tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post1706328126969417226..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Rol y snob ideolegol yn y teulu cenedlaetholgarCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger29125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-26887427181511564682009-01-03T05:08:00.001+00:002009-01-03T05:08:00.001+00:00This comment has been removed by the author.Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-83110769082524657342009-01-03T05:08:00.000+00:002009-01-03T05:08:00.000+00:00Rwyf wedi ateb dy gwestiynau di: a wnei di ymateb ...Rwyf wedi ateb dy gwestiynau di: a wnei di ymateb i'r sialens y gwnes i osod uchod?

Nid ydwyt wedi ateb - dim ond wedi ail bobi esgusodion am y methiannau.

O ran dy sialens wirion yr wyf eisoes wedi danfon bron i fil a hanner o byst i Faes -E ac wedi cyhoeddi dros 700 o byst ar fy mlogiau parthed lle yr wyf yn sefyll ar wleidyddiaeth Cymru fach - dydy hynny ddim yn ddigon iti?Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-3209422782283580732008-12-29T17:55:00.000+00:002008-12-29T17:55:00.000+00:00Lle mae'r papur dyddiol? Mae Golwg wedi derbyn ari...Lle mae'r papur dyddiol? Mae Golwg wedi derbyn arian i greu gwasanaeth. Nid ydi o gymaint a mae rhai, fel fi a blogMenai, eisiau, ond rhaid iddo wneudy tro. Os nad wyt wedi sylwi, mae gwasgfa ar arian cyhoeddus ers 2005 - y blas cynnar o'r dirwasgiad fyd-eang.

Lle mae'r Coleg Ffederal? Yn y broses o gynllunio. Dydi pethau ddim yn digwydd yn syth mewn gwleidyddiaeth - ond, diolch i Blaid Cymru, mae o ar agenda'r Cynulliad.

Lle mae'r Ddeddf Iaith? Gweler yr uchod - dydi pethauddim yn digwydd
yn syth. Does ddim gwadu fod ASau Llafur yn ceisio arafu pethau, ond os aiff pethau i gynllun, cawn Ddeddf Iaith yn fuan. Os ydi ASau Llafur yn llwyddo ei ohirio, dwi yn amau y bydd nifer o Bleidwyr, gan gynnwys fi a blogmenai mae'n debyg, yn galw am i ni adael y glymblaid.

Nid Dafydd El yw'r Blaid. Ei gyngor o yw cymeryd gofal - os ydi refferendwm yn cael ei golli, gallai ddal unrhyw newidiadau cyfansoddiadol yn ol am chwarter canrif. Mae'r rhan fwyaf o aelodau, am weld refferendwm yn fuan.

Yn ol i ysgolion bach. Effeithlondeb yw'r rheswm. Mae llefydd gwag mewn ysgol yn arallgyfeirio arian o wasanaethau eraill. Nid oes digon o arian i gynnal y llefydd gwag yma. Ar draws Cymru, gan drin bob ardal gwledig yn gyfartal, byddai'n costio degau o filiynau. Erbyn hyn, mae'r ddadl ar ben gan fod Llais Gwynedd yn erbyn y syniad. Rwyf wedi derbyn y ffaith - cawn weld pwy sydd yn iawn.

Wrth drafod tai cyngerdd, fe oeddwn i'n credu mai ti a HoR oedd yn cwyno am ddiffyg arian i ddiwylliant. Pan yn trafod Dolgarrog, nid oedd hwn yn fusnes bach, ond busnes a ddylai fod wedi gallu cynnalei hun. Mae galw rhyngwladol am nwyddau craidd wedi dymchwel - ni fedrir cynnal pob cwmni trwy dirwasgiad.

Rwyf wedi ateb dy gwestiynau di: a wnei di ymateb i'r sialens y gwnes i osod uchod?Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-53148480802028017342008-12-29T01:44:00.000+00:002008-12-29T01:44:00.000+00:00O fewn trafodaethau polisi'r Blaid, mae'r iaith ac... O fewn trafodaethau polisi'r Blaid, mae'r iaith ac annibyniaeth ym mhobman.

Ym mhle?

Lle mae'r papur dyddiol?

Lle mae'r Coleg Ffederal?

Lle mae'r Ddeddf Iaith?

