tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post3359616642750417123..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Ac yn y cyfamser i lawr yr arfordir yn LarneCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger1125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-90036443519669581262013-05-29T10:41:11.947+01:002013-05-29T10:41:11.947+01:00Credaf mai arwyddion o ofn ac ansicrwydd dwfn ymhl...Credaf mai arwyddion o ofn ac ansicrwydd dwfn ymhlith y Protestaniaid yw'r baneri. Maent yn gwybod yn eu calonnau fod dyddiau bodolaeth Gogledd Iwerddon fel rhan o'r DU ar ddod i ben, ond nid ydynt yn barod i wynebu hyn. Mae'r ysgrifen ar y wal.<br /><br />Mae'r un peth yn wir am y DU ei hunan. Gwelwn aelodau o deulu brenhinol Lloegr beunydd ar y teledu yn ddiweddar, efo Jac yr Undeb fwyfwy yn y cefndir. Hefyd yr ymosodiadau lu ar yr Albaenwyr sy am annibyniaeth. Arwyddion o ofn mawr ymysg yr elet Brydanaidd fod y DU ar fin dod i ben yw hyn oll. <br /><br />Dylwn fel Cymru ymfalchio yn y ffaith fod cadarnle olaf ymerodraeth Lloegr yn y broses o gael ei chwalu yn ddarnau a bydd ein gwledydd bach ni yn cael eu rhyddid o'r diwedd.maen_tramgwyddnoreply@blogger.com