tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post3966659437921472399..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Trosglwyddiad iaithCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger1125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-3988295168507877082014-04-05T15:07:21.102+01:002014-04-05T15:07:21.102+01:00Diddorol ond eto dylid ystyried cyfyngiadau'r ...Diddorol ond eto dylid ystyried cyfyngiadau'r cyfrifiad. Beth ydi diffiniad siaradwr Cymraeg? Rhyw 53% o blant 3-4 oed ym Môn yn "gallu siarad" Cymraeg ond mae'r un rhieni yn nodi mai llai na 40% sy'n ei siarad fel mamiaith. Yng Nghymru gyfan 24% os nad ydwi'n misio o blant 3-4 yn siarad Cymraeg ond yn ôl y cyfrifiad ysgolion rhyw 8% yn siarad C ar yr aelwyd a 8% wedi dysgu. Mae traean y plant sy'n "gallu" felly yn ddysgwyr heb fod yn rhugl....

Mae'r ystadegau hyn yn cynnwys ystod lydan iawn o gwpl Cymry cynhenid i gwpl o ddysgwyr sy'n siarad Saesneg hefo'i gilydd ond yn bwriadu i'w plant gael addysg Gymraeg. Fel mae Cai'n nodi, mae yna filoedd o Saeson ail-genhedlaeth yn y gorllewin sy'n "gallu" siarad Cymraeg ond tybed faint ohionynt sy'n gwneud defnydd ohoni wrth fagu plant

Byddai'n ddiddorol cymharu trosglwyddiad iaith o fewn grwp HOMOGENAIDD er mwyn canfod yr ardaloedd a'r cymunedau (yn ôl dosbarth, oed, galwedigaeth ac yn y blaen) lle mae trosglwyddiad iaith yn problem.

Wedyn, mae ffiniau' siroedd yn cymylu pethau. Môn yn cynnwys ardaloedd lle mae mwyafrif llethol y Cymry Cymraeg yn magu eu plant yn Gymry a llefydd eraill fel Caergybi lle mae'r iaith wedi darfod i bob pwrpas ymhlith y "werin"

William dolbennoreply@blogger.com