Pam bod y Blaid am gau Ysgol lwyddiannus Bontddu, lle mae pob disgybl o bob cefndir yn ymadael a'r ysgol yn rhugl y Gymraeg, a'u danfon i Ysgol Dolgellau lle bydd prin 10% yn ymadael yn rhugl er gwaetha polisïau iaith honedig Gwynedd?

Pam bod Llywodraeth y Cynulliad, y mae'r Blaid yn rhan ohoni, yn methu cael hyd i filiwn i achub swyddi yn Nolgarrog (mewn etholaeth Plaid Cymru) ond yn gallu cael hyd i filiynau lawer i achub tŷ cyngerdd yng Nghaerdydd? Pam bod y Blaid wedi methu cadw gwaith Dolgarrog ar agor am swm bitw, ond wedi gadael etifeddiaeth i'r genedl o £100 miliwn i glirio'r safle fel un cyn ddiwydiannol?

Lle mae'r refferendwm? Wedi ei gicio i'r ystlys am flynyddoedd maith yn ôl un o fawrion y Blaid!

Lle mae'r ymgyrch dros annibyniaeth yr oedd Adam Price am ei gychwyn yn 2007 ac eto yn 2008? Yn disgwyl i gael ei ail gyhoeddi yn 2009 a 2010 mae'n debyg.Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-29680707681100864332008-12-28T22:55:00.000+00:002008-12-28T22:55:00.000+00:00Cweit Rhydian.Y pwynt arall ydi nad oes neb yn arg...Cweit Rhydian.

Y pwynt arall ydi nad oes neb yn argymell anwybyddu'r hyn sydd yn unigryw am y Blaid. Yr hyn mae'n rhaid ei wneud ydi ei osod mewn cyd destun ehangach.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-25986017072908376082008-12-28T22:44:00.000+00:002008-12-28T22:44:00.000+00:00Wel, dydi sylwadau Gwilym dal ddim yn berthnasol i...Wel, dydi sylwadau Gwilym dal ddim yn berthnasol i'r ddadl.

Ond i drafod pragmatiaeth, sut yn union wyt ti'n gallu credu fy mod i a blogMenai eisiau eilraddio'r iaith. O fewn trafodaethau polisi'r Blaid, mae'r iaith ac annibyniaeth ym mhobman.

Ond fel mae blogMenai wedi nodi, nid yw'n naratif etholiadol sydd yn ennill pleidleisiau. Mae pobl yn fwy tebygol i bleidleisio dros faterion sydd yn amharu ar eu bywydau, fel gwasanaethau iechyd. Tan nes i'r Blaid sylwi ar y ffaith, mi oeddem yn derbyn llond dwrn o bleidleisiau.

Ers hynny, rydym wedi ceisio defnyddio naratif genedlaethol sydd i ymwneud a bywydau o ddydd i ddydd. Mae'r dacteg yma a'i wendidau hefyd, fel y mae Gwilym yn profi, gan fod materion lleol yn gallu ymddangos yn fwy pwysig na materion cenedlaethol.

Ond mae'r tactegau yn well na naratif pur genedlaetholgar - gan ei fod yn ennill mwy na pleidleisiau'r cenedlaetholwyr. Sut naratif a fyddet ti yn ei gynnig?Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-84699775619309056022008-12-28T22:22:00.000+00:002008-12-28T22:22:00.000+00:00Y ddadl yma yw rhwng purydd ideolegol (Alwyn), a c...Y ddadl yma yw rhwng purydd ideolegol (Alwyn), a chenedlaetholwyr sydd yn barod bod yn hyblyg.

Nac ydi Rhydian, mae'r ddadl yma rhwng rhywun sydd ddim yn gweld bod anwybyddu'r hyn sydd yn rhoi stamp ar blaid, ei USP (fel mae'r marchnatwyr yn ddweud), yn beth pragmatig iawn i wneud a phuryddion fel ti a Cai sydd yn rhy anhyblig i dderbyn bod unrhyw le am feirniadaeth teg ar eich plaid pur a pherffaith chi.Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-8170059165761618542008-12-28T22:07:00.000+00:002008-12-28T22:07:00.000+00:00Wedi ddarllen dy bostiau di eto Gwilym, a dwi dal ...Wedi ddarllen dy bostiau di eto Gwilym, a dwi dal ddim yn deall beth yr wyt ti yn cwyno amdano? Dwi yn gwybod nad wyt ti yn credu fod Plaid Cymru yn llywodraethu yn dda iawn, yn genedlaethol nac yn sirol. Ond beth a wnelo hynny a'r ddadl yma?

