy ddweud mai bai Cymru ydi'r sefyllfa am beidio a gwneud digon i elwa o'r holl sioe.

Ail godwyd y peth ar Taro'r Post ac aeth pethau'n fler braidd rhwng aelod seneddol Arfon Hywel Williams a Guto gyda'r naill yn ail adrodd ei gred nad oedd gwleidyddion Cymru wedi gwneud digon o ymdrech i fynd i Lundain efo'u capiau trosiadol yn eu dwylo a'r llall yn cyhuddo Guto o wneud sylwadau camarweiniol ac o fod yn drahaus.



Cyn edrych ar y ffrae, beth am ystyried un neu ddau o ffeithiau syml?  Cafodd cwmniau oedd wedi cyflwyno bidiau cynradd werth £6.2bn o waith gan yr ODA.  £417,415 aeth i gwmniau o Gymru - 0.01% o'r cyfanswm.  Aeth gwerth £3.3bn i gwmniau yn Llundain (53%) ac aeth £1bn i ardaloedd eraill yn Ne Ddwyrain Lloegr (16%).  £24.5m (0.4%) aeth i'r Alban a £18m i Ogledd Iwerddon (0.3%).

Mae cyfanswm o £9.3bn wedi ei roi o'r neilltu i ariannu'r gemau - £2.2bn o'r Loteri Cenedlaethol, £0.6bn o drethi lleol i Lundain,  £0.3bn o ffynonellau lleol eraill a £6.2bn gan y llywodraeth ganolog.  Felly mae 90% o'r gwariant yn dod o ffynonellau Prydain gyfan tra bod 10% yn dod o ffynonellau lleol.  Gellir amcangyfrif bod mwy na £400m wedi ei godi yng Nghymru, a bod tua 0.1% o hynny wedi dod yn ei ol ar ffurf contractau.

Agwedd eilradd i'r ddadl ydi mai ychydig iawn o'r cystadleuthau fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru - hyd yn oed mewn chwaraeon megis hwylio a chanwio - mae adnoddau penigamp yng Nghymru ar gyfer gemau felly.

Rwan, mae hyn yn edrych yn sobor o anheg, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod agwedd Guto trwy'r ddadl yn peri dryswch i mi.  Roedd yn cyfeirio'r bai yn ol at Gymru, ac yn gwneud hynny oddi mewn i fframwaith hen ragfarn gwrth Gymreig - bod y Cymry  yn ddi gic a diog.

Mae'n bosibl wrth gwrs bod llai o ymdrech wedi ei gwneud yng Nghymru nag a wnaethwyd yn Llundain ac mewn ardaloedd eraill, ond 'doedd gan Guto ddim byd mwy i brofi hynny na honiad anelwig nad oedd o a Seb Coe (roedd yn awyddus iawn i adael i ni wybod ei fod yn eistedd yn agos at hwnnw) ddim yn cofio i achos cryf am fawr ddim ddod o Gymru.  Chawsom ni ddim gwybodaeth am sut yn union roedd ymdrechion llefydd eraill yn well na rhai Cymru, na beth oedd gwleidyddion Weymouth wedi ei wneud i ddenu'r cystadleuthau hwylio, dim data o gwbl chwaith  - dim oll ond argraffiadau anelwig Guto ei hun.

Roedd ymateb Guto i awgrym gan Hywel bod lle i feddwl bod tuedd sefydliadol i ffafrio cwmniau o Lundain hefyd yn ddiddorol - roedd y fath awgrym yn dreuenus a 'bron iawn yn enllib'.  Mae pawb yn gwybod wrth gwrs bod sefydliadau sydd wedi eu lleoli yn Llundain megis San Steffan, News International, y Met a'r banciau yn arddel y safonau proffesiynol uchaf, a byddai'n beth ofnadwy petai rhywun di egwyddor wedi awgrymu bod ganddyn nhw broblemau strwythurol o unrhyw fath yn y Byd.

Wnawn ni ddim hyd yn oed mynd ar ol goblygiadau yr awgrym sydd ymhlyg yn nadl Guto y dylid penderfynu ar leoliad daearyddol campau mewn ymateb i - ahem - ymdrechion gwleidyddion yn hytrach nag ar sail proses annibynnol gan yr awdurdodau Olympaidd o leoli, asesu, costio ac achredu safleoedd posibl. 

