tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post651318789178357415..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Beth wnawn ni o electionforecast.co.uk?Cai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger5125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-49363959354642915232015-04-30T03:57:48.063+01:002015-04-30T03:57:48.063+01:00Yn wahanol i Dylan rwy' mond yn cytuno a Jason...Yn wahanol i Dylan rwy' mond yn cytuno a Jason 50%. Fel ymarfer mewn seffoleg, fel modd o wir ddarogan yr etholiad, mae 'na frychau amlwg yn ffordd mae electionforecast yn ymdrin â Phlaid Cymru. Pe bawn i am wystlo puntan ar y Blaid yn ennill mewn etholaeth, byddwn i ddim yn gwneud hynny yn seiliedig ar y ffigyrau hyn.

Rwy'n anghytuno a'r HoR am yr "orgyffroi" a'r sylwadau ar Trydar. Fel propaganda mae gallu dweud "drycha mai'r ffynhonnell hon yn dweud bod pethau yn cyffroi yn Aberconwy, yn cynhesu yng Nghastell Nedd yn agos ar y diawl yn Llanelli" yn arf nerthol i'w defnyddio yn yr ymgyrch pleidiol a dylid gwneud pob defnydd ohoni.Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-31913955045457405232015-04-26T16:31:18.635+01:002015-04-26T16:31:18.635+01:00Cytuno 100% â HoR.Cytuno 100% â HoR.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-25987546427829473152015-04-25T21:40:29.275+01:002015-04-25T21:40:29.275+01:00Dwi wir ddim yn gwbod be i wneud o Election Foreca...Dwi wir ddim yn gwbod be i wneud o Election Forecast - ar yr un llaw maen nhw'n defnyddio amryw ffynonellau ac mae'r gwaith yn cael ei wneud gan arbenigwyr yn y maes, ac yn ystyried pob math o ffactorau - mae'n ddigon trylwyr. Hynny ydi, dio'm yn ddi-sail.

Ac ar y llaw arall ma'n darogan ymhlith pethau eraill 86% o'r bleidlais i'r SNP yn Ynysoedd y Gorllewin a buddugoliaeth ddidrafferth i'r Blaid yng Ngheredigion.

Mae yna beryg i bobl orgyffroi - mae eisoes ym digwydd ar Twitter, er efallai fwyaf ymhlith pobl dipyn iau na chdi neu fi sydd gweld llai o etholiadau ac sydd efallai'n orhyderus (o'n i'n arfer gwneud hyn yn iau, siŵr dy fod dithau hefyd wedi!).

Dwi'n crinjio braidd efo rhai sylwadau yn y cyfryngau cymdeithasol, achos wela i ddim tystiolaeth o unrhyw #PlaidSurge ac ma'n gwneud i bobl edrych yn wirion a naïf os nad ydi pethau'n mynd gystal ag y maen nhw'n ei ddisgwyl. Dydi hynny ddim yn golygu o gwbl na chaiff y Blaid etholiad llwyddiannus, ond gair o gyngor iddynt, pwyll bia hi.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-82244815880312704102015-04-25T09:35:40.013+01:002015-04-25T09:35:40.013+01:00Ar drywydd gwahanol Cai. Y Toriaid ddoe yn cyhoedd...Ar drywydd gwahanol Cai. Y Toriaid ddoe yn cyhoeddi chwyldro go iawn ym myd datganoli/y cyfansoddiad Prydeinig, sef AS o Loegr yn unig i gael trafod/pleidleisio ar faterion yn ymwneud a Lloegr, gan gynnwys lefelau treth incwm - a hynny o fewn 100 niwrnod i'r etholiad!

Dim trafodaeth.
Dim papur ymgynghorol.
Dim Comisiwn brenhinol.
Dim refferendwm.
Dim trothwy o 40%.

Jyst datganiad gan Cameron.

Mi gymerodd hi flynyddoedd i ni gael y Cynulliad - a phob rhwystr posib yn cael ei godi i geisio atal hyn rhag digwydd.

Felly - be' aflwydd sy'n digwydd yn rhengoedd y Toriaid y dyddia' hyn?

Mae'n eitha posib felly y bydd gan Lloegr fwy o hawliau datganoledig na ni'r Cymry, a hynny cyn gwyliau'r haf!

Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-71242796536981903212015-04-25T03:00:42.697+01:002015-04-25T03:00:42.697+01:00Rwyt ti'n edrych ar y data anghywir, mae cwpwl...Rwyt ti'n edrych ar y data anghywir, mae cwpwl o ymgeiswyr Plaid wedi trydar y manylion yna hefyd. Dwi ddim yn siwr pam fod electionforecast efo tudalen "current" a "predicted" ond y "predicted" ydi y ffigyra ma nhw yn ei cyhoeddi gan amlaf. Ar y funud:

Ceredigion: PC 33%, LD 32%
Dwyfor M: PC 47%, Llaf 15%
D. Caerfyrddin: PC 40%, Llaf 24%
Arfon: PC 35% Llaf 31%
Llanelli: PC 34%, Llaf 36%
Ynys Mon: PC 30% Llaf 32%
Castell Nedd PC 30%, Llaf 40%
Caerffili: PC 18%, Llaf 43%
Rhondda: PC 28% Llaf 49%Cwlcymrohttps://www.blogger.com/profile/02039566530360443280noreply@blogger.com