Nid oes unrhyw synnwyr i dy bostiau isod! Mae'n edrych mwy i mi fel cyfle i Llais Gwynedd gael cwyno am Blaid Cymru eto!Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-64227904560419416172008-12-28T21:53:00.000+00:002008-12-28T21:53:00.000+00:00Gwilym, rhaid i fi gyfaddef syndod hefyd. Wedi'r c...Gwilym, rhaid i fi gyfaddef syndod hefyd. Wedi'r cwbl, mae Llais Gwynedd yn esiampl o blaid sydd wedi gadael unrhyw ideoleg heblaw am wasanaethu pobl Gwynedd. Y ddadl yma yw rhwng purydd ideolegol (Alwyn), a chenedlaetholwyr sydd yn barod bod yn hyblyg. Lle wyt ti yn ffitio fewn?

Ar yr un llaw ti yn dadlau fel purydd ideolegol yn cwyno fod y Blaid yn cyfaddawdu yn y Cynulliad. Ar y llaw arall ti yn gynghorydd i blaid sydd yn sefyll ar faterion lleol, sydd wedi dadlau fod y Blaid yn edrych dros Gymru gyfan yn lle canolbwyntio ar anghenion Gwynedd yn unig. Sut wyt ti yn cysoni'r safbwyntiau yma?

Hefyd, a gaf dy atgoffa mai 9% o etholwyr Arfon a bleidleisiodd i Llais Gwynedd, ac 20% yn yr holl sir. Paid a chyfri ar ennill mwy o seddi y tro nesaf!Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-59108207937064251962008-12-28T21:26:00.000+00:002008-12-28T21:26:00.000+00:00Gwilym - 'dwi ddim yn credu mai hawlio mai'r Blaid...Gwilym - 'dwi ddim yn credu mai hawlio mai'r Blaid ydi'r ateb i broblemau Cymru oedd byrdwn y blog - ymysodiad ar dueddiad rhai pobl i roi ideoleg yn gyntaf - hyd yn oed pan mae hynny'n ei gwneud yn amhosibl i ennill grym i hyrwyddo'r ideoleg honno oedd. Mi fyddwn wedi dychmygu y byddai aelod blaenllaw o Lais Gwynedd yn cytuno efo'r dadansoddiad hwnnw - ond dyna fo - be wn i?