Mae Guto'n ei chael yn amhosibl credu y gallai  rhagfarnau fod yn rhan o wead sefydliadau Llundeinig, ond mae'n ei chael yn hawdd iawn credu y gallai sefydliadau Cymreig fod yn strwythurol ddiog a di gic.  Mae'r holl hanes yn swnio yn hynod debyg i stori oedd ar un adeg yn ddigon cyfarwydd mae gen i ofn - hogyn bach o Gymru yn mynd i'r ddinas a chael tipyn o lwyddiant yno,  yn dotio at y lle ac dod i ymgoleddu pob dim sy'n ymwneud a hi  - hyd yn oed rhagfarnau gwrth Gymreig rhai o'i thrigolion.. 

25 comments:

Anonymous said...

Wedi gwethu ei enaid os oedd ganddo un yn y lle cynta' wrth gwrs.

Wil said...

Rel Tori. Beio'r gweiniaid am eu gwendid, byth mo'r cryfion am eu traha.

Anonymous said...

Mae sylwadau Guto Harri nid yn unig yn gamarweiniol maen nhw’n dwyllodrus o gamarweiniol. Cais DINAS yw cais am y Gemau Olympaidd, nid cais gwlad. O dan reolau’r IOC mae rhaid i bopeth gael ei gynnal yn y ddinas sy’n cynnal y gemau. Hwylio a phêl-droed yw’r ychydig weithgareddau y gellir eu cynnal y tu allan i’r ddinas (am resymau ymarferol). Doedd dim hawl gan y pwyllgor trefnu gynnig cystadlaethau i neb arall. Pe bai Guto eisau ymddwyn fel ‘oedolyn’ dylai fe fod wedi pwyntio hynny allan ond, am ryw reswm (tybed pam?), dyw’r trefnwyr ddim eisiau tynnu sylw at hynny. Efallai fod bai ar Carwyn hefyd yn hyn o beth ond o leiaf mae fe wedi tynnu sylw at y ffaith mai ffoledd llwyr yw’r Gemau Olympaidd erbyn hyn – a rich city’s folly.

Anonymous said...

Mae'r ffaith bod canran uchel iawn o'r cyfleusterau, ac felly lleoliad daearyddol y contractau, yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn golygu bod mantais gychwynnol gan gwmniau o'r ardal honno, sef bod y cwmniau a'u staff a'u hadnoddau a'u swyddfeydd eisoes yno. Byddai cwmniau o Gymru, a rhannau eraill o'r DU, yn gorfod cyllidebu swm sylweddol o arian i adleoli staff am gyfnod y contract, costau swyddfeydd newydd efallai, gan olygu ei bod mwy neu lai'n amhosibl i'r cwmniau hynny ennill unrhy gontract i wneud rhywbeth lle mae lleoliad yn ffactor (e.e. adeiladu, arlwyaeth, ac ati).

Iwan Rhys

Cai Larsen said...

Iwan - yn naturiol mae gan gwmniau lleol fantais - ond ydi hynny ynddo'i hun yn egluro'r gwahaniaeth rhyfeddol? Mae yna bron i £8,000 wedi ei roi mewn contractau i Lundain am pob £1 aeth i Gymru.

Beth bynnag nid dyna ydi dadl Guto - dweud mai bai Cymru ydi'r holl sefyllfa mae o.

Anonymous said...

Er cadarnhad ...

All sports competition must take place in the host city of the Olympic Games, unless the
IOC Executive Board authorises the organisation of certain events in other cities, sites or
venues situated in the same country. The Opening and Closing Ceremonies must take
place in the host city itself. The location, sites and venues for any sports or other events
of any kind must all be approved by the IOC Executive Board.

Any request to organise any event, discipline or other sports competition in any other city
or location than the host city itself must be presented in writing to the IOC at the latest
prior to the visit of the Evaluation Commission for candidate cities.

http://multimedia.olympic.org/pdf/en_report_122.pdf

Hynny yw, mae tîm y cais yn gorfod cadarnhau lleoliad popeth fel rhan o'r broses ymgeisio.

Dyfed said...

Mae dadl o sylwedd bwysig fan hyn ac mae digon o le i gwyno. Ond mae gweld arweinyddion y Blaid yn cwyno mor groch yn gwneud inni ymddangos yn fychan ar y naw. Bydd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn mwynhau'r sioe pan y daw ac yn gweiddi dros - nid yn erbyn - athletwyr Prydain. Am unwaith dylem fel Plaid wedi gosod ein hunain yn sgidia y mwyafrif a chau ceg.

Anonymous said...

Peidiwch a phoeni, mae nhw'n bwriadu dod i ddangos y fflam i bobl Cymru a bydd ambell i sbloets gyda'r nos yma ac acw i'n cadw ni'n hapus.

