Sunday, October 06, 2024

Rhybudd o gynnig gen i - Gaza

 Wele isod gynnig a wnes yng nghyfarfod o Gyngor Llawn Gwynedd ddydd Iau ynghyd a fy anerchiad wrth ei gyflwyno. Un cynghorydd yn unig bleidleisiodd yn erbyn y cynnig, gyda phedwar neu bump yn atal eu pleidlais. Pleidleisiodd gweddill y cynghorwyr o blaid y cynnig

A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:

 

Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.

Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.

Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.

Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.

Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.

 

O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcrain, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod  iawnderau dynol a parchu cyfraith rhyngwladol .


Diolch Madam Cadeirydd a diolch am y cyfle i wneud y cynnig pwysig ac amserol yma.

Mae geiriad y cynnig yn cyfeirio at y marwolaethau a’r difrod sydd wedi deillio o’r cyrchoedd diweddar yn Gaza - ac mae pethau wedi symud ymlaen ers i fi lunio’r cynnig o ran nifer marwolaethau a maint y niwed ac o ran lleoliad daearyddol y distryw.  Ond dwi ddim am gyfeirio at yr erchyllderau hynny’n benodol - mae’r cynnig yn siarad trosto’i hun - ac mae’r erchylldra rydym yn ei weld yn ddyddiol ar ein sgriniau teledu’n siarad trosto’i hun hefyd.

Ond dwi am gyfeirio at ymateb pobl ar hyd a lled Gwynedd i’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y Dwyrain Canol tros y flwyddyn diwethaf.  Mae yna wylnosau rheolaidd wedi eu cynnal yng Nghaernarfon, mae yna wrthdystiadau wedi eu cynnal mewn gwahanol leoedd yn y sir - gan gynnwys gwrthdystiad hirhoedlog, arwrol gan fyfyrwyr ym Mangor.  


Felly wna i ddim ailadrodd yr hyn sydd yn y cynnig - ond dwi am gyfeirio at pam dwi’n meddwl y dylai’r Cyngor yma adolygu ei pholisiau / stratagaethau buddsoddi i flaenori buddsoddiadau moesegol - a dwi am wneud hynny yng nghyd destun Israel - ac yng nghyd destun record hir sydd gan arweinwyr y wlad honno o anwybyddu cyfraith rhyngwladol a hawliau dynol - a gwneud hynny yn fwriadus ac yn fwriadol tros gyfnod hir o amser   pan nad oes ‘na ryfel yn mynd rhagddo.  


Dwi am gyfeirio at hynny rwan yn hytrach na’r erchyllderau nosweithiol rydym oll yn dyst iddyny.


Mae’r ymddygiad hir dymor yma yn cynnwys:


- Camdriniaeth cyson a hirhoedlog o Balistiniaid - gor ddefnydd o rym, llofruddiaethau di gyfiawnhad ac amddifadu pobl o’r hawl i ymgynull a symud yn rhydd.  


- Yr arfer o ymestyn presenoldeb Israelaidd ar lan Gorllewinol yr Iorddonen yn groes i 4ydd Confensiwn Geneva - Confensiwn sy’n gwahardd pwerau meddiannol rhag symud ei phoblogaeth ei hun i diroedd maent wedi eu meddiannu.   


 Cosbi Torfol.  Hyd yn oed cyn y cyrch presenol roedd blockade Gaza yn amddifadu trigolion o fynediad hawdd i fwyd, meddyginiaeth, a chyfleoedd economaidd - oedd ynddo’i hun yn creu argyfwng dyngarol. ‘Dwi ddim angen manylu ar gosbi torfol y flwyddyn diwethaf - rydych yn ei weld ar eich sgrin teledu yn nosweithiol.  


-   Gwahaniaethu yn erbyn pobl o gefndir Arabaidd oddi mewn i ffiniau Israel - gwahaniaethu o ran cynrychiolaeth ddemocrataidd, cyfleoedd economaidd a mynediad i wasanaethau.  


- Y defnydd o lysoedd milwrol i erlyn sifiliaid. Mae defnyddio system erlyn gyfochrog, filwrol yn lleihau tryloywder, lleihau hawliau sylfaenol ac yn arwain at gyfnodau hir o garcharu di ddyfarniad.  


 Cyfyngu ar hawliau i hunan fynegiant.  Mi fyddwch chi’n ymwybodol bod swyddfa Al Jazera ar y Lan Orllewinol wedi cael ei chau gan yr awdurdodau Israelaidd yn ystod y dyddiau diwethaf.   Ond mae cyfyngu ar hawliau mudiadau mewnol i feirniadu polisiau Israel tuag at Balistiniaid yn fater hirhoedlog.  