Mi'r ydw i hefyd yn gwneud sylwadau am ddiffyg ideoleg cenedlaethol Llais Gwynedd. efallai y galli fy nghywiro a fy rhoi ar ben ffordd - oes gan LlG bolisiau / safbwyntiau sy'n ymwneud a'r drefn gyfansoddiadol yng Nghymru?Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-58946777584091444642008-12-28T21:06:00.000+00:002008-12-28T21:06:00.000+00:00Lle ti isio mi ddechrau? Y gwir ydi...mi wnawn ni ...Lle ti isio mi ddechrau? Y gwir ydi...mi wnawn ni ytuno ar llawer mwy na wnawn ni anghytuno arno..serch hynny, ti yn ceisio hawlio mai'r Blaid yw'r ateb i broblemau Gwynedd a Chymru ond heb os ac onid bai, ar lefel siriol mae'n dangos arweinad cwbwl anobeithiol ac yn Genedlaethol mae'n profi i fod yn anobeithiol ac dim mwy na ci bach i'r Blaid Lafur.
Dwi'n anghytuno a llawer o bethau...dwi eisioes rhestru rhai ohonynt ar fy mlog...ti umwaith eto yn lladd ar Llais Gwynedd.sut a pham? Ti ddim yn cytuno a'r ffordd gadarn rydym wedi gwneud safiad dros pobol a gwasanaethau ar draws y Sir hyd yma? Mae gen ti gysylltiadau agos gyda'r Blaid ar Gyngor Gwynedd...ydi pethau mor ddrwg a mae nhw'n edrych ta be?..Ers i mi gyfeirio a pheth o broblemau'r Blaid, mae'n ymddangos fod pethau hyd yn oed yn waeth...pam?GWILYM EUROS ROBERTShttps://www.blogger.com/profile/13054295707501827240noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-65839588744948927152008-12-28T20:50:00.000+00:002008-12-28T20:50:00.000+00:00Beth yn benodol ti'n anghytuno efo fo Gwilym?Beth yn benodol ti'n anghytuno efo fo Gwilym?Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-52902740204544544622008-12-28T20:35:00.000+00:002008-12-28T20:35:00.000+00:00Hmmm.....dwi'n gweld rwan pan fo pobol o pob cefnd...Hmmm.....dwi'n gweld rwan pan fo pobol o pob cefndir cymdeithasol ar draws Cymru, boed nhw yn Gymry Cymraeg a'i peidio yn ymbellau eu hunain oddi wrth Plaid Cymru.
Efo'r ddau yma yn "llefarwyr" ar eu rhan mae hon yn edrych fel Plaid sydd yn bendant wedi gweld dyddiau gwell.
Dewch yn ol at realiti dydd i ddydd yn lle malu cachu yn eich byd bach idealegol, gwleidyddol cywir yng nghysgod Castell Caernarfon.
Byddwn yn croesawu'r cyfle unrhyw adeg yn unrhyw le i gyfarfod ar ddau ohonoch i ddadlau wyneb yn yneb efo chi ynglyn a peth o'r nonsens yma 'da chi wedi ysgrifennu!
Fentrai ddweud rwan y bydd Llais Gwynedd yn dwblu nifer yr aelodau sydd ganddi ar Gyngor Gwynedd yn yr etholiad nesa'. Pam?Yn syml tydi Plaid Cymru ddim yn gwrando nac isio gwrando ar yr etholwyr yma yng Ngwynedd ac mae hynny'n brawf pendant mai Plaid y sefydliad yma yng Nghymru yw PC bellach ac nid Plaid y pobol. Dal ati Alwyn....ond paid gwastraffu gormod o amser efo rhain gan nad oes dysgu arnynt!GWILYM EUROS ROBERTShttps://www.blogger.com/profile/13054295707501827240noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-29210084283322063602008-12-28T15:25:00.000+00:002008-12-28T15:25:00.000+00:00Fel rhywun sy'n eitha newydd i rengoedd y Blaid ac...Fel rhywun sy'n eitha newydd i rengoedd y Blaid ac wedi bod yn "burydd ideolegol" yn y gorffennol, dyma dweud fy neud...

Dwi'n cytuno fod y purydd ideolegol (dydi'r gair "snob" ddim yn help yma) mewn lle braf - yn eistedd ar y cyrion yn lladd ar bobol yn trio gneud y gorau o'r sefyllfa. Yn aml, dydi'r purydd ddim yn gneud dim ymarferol - dim ond lladd.

Ar y llaw arall mae gwleidyddion ymarferol yn aml yn colli golwg ar eu raison d'etre - wrth gyfaddawdu, wrth gynghreirio efo hen elyn dros dro, wrth wynebu'r ffaith nad oes digon o arian i dalu am y delfrydau pleidiol.
Felly mae angen y purydd ideolegol ond un sy'n weithgar ac yn ymarferol - er mwyn atgoffa'r gwleidydd pragmataidd pam ein bod ni yma. Yn ddelfrydol, fel grwp pwyso o fewn y Blaid neu o leia grwp pwyso.

Yn lle hyn, fel arfer cawn buryddion sy'n gelyniaethu llawer o'n cefnogwyr potensial drwy eu bychanu fel "Saeson" (etc etc).Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-9149473757697724512008-12-28T13:15:00.000+00:002008-12-28T13:15:00.000+00:00HoR 'Dwi ddim cweit efo chdi.Mae'r Blaid ar hyn o ...HoR 'Dwi ddim cweit efo chdi.

Mae'r Blaid ar hyn o bryd yn fwy plaen mai annibyniaeth yw eu nod nag y buont ers talwm. Byddwn yn derbyn nad oes digon o waith wedi ei wneud o ran mecaneg gwneud i hynny ddigwydd.

Y peth i'w ddeall yn y pen draw ydi mai'r Blaid ydi'r unig sioe sydd ar a lon o ran cenedlaetholdeb - ac oni bai am y Blaid byddai ein sefyllfa gyfansoddiadol yn llawer llai boddhaol, ac ni fyddai llawer o'r newidiadau o ran y Gymraeg wedi digwydd.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-24545611421368909232008-12-28T13:05:00.000+00:002008-12-28T13:05:00.000+00:00Sialens bach i ti Alwyn. A wnei di flogio dy gynll...Sialens bach i ti Alwyn. A wnei di flogio dy gynllun, gam wrth gam, i blaid genedlaetholgar arwain Cymru i annibyniaeth.