Dwi'n cymryd mai Sebastian Coe fydd yn llofnodir siec ar gyfer y digwyddiadau PR drudfawr fydd yn cymryd lle yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor i "werthu" gemau Llundain i werin Cymru gan ddefnyddio ceiniog neu ddwy o'r sybsidi enfawr gan Gymru i gemau Llundain.

Ar y llaw arall, byddai'n sgandal genedlaethol os mai Llywodraeth Cymru, heddluoedd a chynghorau Cymru fydd yn talu am y cynllunio, y plismona, y rheoli ayyb ar gyfer y digwyddiadau hyn mewn cyfnod pan mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gwynebu blynyddoedd o doriadau.

Mae angen i Hywel a'r Blaid ofyn cwestiynau am hyn...

Anonymous said...

Excellent blog you have here but Ι was wаnting to know
if you knew of anу mesѕage boaгds that coѵer
the same toρics talkеd about here? I'd really love to be a part of group where I can get opinions from other knowledgeable people that share the same interest. If you have any recommendations, please let me know. Thanks!

Here is my webpage ... here you go to book erotic massage
Look at my page : tantra london

Anonymous said...

Heya are using Wordpress for your blog platform? I'm new to the blog world but I'm trying to get started and set up my
own. Do you require any html coding expertise to make your own blog?
Any help would be really appreciated!

Look into my webpage; hardwood floors

Anonymous said...

Hello mates, its fantastic paragraph regarding educationand entirely defined,
keep it up all the time.
hardwood floors installation

Anonymous said...

I am truly thankful to the owner of this website who has shared this impressive piece of
writing at at this time.

Here is my site; discount hardwood floors

Anonymous said...

Good day! Would you mind if I share your blog with my facebook group?
There's a lot of folks that I think would really enjoy your content. Please let me know. Cheers

Also visit my homepage :: hardwood floors

Anonymous said...

Quality posts is the main to attract the users to pay
a visit the web site, that's what this web site is providing.

Feel free to visit my blog post - hardwood floors

Anonymous said...

Fantastic goods from you, man. I have bear in mind your stuff prior to and you're just extremely wonderful. I really like what you've obtained here, certainly like what you
are stating and the way in which through which you assert it.
You're making it enjoyable and you still care for to stay it wise. I can not wait to learn much more from you. That is actually a great website.

my web page www.flooranddecoroutlets.com

Anonymous said...

I am genuinely pleased to glance at this web site posts which
carries plenty of valuable facts, thanks for providing
such information.

my homepage hardwood floors

Anonymous said...

Hey I know this is off topic but I was wondering if you knew of any widgets I could add to my blog that automatically tweet my
newest twitter updates. I've been looking for a plug-in like this for quite some time and was hoping maybe you would have some experience with something like this. Please let me know if you run into anything. I truly enjoy reading your blog and I look forward to your new updates.

my web blog ... toenail fungus treatment
My page :: treatment for toenail fungus

Anonymous said...

My spouse and I absolutely love your blog and find a
lot of your post's to be what precisely I'm looking for.
can you offer guest writers to write content in your case?
I wouldn't mind composing a post or elaborating on most of the subjects you write regarding here. Again, awesome blog!

Feel free to visit my website - hardwood floors
Also see my website: more

Anonymous said...

Pretty! Thiѕ was a really wonderful post.
Many thanks fοr proviԁing this information.



Ηere is my websіte ephedra ma huang
my web site: ma huang plant

Anonymous said...

Hey there just wanted to give you a quick heads up.
The words in your post seem to be running off the screen in
Ie. I'm not sure if this is a format issue or something to do with web browser compatibility but I thought I'd post to let you
know. The design and style look great though!

Hope you get the problem resolved soon. Cheers

Visit my web-site; maid services

Anonymous said...

Wow that was odd. I just wrote an very long comment but
after I clicked submit my comment didn't show up. Grrrr... well I'm not writing all that over again.
Anyhow, just wanted to say excellent blog!

Here is my blog post :: http://www.maidbrigade.com

Anonymous said...

When some one searches for his vital thing, so he/she wants to be available that
in detail, so that thing is maintained over here.

Stop by my web page; housekeeping salary

Anonymous said...

These are truly great ideas in concerning blogging.
You have touched some good points here. Any way keep up wrinting.


Also visit my blog post get housekeeping jobs
My web page > apartment cleaning services

Anonymous said...

http://cardiffmiller.com/pubs/buyvalium/#50463 what does valium pill look like - legal buy valium online

Anonymous said...

I visit day-to-day some web sites and blogs to read content, except this weblog presents quality based
posts.

Here is my web site ... natural hair loss
My site - hair loss reviews