Mae’r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol rwan, ac mae’r hyn sydd wedi digwydd yn y Dwyrain Canol ers sefydlu gwladwriaeth Israel yn adlewyrchu canfyddiad bod mwy o werth - llawer mwy o werth - i fywydau pobl o rhai cefndiroedd crefyddol ac ethnig na sydd yna i bobl sydd o gefndiroedd crefyddol ac ethnig eraill - mae’r canfyddiad yma’n gwbl wrthyn. 


Dwi’n ymwybodol nad ydi’r hyn dwi newydd son amdano fo yn gyfyngedig i Israel ac mi fyddai pasio’r cynnig yma yn sicrhau bod y Cyngor yma yn edrych ar ei pholisiau er mwyn blaenori buddsoddiad moesegol yn gyffredinol - nid yn Israel yn unig. 


Ond dwi’n cyfeirio at Israel yn benodol am ddau reswm - yn gyntaf oherwydd bod yr amgylchiadau erchyll sydd ohonynt wedi bod yn  flwyddyn gron bellach - ac mae nhw yn lledaenu ymhellach o ddiwrnod i ddiwrnod.


Ond yn ail oherwydd bod perthynas y Gorllewin yn llawer agosach at Israel nag yw at wledydd eraill sydd efo record wael parthed parchu cyfraith rhyngwladol a hawliau dynol.  Mae economi Israel wedi intigreoddio i system gyfalafol y Gorllewin - ac o ganlyniad mae yna risg uwch bod buddsoddiadau o’r Cyngor yma yn gwneud eu ffordd i Israel.   

Felly dwi’n gofyn i chi gefnogi’r cynnig yma.  O wneud hynny byddem yn mynegi ein gwrthwynebiad i’r hyn sy’n Digwydd yn y Dwyrain Canol heddiw, i’r hyn sydd wedi digwydd yn y Dwyrain Canol tros y degawdau, a byddwn hefyd yn tanlinellu’r gred sy’n greiddiol i’n gwerthoedd Cymreig - bod gwerth - a gwerth cyfartal - gwerth cyfwerth -  i pob bywyd dynol - i bob enaod dynol - a bod y gwerth hwnnw yn annibynnol o gefndir crefyddol a chefndir ethnig.  

Monday, July 22, 2024

Perfformiad (gwych) y Toriaid yng Nghymru

 Reit - y Toriaid -  mae’n debyg ei bod yn deg dweud nad oedd hi’n etholiad arbennig o wych iddyn nhw yng Nghymru na thu hwnt. Roedd 2019 yn flwyddyn pan dorrodd y Toriaid nifer o recordiau etholiadol yng Nghymru, ond torrwyd mwy eleni. 


Llwyddodd y Toriaid i beidio ennill sedd o gwbl yng Nghymru ddydd Iau - rhywbeth maent wedi ei wneud ddwy waith o’r blaen - yn 1997 a 2001.  Ond mi wnaethon nhw’n waeth na hynny mewn rhai ffyrdd y tro hwn.  18.2% o’r bleidlais gafodd y Toriaid yn 2024 - y canrannau cyfatebol yn 1997 a 2001 oedd 19.6% a 21%. Dydi’r gwahaniaeth ddim yn anferthol ond ystyrier hyn - mewn 11 o’r 32 sedd oedd y Toriaid yn ail - sef 34%.  Yn 1997 roeddynt yn ail mewn 25 o’r 40 sedd - sef 63% o’r seddi - er mae’n rhaid cydnabod mai ail pell iawn oeddan nhw mewn aml i achos. 


Roedd gan y Toriaid 14 o seddi yn 2019 - mwy nag oeddynt erioed wedi eu hennill o’r blaen -  yn mynd i mewn i’r etholiad a chollwyd y cwbl.  ‘Does yna ddim un plaid wedi llwyddo i golli cymaint o seddi mewn un etholiad yng Nghymru o’r blaen.  Does ‘na ddim un plaid wedi colli tros i 300,000 o bleidleisiau yng Nghymru o’r blaen chwaith, ond llwyddodd y Toriaid i wneud hynny eleni. Does yna ddim un plaid yng Nghymru wedi gweld eu canran o’r bleidlais yn cwympo bron i 18% o’r blaen, ond dyna ddigwyddodd i bleidlais y Toriaid Cymreig eleni.  Cymrodd sawl etholiad i’r Rhyddfrydwyr chwythu pob dim yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.  





Mae’n debyg felly y dyliwn longyfarch Andrew RT Davies a’i gyfrif trydar lliwgar am arwain ei blaid i dir newydd etholiadol sbon. 