Lle yn union fyddet ti yn fodlon cyfaddawdu fel y mae rhaid mewn gwleidyddiaeth? Beth yn union fyddai dy neges i'r etholwyr? Sut fyddet ti yn ennill pleidleisiau newydd? Pam dylswn i bleidleisio i dy blaid newydd?Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-70020403990247895932008-12-28T12:02:00.000+00:002008-12-28T12:02:00.000+00:00O diar - sterics.Yr hyn sy'n gelwydd Alwyn ydi hon...O diar - sterics.

Yr hyn sy'n gelwydd Alwyn ydi honni bod sylw na ellir ennill yn etholiadol gyda naratif sydd yn ymwneud yn unig a iaith a materion cyfansoddiadol yn gyfystyr a dweud bod yr iaith ac annibynniaeth yn eilradd.

Mae'r sylw am Lais Gwynedd yn dangos diffyg crebwyll llwyr ynglyn a natur gwleidyddiaeth Gwynedd. Grwp sy'n ymwneud a materion pob dydd yn llwyr ydi Llais Gwynedd - nid oes yna ddimensiwn cenedlaetholgar o gwbl - maent yn derbyn cefnogaeth o bob gyfeiriad gan gynnwys rhai o'r elfennau mwyaf gwrth Gymreig yn y sir.

Mae gan y Blaid broblemau yng Ngwynedd - a byddaf yn 'sgwennu blog tros y dyddiau nesaf ar y pwnc - ond mae honni bod deg cynghorydd yn bwriadu gadael yn - wel ddim cweit yn wir.

Fel y dywedais, mi fydda i'n sgwennu darn ar hynny tros y dyddiau nesaf - ond nid diffyg cenedlaetholdeb ydi'r broblem - diffyg gallu i ymateb yn hyblyg i broblemau pob dydd pobl sydd wrth wraidd pethau.

Mae'r sylw bod y sawl sydd ddim yn cytuno efo chdi yn ymdebygu i George Thomas yn dy wneud yn frenin snobyddiaeth ideolegol cenedlaetholdeb Cymreig.

I gydnabod y ffaith hwyrach y dylid dy ddilladu mewn lifrau sidan, esgidiau uchel, wig gwyn a rhoi bwcl a botymau aur i ti - yn union fel George.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-19326710005631203622008-12-28T10:54:00.000+00:002008-12-28T10:54:00.000+00:00This comment has been removed by a blog administrator.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-40009243448897698182008-12-28T10:50:00.001+00:002008-12-28T10:50:00.001+00:00This comment has been removed by a blog administrator.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-68703669805611356102008-12-28T10:50:00.000+00:002008-12-28T10:50:00.000+00:00Alwyn: diolch byth nad wyt yn byw yng Ngwynedd, ma...Alwyn: diolch byth nad wyt yn byw yng Ngwynedd, mae angen cenedlaetholwyr effeithiol yma!

Ti mor awyddus i gyfeirio at y Blaid fel mudiad sydd yn ystyried yr iaith yn eilradd. Fel mae blogmenai yn dweud, pe bai hyn yn wir, ni fyddem yn y gem o gwbl - ond wedi ymuno pleidiau eraill , neu peidio ac ymddiddori a gwleidyddiaeth.

Ond a yw'r iaith ac annibyniaeth yn ystyriaeth eilradd pan mae'n dod i ddewis rhwng bywyd a marw? Mae'n iawn i fod yn barod aberthu dy hun i'r achos. Os wyt yn fodlon aberthu bywydau pobl eraill, mae rhywbeth yn bod ar dy foesau.

A yw'r iaith yn brif ystyriaeth etholiadol? Nac ydi. Nifer fach o bobl sydd a diddordeb pan mae plaid yn nodi diwylliant fel blaenoriaeth, fel y mae blogMenai wedi esbonio yn fanwl iawn.

