Sunday, July 31, 2011

Dosbarth cymdeithasol a'r Gymraeg

Mynd i rhyw feddwl wnes i ar ol darllen am ymddeoliad Gwilym Owen yn Golwg y diwrnod o'r blaen os oedd yna rhywbeth yn ei osodiad bod y Gymraeg yn mynd yn iaith i'r dosbarth canol yn unig.  Mae'r canfyddiad hwnnw yn groes i fy argraff i, ond wedyn dwi'n byw mewn tre Gymreig iawn sydd hefyd yn ddosbarth gweithiol at ei gilydd.

Felly mi es i ati i geisio gweld os oes yna sail ystadegol i'r sylwadau.  Ymgais (ychydig yn ansoffisdigedig mae'n rhaid cyfaddef) i brofi os ydi gosodiad Gwilym yn gywir neu beidio ydi'r isod.  Rwyf wedi gosod y wardiau oedd yn ol y cyfrifiad diwethaf gyda 75%+ yn siarad Cymraeg ynddynt yn eu trefn ac wedi nodi eu safle a'u sgor ar Indecs Amddifadedd Cymru. Fel mae'r enw yn rhyw awgrymu ffordd o fesur amddifadedd ydi'r indecs ac mae'n gwneud hynny ar lefel ward etholiadol.  Mesurir amddifadedd 1,792 o gymunedau i gyd.

Felly mae safle isel a sgor uchel yn awgrymu lefel uchel o amddifadedd, tra bod sgor isel a safle uchel yn awgrymu'r gwrthwyneb.  Dwi ymhellach wedi gosod y cymunedau Cymraeg yn eu chwarteli cenedlaethol - mae lefel uchel o amddifadedd mewn cymunedau yn chwartel 4, a lefel isel o amddifadedd mewn rhai yn chwartel 1.  Ceir tair ward yn y chwartel isaf, tair yn y chwartel uchaf, 18 yn y trydydd chwartel a 17 yn yr ail chwartel.

Rwan does yna ddim diffiniad mae pawb yn ei dderbyn o'r hyn sy'n gwneud pobl yn ddosbarth canol - y diffiniad sy'n cael ei ddefnyddio amlaf ydi pobl sy'n syrthio i gategoriau ABC1.  Mae tua hanner poblogaeth Cymru yn syrthio i'r categoriau hynny, tra bod yr hanner arall yng nghategoriau C2DE.  A chymryd hynny mae'r tabl yn awgrymu bod cymunedau Cymraeg eu hiaith wedi eu rhannu yn weddol gyfartal rhwng rhai sydd yn ddosbarth gweithiol a dosbarth canol, ond bod llai ohonynt yn perthyn i'r pegynnau na sy'n wir am Gymru gyfan. 


Un neu ddau o bwyntiau bach technegol cyn gorffen - 'dwi'n derbyn nad ydi cyfrifo amddifadedd yr un peth a chyfrifo dosbarthiad cymdeithasol - ond mae'r naill yn rhoi syniad o'r llall.  Dwi hefyd yn derbyn nad ydi'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn byw mewn cymunedau 75% + - ond mae proffeil cymunedau Cymreig yn rhoi syniad i ni am broffeil siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol.  Mae hefyd yn wir bod y ffigyrau cyfrifiad yn ddeg oed bellach. Mae unedau cyfrifo'r indecs hefyd mymryn yn wahanol i unedau'r cyfrifiad, ac mae yna ychydig fanylion ar goll o'r indecs.

2 comments:

Ioan said...

Yn y gosodiad "YN MYND yn iaith i'r dosbarth canol yn unig", y newid yn ganranau siarad Cymraeg chwartel 1 (yng nghyfrifiad 2011) o'i gymharu a'r newid yn chwartel 4 fydd yn rhoi yr ateb.

Y tu allan i'r fro Gymraeg, mi fydd y gallu i siarad Cymraeg yn dangos bod rhywyn wedi gwneud yn dda yn yr ysgol (ac fellu'n fwy tebygol o fod yn ddosbarth canol). Pwynt ola (fel wnes ti grybwyll): erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn byw y tu allan i'r fro Gymraeg.

Anonymous said...

Mae sefydlogrwydd niferoedd siaradwyr Cymraeg yn Arfon yn ddeicatomi. Un o'r rhesymau sylfaenol dros y ganran uchel o siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd o Gaernarfon, Dyffryn Nantlle ac ati ydi sefydlogrwydd y boblogaeth, h.y. dim allfudiad ond cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth yn parhau i fyw yn yr un lle. Fe all hynny gael ei ddehongli fel rhywbeth cadarnhaol, ond fe all hefyd fod yn ganlyniad i ddiffyg cyfleon economaidd yn ogystal. At ei gilydd mae'r bobl ifanc mae'r gyfundrefn addysg yn eu hyrwyddo yn symud o'r ardaloedd yma am resymau economaidd-cymdethasol tra bod y gweddill (sydd hefyd yn siaradwyr Cymraeg) yn aros yn lleol gan nad oes dewis arall ganddynt.