A ‘dydi pethau ddim yn edrych yn rhy wych ar gyfer y dyfodol chwaith.  Mae Reform o’u blaenau nhw mewn mwy o seddi na mae nhw o flaen Reform (17 i 14). Felly pan mae’n dod i etholiad 2029 mae’n fwy na phosibl y bydd gwasgfa bellach ar eu pleidlais - gyda phleidleiswyr Asgell Dde a bleidleisiodd trostynt y tro hwn yn cael eu temptio i bleidleisio i Reform. 

Sunday, July 14, 2024

Perfformiad Llafur yng Nghymru

 Mi edrychwn ni ar Lafur y tro hwn. 


Mae Llafur wedi gwneud yn dda iawn yng Nghymru o ran ennill seddau - gan sicrhau 27 o’r 32 sedd - sef  84% ohonynt gyda dim ond 37% o’r bleidlais.  Mae Llafur wedi gwneud yn well na hynny hyd yn oed yn y gorffennol - yn 2001 ac 1997 er enghraifft - ond gyda chanran llawer, llawer uwch bleidlais.





Er gwaetha’r llwyddiant y tro hwn mae yna resymau da pam y dylai Llafur fod yn bryderus wrth edrych ymlaen i’r dyfodol canolig - gydag 487,636 o bleidleisiau dyma’r tro cyntaf iddynt gael llai na hanner miliwn o bleidleisiau ers - credwch o neu beidio - 1935.  Ond dydan ni ddim yn gorfod edrych mor bell yn ol i ddod o hyd i ganran is na 37% eleni - 36.9% gafodd y blaid yn 2015.  Ond roedd y ganran o’r bleidlais 4% yn is nag oedd yn 2019 a 12% in is nag oedd yn 2017 - sydd yn newid sylweddol.  Mae peryglon sylweddol i Lafur yn y ffigyrau hyn. 


‘Dwi ddim eisiau trafod systemau ethol cynrychiolwyr etholedig yma, ond efallai ei bod werth nodi bod y drefn sydd gennym yn fwy caredig o lawer wrth rhai pleidiau nag eraill - gweler isod.





Mae yna ddwy ffordd o wneud yn gymharol dda o’r drefn ethol Cyntaf i’r Felin sydd gennym. Y ffordd Plaid Cymru neu Sinn Fein, sef cael pleidlais sylweddol mewn rhai etholaethau penodol (rhai mewn ardaloedd Cymraeg yn achos Plaid Cymru a rhai mewn ardaloedd Pabyddol yn achos Sinn Fein) neu gael pleidlais gymhedrol ond sydd yn sylweddol uwch nag un neb arall ar hyd a lled  yr wlad - fel mae Llafur yn ei wneud. Y dull Llafur ydi’r dull mwyaf effeithiol - mae’n ildio mwy o seddi, ond mae hefyd yn fwy bregys. Gall gogwydd cryf yn erbyn plaid sydd a phleidlais gyson ond cymhedrol arwain at golli llawer iawn o seddi - sef yr hyn ddigwyddodd i’r SNP a’r Toriaid y tro hwn.  


A daw hyn a ni at yr etholiad cyffredinol nesaf - fydd yn ol pob tebyg yn cael ei gynnal yn 2029.  Mae’r hyn mae’r Blaid Lafur wedi ei etifeddu gan y Toriaid yn eu gadael mewn sefyllfa anodd. Mae yna pob math o heriau yn eu hwynebu - y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu hachosi gan Brexit neu o leiaf yn cael eu gwneud yn waeth gan Brexit. 


Mae Llafur wedi mabwysiadu polisi Brexit tebyg iawn i un yr ERG - peidio ail ymuno efo’r Farchnad Sengl na’r Undeb Tollau ond crefu am ffafrau arbennig gan yr UE - rhywbeth sy’n anhebygol iawn o ddigwydd. Yn ol pob tebyg fydd pethau fawr gwell o ran darparu gwasanaethau sylfaenol mewn pum mlynedd, a gallai hynny yn hawdd arwain at ogwydd chwyrn yn erbyn Llafur bryd hynny - a byddai hynny yn ei dro yn arwain at fap gwleidyddol tra gwahanol i’r un sydd ar gael i ni heddiw. 


Ac wrth gwrs mae yna etholiadau’r Senedd yn 2026.  Mae’r system bleidleisio gyfrannol fydd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad hwnnw yn debygol o arbed Llafur rhag colli nifer fawr o seddi - ond mae lle i gredu y gallai’r blaid gael etholiad anodd iawn - o bosibl yr un mwyaf anodd yn ei hanes. 


