tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post7254707736948725206..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Mewnfudwyr - mynd ar ol y gelynion anghywirCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger1125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-85129392849307388122014-11-03T13:40:26.422+00:002014-11-03T13:40:26.422+00:00Sylwadau ar neo-ryddfrdiaeth Deborah Orr http://ww...Sylwadau ar neo-ryddfrdiaeth Deborah Orr http://www.theguardian.com/commentisfree/2014/oct/27/immigration-neoliberalism-michael-fallon-tories-labour-ukip o beth ddiddordeb.
Mae ‘na wirionedd yma t’oes? Serch hynny, mae ‘na dipyn o amrywiaeth rhwng wledydd fel Siapan a Chanada, ill dwy’n gyfalafol, o ran polisiau mewnfudo..
Sylwadau am y pedair brif blaid: Ie Tad…
Er I G.K. Chesterton sonio am gynghair y ddwy blaid bryd hynny sef “Hudge & Grudge”(a ymdebygodd at “bartneriaid distaw” ar rai pynciau) gellid honni – heb daeru chwaith mai cynllwyn sydd wraidd pethau – fod y pedair prif bleidiau’n ddedwydd braf o lesteirio ychwaneg o gystadleuwyr. Serch hynny, er waetha’ hyn, y mae pleidiau newydd yn ennill eu plwy’, a mwy, weithian. Pam?
Yn y gorffenol, r’oedd sawl bwnc yn ysgymunbeth. Eto fyth, ni phleidleisiodd y mwyafrif i agor y drysau lled eu pennau (neu letach nag oeddynt). Mi gawasant eu dannod i dewi am ofidiau felly gan y ddiwylliant gyfyngol ac addysygol. Ac am gyfnod, “calla’ dewi” biau hi ond pen eitha’ hyn oll fyddai’n gwyrdroi’r gyfundrefn ddemocrataidd mewn un ffordd…Nid y demos fyddai’n dewis y llywodraethwyr ond y llywodraethwyr – chwedl Berthold Brecht - ffydai’n dewis demos newydd sbon yn lle.
Gwahaniaeth rhwng batrymau pleidleisiau Llundain a Clacton yn hyn o beth? Y mae’r dyn ar y stryd bondigrybwyll YN bwrw pleidlais o’i boced OND ystyried ei dynged yfory hefyd y mae dyn Clacton…pryd (ar batrwm Llundain) na fyddai ei bleidlais o bwys yn y fantol bellach mewn etholaeth ddyfodol ar ei newydd wedd..
Mae hi’n anodd gwyrthwynebu’r ddadl am effaith gwahanaiethau cyflogau mewn amryw o lefydd gwahanon ond i weithwyr sgil isel cynhenid , mi ddaw rhagor o weithwyr rhad o tu allan i dorri pris llafur gan wneud rhai swyddi’n anoddach i’w cael. Rhagor o fudd i gyflogwyr (o ran dewis a phris llafur) yn fwy nac i weithwyr lleol s’wn i’n meddwl..
O ran y ddadl..”Diolch i’r drefn , mae newydd-ddyfodiaid yn talu pensiynau’r hen-oed.” Ni ddaw henaint ei hunan. Ar ol i’r garfan o fewnfudwyr nesau at eu hoedran pensiwn eu hunain daw heidiau newydd o helotiaid i mewn i’r gorlan i dalu amdanyn nhw yn eu tro? Eto fyth: beth yw pen eitha’ hyn oll?
Anonymousnoreply@blogger.com