Dyma'r unig ffyrdd y gellir ystyried yr iaith ac annibyniaeth yn eilradd i'r Blaid. Pam fyddai'r Blaid yn gwario cymaint o amser yn cynllunio ar gufer Cymru annibynol os nad yw'n flaenoriaeth? Yn y cyfamser, rhaid diogelu bydd y Cymry, a rhaid ennill etholiadau!

Y olaf, os wyt am alw ar ystadegau etholiadol Llais Gwynedd, cofia mae dim ond 20% o Gwynedd a 9% o Arfon oedd wedi pleidleisio dros y blaid yma. Mae cymunedau gwledig angen newid os ydym am eu cynnal. Nid yw newid yn boblogaidd byth, sydd yn esbonio Llais Gwynedd. Ond heb geisio newid, sut mae'n bosib mynd at etholwyr eraill a brolio'r Blaid fel un i Gymru gyfan, nnid yn unig i amddiffyn cymunedau gwledig?

Dyna'r gwir Alwyn. Mae Plaid Cymru yn blaid i Gymru gyfan, mae dy genedlaetholdeb di yn apelio i genedlaetholwyr a chymunedau gwledig yn unig.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-34523993474063357972008-12-28T10:18:00.000+00:002008-12-28T10:18:00.000+00:00Gwraidd y ddadl ydi faint y dylai unrhyw blaid gyf...Gwraidd y ddadl ydi faint y dylai unrhyw blaid gyfaddawdu ar ei hegwyddorion er mwyn ennill pleidleisiau. Efallai bod yn rhaid i Blaid Cymru "doddi" rhywfaint ar ei chenedlaetholdeb i ennill pleidleisiau newydd, a thrwy wneud hynny colli hen bleidleisiau mwy traddodiadol.

Symleiddio ydi galw rhywun yn "snob ideolegol" oherwydd eu bod wedi'u dieithrio gan blaid, neu fod ganddynt bryderon go iawn am gyfeiriad cenedlaetholdeb yng Nghymru. Ond dydi'r rhain ddim yn bryderon y mae PC yn fodlon eu cydnabod, heb sôn am ddim arall.

Ar y llaw arall mae 'na ddigon o "snobs pleidiol" - y rhai sy'n rhoi'r blaid o flaen ei hegwyddorion a syniadau creiddiol, neu bobl a fydd yn pleidleisio drosti waeth cymaint y mae'r blaid yn cefnu ei ar phwrpas. Yr un fath â bob plaid arall, dydi Plaid Cymru ddim yn brin o'r rhain, yn amlwg.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-44192990443443564812008-12-28T02:53:00.000+00:002008-12-28T02:53:00.000+00:00Rwyt hefyd yn son am gymunedau Cymru - a dwi'n cre...Rwyt hefyd yn son am gymunedau Cymru - a dwi'n credu dy fod yn cyfeirio at gymunedau gwledig, o'r math y mae Llais Gwynedd yn amddiffyn.

Rhydian, nid ydwyf yn byw yng Ngwynedd! Pe bawn am son am gymunedau gwledig Gwynedd yn unig fuaswn wedi dethol y geiriau gwledig a Gwynedd cyn danfon fy ymateb!Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-47400069579483650032008-12-28T02:38:00.000+00:002008-12-28T02:38:00.000+00:00Ymateb disgwyliedig Cai. Yr wyt bellach wedi posti...Ymateb disgwyliedig Cai. Yr wyt bellach wedi postio tair erthygl fel ymateb imi ofyn y cwestiwn "Be di Pwrpas Plaid Cymru?" Ond heb gynnig ateb i'r cwestiwn. Dim ond wedi taflu baw, gwneud ensyniadau am fy nidwylledd dros yr Achos Cenedlaethol, ac wedi gwneud sylwadau enllibus amdanaf.

Os oes snob yng ngwleidyddiaeth Cymru tydi ydyw. Yr wyt yn un sydd yn edrych lawr dy drwyn ar unrhyw un sydd yn beiddio dweud gair o feirniadaeth yn erbyn dy annwyl blaid, ac un sydd yn trin y rhai sydd yn gweld ffaeleddau yn dy Blaid "berffaith" fel petaent yn faw isa'r domen.

