tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post5199816516001714621..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Ynglyn a refferendwm Ewrop.Cai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger1125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-66113733805321731682016-06-01T21:44:20.175+01:002016-06-01T21:44:20.175+01:00Fel cenedlaetholwr Cymraeg, mi fydda'i i yn pl...Fel cenedlaetholwr Cymraeg, mi fydda'i i yn pleidleisio o blaid aros yn Ewrop. Wedi dweud hynny, mae gen i lot o gydymdeimlad hefo'r ymgyrch i adael.<br /><br /> A fedra'i ddim dioddef yr agwedd nawddoglyd hyn tuag at bobl sy'n pryderu am lefelau mewnfudo i Brydain, agwedd sy'n cael ei rannu gan Blaid Cymru yn ol pob golwg. Mae'n swnio'n beth od i genedlaetholwr ddweud, ond dwi'n cytuno hefo Michael Gove mai cydsyniad cyhoeddus( public consent) sydd wrth wraidd yr holl anniddigrwydd am fewnfudo. Does yr un maniffesto gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys ymrywmiad i godi lefel mewnfudo i'r fath raddau, a does dim trafodaeth onest am y mater wedi digwydd hefo'r cyhoedd o gwbl. Yn hytrach, mae'r cwbl wedi digwydd megis fait accompli gan y dosbarth gwleidyddol, a dyna sydd wedi corddi'r cyhoedd i'r fath raddau. A dyna pam mae'r syniad o gyflwyno rhyw fath o reolaeth dros y broses, megis trefn bwyntiau ar gyfer mewnfudwyr, fel a welir yn Awstralia, yn debyg o fod mor boblogaidd. Symbol o anfodlonrwydd llawer, llawer dyfnach yw mewnfudo- rhywbeth y mae'r ochr Aros wedi methu a'i ddeall yn llwyr.<br /><br />A phebai Gadael yn ennill, a system bwyntiau fel hyn yn cael ei gyflwyno, onid oes yna fanteision posib I Gymru i allu rheoli ein lefelau mewnfudo ein hunain yn y dyfodol. Byddai'n llawer haws dadlau dros system gyffelyb os oes un eisoes ar waith ym Mhrydain yn gyffredinol,a hwnnw wedi ei seilio i raddau healeth ar warchod hunaniaeth!Anonymousnoreply@blogger.com