tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post85127708508693135..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Y Bib yn dechrau poeni am fewnfudoCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger2125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-19981131078064723892014-03-05T00:41:02.096+00:002014-03-05T00:41:02.096+00:00Ymhellach, mae tynnu sylw at fewnfudo o Ewrop yn n...Ymhellach, mae tynnu sylw at fewnfudo o Ewrop yn normaleiddio mewnfudo o Loegr. Mae'r mewnfudwyr o Ewrop yn cael eu diffinio yn erbyn y brodorion, a'r brodorion yn yr achos hwn ydi'r Prydeinwyr. Mae gan y drafodaeth am fudwyr Ewrop ddau fantais felly i Unoliaethwyr; porthi hunaniaeth Seisnig-Brydeinig yn erbyn gelyn allanol tybiedig, a diffinio cymunedau Cymraeg a Chymreig ein gwlad ar sail yr hunaniaeth Seisnig-Brydeinig senoffobaidd (ac anghymreig) hon.Simon Brooksnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-17999799332880151192014-03-04T23:24:22.497+00:002014-03-04T23:24:22.497+00:00Swn i'n dadle nid yn unig am fod yr agwedd yna...Swn i'n dadle nid yn unig am fod yr agwedd yna ar fewnfudo heb gael ei barchuso gan y tabloids, ond hefyd am nad ydyn nhw'n ei ystyried yn fewnfudo o gwbl - am bod y meddylfryd yn gweld y ffin wleidyddol yn anarwyddocaol, a bod gan unigolion yr hawl i symud o fewn marchnad rydd sy di diffinio gan ffiniau'r Deyrnas Unedig. O'r safbwynt hwnnw, mae cyfraddau mewnfudo o Loegr i Gymru yn non-issue (i'r rhai sy'n byw o fewn y meddylfryd). Yr un yw'r meddylfryd ynghylch iaith, a 'hawl' siaradwyr uniaith Saesnegi gyfathrebu drw gyfrwng y Saesneg yn unrhyw le o fewn ffiniau'r DU.Anonymousnoreply@blogger.com