Os mae dim ond fi oedd yn gwneud y cwyno bydda dy ymateb yn un digon teg. Ond pan fo 13 o wardiau yng nghadarnle y Blaid yn dewis ymwrthod a hi - gan gynnwys rhai lle'r oedd hyd at 70% yn arfer pleidleisio i Blaid Cymru mae'r ysgrifen ar y mur. Pan fo son bod hyd at ddeg o gynghorwyr y Blaid ar Gyngor Gwynedd yn ystyried ymadael a grŵp y Blaid, mae'n hen bryd ddarllen yr ysgrifen honno!

Yr wyt yn fy nghyhuddo o ddweud celwydd am dy blaid, heb nodi pa gelwydd honedig yr ydwyf wedi eu dweud. Y ffaith yw bod pob beirniadaeth yr wyf wedi ei wneud am y Blaid yn eirwir.

Oes! Mae yna rywrai sydd yn dweud bod yr iaith ac annibyniaeth yn eilradd. TI er enghraifft - darllena dy blydi bost dy hun, uchod - mae o yna mewn du a gwyn!

Y peth fwyaf idiotaidd yr wyt yn ei ddweud yw dy fod di wedi bod yn "effeithiol" wrth amddiffyn y Gymraeg tra fy mod i wedi bod yn aneffeithiol. Rwy'n ysu gweld unrhyw brawf teg i gefnogi'r sylw, snoblyd ar y diawl, yma!Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-18902929760464680042008-12-28T01:41:00.000+00:002008-12-28T01:41:00.000+00:00O diar, Alwyn yn dweud celwydd eto fyth.Does yna n...O diar, Alwyn yn dweud celwydd eto fyth.

Does yna neb yn dweud mai pethau eilradd ydi annibyniaeth ac amddiffyn yr iaith - dyna pam mae'r rhan fwyaf ohonom yn y blydi gem.

Dyna ydi'r peth pwysicaf siwr Dduw - ond dydi o ddim yn naratif etholiadol sy'n ennill llawer o bleidleisiau na grym.

Dyna pam 'dwi'n ffaeliedig ond yn effeithiol o ran amddiffyn y Gymraeg a hyrwyddo agenda cenedlaetholgar, a dyna pam ti mor berffaith ond aneffeithiol.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-77348579573647275192008-12-27T22:57:00.000+00:002008-12-27T22:57:00.000+00:00Alwyn, ti yn camddeall yma. Does neb yma yn gwadu ...Alwyn, ti yn camddeall yma. Does neb yma yn gwadu fod iaith, hunan lywodraeth a diwylliant yn bwysig i'r Blaid gyfoes. Y pwynt ydi mai i NI yn y garfan genedlaetholgar y maa'r rhain yn flaenoriaethau. Faint o bob felly sydd yna? Sut wyt ti yn meddwl y byddem yn gallu ennill annibyniaeth gyda neges wleidyddol sydd yn eilraddol neu amhwysig i 90% o bobl Cymru?

Rwyt hefyd yn son am gymunedau Cymru - a dwi'n credu dy fod yn cyfeirio at gymunedau gwledig, o'r math y mae Llais Gwynedd yn amddiffyn. Mae hyn braidd yn gyfyngedig tydi? - mae'r rhan fwyaf o Gymry yn byw mewn tref neu dinas. Cymuned yw nifer o bobl yn cydfyw a'n cydweithio. Lle mae cymuned wedi ei ddiffinio fel pentref gwledig yn Nwyfor-Meirionnydd?

Oes, rhaid bod yn deg i bentrefi gwledig - ond ni fedrir llunio dyfodol Cymru lwyddianus heb feddwl am newidiadau. Mae hyn yn golygu newidiadau i ardaloedd gwledig, nid newid y dinasoedd yn unig. Os oes newidiadau i foderneiddio Cymru, a fydd pobl Caerdydd neu'r Rhondda yn hapus os ydi cymunedau'r Gogledd yn cael eu atal o'r newid gan fod y Blaid a'i wreiddiau yno?

Ti sydd yn bod yn naîf, Alwyn. Mae'r egwyddorion sylfaenol yn ddi-newid - ond rhaid i ni gyfaddawdu a bod yn barod i drafod y manylion. Os wyt ti yn mynnu dy genedlaetholgarwch pûr, fydd yna ddim annibyniaeth Alwyn. Efallai y byddai'r methiant etholiadol yn achos ysblenydd a'n ennill gogoniant am ganrifoedd, ond methiant a fyddai er hynny.Anonymousnoreply@blogger.com