tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post7891827828196864227..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Paul Davies a'r GymraegCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger9125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-18792086219078339872010-02-23T10:15:32.889+00:002010-02-23T10:15:32.889+00:00A dweud y gwir dwi'n anghytuno efo Siân a Simo...A dweud y gwir dwi'n anghytuno efo Siân a Simon o ran y defnydd o'r gair 'Plaid' - tasa rhywun yn dweud gofyn, "I bwy wyt ti'n pleidleisio" byddai'n hollol naturiol ateb "Plaid" a bydden nhw'n gwybod yn union at bwy ti'n gyfeirio, a, byddai, mi fyddai'n swnio'n naturiol i glust y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg.

Dydi hynny ddim yn golygu fy mod i'n ffan o dalgrynu'r enw i 'Plaid' - ond mae o'n gweithio yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg o ran cyfeirio at Blaid Cymru, 'sgen i'm amheuaeth am hynny.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-15203645083250541332010-02-22T00:46:36.434+00:002010-02-22T00:46:36.434+00:00Ie, dwi'n cofio trafod hyn ar maes-e rai blyny...Ie, dwi'n cofio trafod hyn ar maes-e rai blynyddoedd yn ôl.

Mae'r wasg Saesneg yn dweud:
"Plaid wins the election" (sy'n ddealladwy os nad yn ddelfrydol) ac mae'r wasg Gymraeg yn eu copio a dweud "Plaid yn ennill yr etholiad" sy'n golygu "A party wins the election".
Mae jest yn ang-Nghymreig.
Dwi bron yn siwr bod Bethan Jenkins wedi newid cyflwyniad ei blog. Roedd yn arfer dweud "Rwyf yn Aelod Cynulliad Plaid dros Gorllewin De Cymru," ond erbyn hyn mae'n dweud "Rwyf yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Gorllewin De Cymru," - cam i'r cyfeiriad cywir!

Yn Gymraeg ti'n dweud "Dwi'n mynd i ginio'r Blaid" neu "Dwi'n mynd i ginio Plaid Cymru" yn dibynnu pwy ti'n siarad â nhw - nid "Dwi'n mynd i ginio Plaid".Siânnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-15791512459356548372010-02-21T20:47:14.870+00:002010-02-21T20:47:14.870+00:00Diolch Simon.
Mi wna i weld beth y gellir ei wneu...Diolch Simon.

Mi wna i weld beth y gellir ei wneud - gyda fy mod wedi llwyddo i ddilyn y ddadl yn iawn!Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-54072893353331277332010-02-21T20:33:40.766+00:002010-02-21T20:33:40.766+00:00Mae angen tynnu sylw at bethau fel hyn. Mae'n ...Mae angen tynnu sylw at bethau fel hyn. Mae'n diraddio'r Gymraeg, yn enwedig mewn ardal fel Ty Ddewi lle bo cymuned Gymraeg gynhenid o hyd (er ar ei hencil erbyn hyn, rhaid cyfaddef).

Ond diraddio'r Gymraeg hefyd oedd y Blaid dros y penwythnos, sioe a welais i ar BBC2. O'r 4 slogan Plaid Cymru ar y podiwm ac ar y welydd tu ol i'r siaradwr, roedd 3 ohonynt gyda'r Saesneg uwchben y Gymraeg. Nid yw hyn yn trin y Gymraeg yn gyfartal -yn waeth fyth mae'n amlwg ei fod yn benderfyniad ymwybodol i beidio trin y Gymraeg yn gyfartal.

Fe ddadleuwn hefyd nad gair Cymraeg mo'r gair 'Plaid' - e.e. 'Mae Plaid yn rhoi cryn bwysau ar Balesteina'r dyddiau hyn'.

Gair Saesneg ydy 'Plaid' er gwaetha ei etymoleg Cymraeg. 'Y Blaid' neu 'Plaid Cymru' sy'n Gymraeg. Ond am ryw reswm nid yw'r Blaid am eu harddel.

Y Blaid felly ydy'r unig blaid wleidyddol yng Nghymru ag enw uniaith Saesneg arni hi ei hun! Mae hyn yn dweud cryn dipyn am ei hagwedd at ei chefnogaeth graidd.

Oes modd i rai ohonoch chi yn Rhanbarth Arfon gael gair bach yng nghlust Gwenllian Lansdowne neu Adam Price ynghylch y nonsens ieithyddol (cwbl ddi-angen) yma?Simon Brooksnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-9868709892955933082010-02-21T18:59:05.611+00:002010-02-21T18:59:05.611+00:00Nag ydw - Alun Cairns dwi'n drio ei ddweud.Nag ydw - Alun Cairns dwi'n drio ei ddweud.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-84923508112402310002010-02-21T15:43:29.196+00:002010-02-21T15:43:29.196+00:00Ych chi'n siwr mai Alun Cox ych chi'n medd...Ych chi'n siwr mai Alun Cox ych chi'n meddwl?!Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-82825646501328016472010-02-20T20:19:52.955+00:002010-02-20T20:19:52.955+00:00Efallai wir!Efallai wir!Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-60865371378628037622010-02-20T20:13:42.865+00:002010-02-20T20:13:42.865+00:00Efallai bod dim staff sy'n siarad Cymraeg gand...Efallai bod dim staff sy'n siarad Cymraeg ganddo.Ryannoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-70248628024867006052010-02-20T19:55:17.921+00:002010-02-20T19:55:17.921+00:00Tebyg iawn na fyddai Toriaid Penfro yn rhy hapus i...Tebyg iawn na fyddai Toriaid Penfro yn rhy hapus i weld Cymraeg ar eu deunydd cyhoeddus. A faint o ddiddordeb sydd ganddynt yn y cynulliad i glywed Paul yn siarad Cymraeg yno?Anonymousnoreply@blogger.com