Yn hanesyddol mae Llafur wedi tan berfformio yn sylweddol mewn etholiadau Cymreig pan mae mewn grym yn San Steffan, ond mae posibilrwydd y bydd y tan berfformiad yn waeth nag arfer yn 2026 - roedd amgylchiadau economaidd yn llawer gwell y tro diwethaf roedd Llafur mewn grym yn Dan Dteffan na maent rwan. Ar ben hynny - fel rydym wedi son - roedd canran y bleidlais yn wan yn yr etholiad sydd newydd ei chynnal, dydi’r polio Senedd Cymru diweddaraf ddim yn edrych yn dda i Lafur, ac mae gan y Blaid Lafur Gymreig broblemau mewnol sylweddol ac anodd iawn i’w datrys.


Mae posibilrwydd go iawn nad Llafur fydd y blaid fwyaf yng Nghymru yn dilyn etholiad 2026.

Tuesday, July 09, 2024

Etholiad 2024 - Rhif 1 - Plaid Cymru

 Wele ychydig o argraffiadau cychwynnol o etholiad ddydd Iau ydi’r un rhyfeddaf i ddigwydd yn ystod fy mywyd i – a byddaf yn blogio tros yr wythnosau nesaf ar y thema.  Mi wna i ddechrau efo fy mhlaid fy hun – Plaid Cymru.

 

Yr 14.8% a gafodd y Blaid oedd y ganran uchaf iddi erioed mewn etholiad cyffredinol.  Fydd na ddim llawer yn cofio’r record a dorrwyd - ond 14.3% yn 2001 o dan arweinyddiaeth Ieuan Wyn oedd hwnnw.  Serch hynny roedd y nifer o bleidleisiau gafodd y Blaid yn 2024  mymryn yn is nag oedd yn 2001 - 194,812 .  Cynyddodd canran ei phleidlais ym mhob etholaeth (aeth canran y Torïaid i lawr ym mhob etholaeth ac aeth canran Llafur i lawr ym mhob etholaeth ag eithrio tair)



 

Mae un gwahaniaeth mawr rhwng 2001 a 2024 - roedd canlyniadau 2001 yn dod yn fuan ar ôl etholiad Cynulliad syfrdanol 1999 – etholiad a welodd dwf syfrdanol yng nghefnogaeth y Blaid . Mae canlyniadau 2024 yn dod ar derfyn cyfnod sydd wedi bod yn ddigon anodd i’r Blaid.

 

Am y rhan fwyaf o fy mywyd i y Cymoedd oedd y llefydd gorau yng Nghymru i weld  mwyafrifoedd anferth - ac roedd rheiny yn ddi eithriad yn fwyafrifoedd Llafur. Mae hynny wedi  newid yn ddiweddar.  Efallai mai un ffordd o ddangos hyn ydi trwy gael cip yn ôl ar yr etholiad cyntaf i fi erioed bleidleisio ynddi hi - etholiad Chwefror 1979.  Dyma’r etholiad ddaeth a Thatcher i rym ac roedd hi’n drychineb i Lafur ar draws y DU - ond ddim yng Nghymru. Cafodd Llafur bron i hanner y bleidlais yma (48.6%) o gymharu a 36.9% dros y DU gan ennill 22 o’r 36 sedd.  Roedd y mwyafrifoedd yn y rhan fwyaf o’r etholaethau maes glo yn enfawr. Y tro hwn 37% o’r bleidlais gafodd Llafur (gostyngiad o 3.9% o gymharu a 2019), ac mae golwg digon bregus ar y mwyafrifoedd yn y rhan helaethaf o’r Cymoedd. 




 

Mae ‘na batrwm wedi bod yn datblygu ers rhai blynyddoedd bellach bod Plaid Cymru yn dod i ddominyddu gwleidyddiaeth Gorllewin yr wlad fwyfwy - ar lefel Senedd Cymru, llywodraeth leol a San Steffan. Mae’r hyn ddigwyddodd ddydd Iau yn barhad o’r tuedd hwnnw.  

 

Mewn pedair sedd Gymreig yn unig cafodd un blaid bleidlais o fwy na 20,000 eleni - Gogledd Caerdydd a Gwyr  i Lafur a Cheredigion / Gogledd Penfro a Dwyfor Meirionnydd i Blaid Cymru - ond roedd mwyafrifoedd Liz a Ben yn sylweddol uwch na mwyafrifoedd Anna McMorrin a Tonia Antoniazzi. Y ddwy etholaeth orllewinol yma ydi’r pethau mwyaf tebyg i Gymoedd y De’r 70au erbyn hyn - ond efo plaid arall yn dominyddu. 

 

Mae yna un neu ddau o bethau bach daearyddol i adrodd arnyn nhw hefyd. Dydi hi ddim yn bosibl teithio a arfordir gogleddol i arfordir deheuol Cymru heb adael etholaethau sy’n cael eu cynrychioli gan Blaid Cymru oherwydd bod y ddwy bont tros y Fenai yn croesi i Bangor Aberconwy.  Ond mi fedrwch chi deithio o un arfordir i’r llall heb a dim ond gadael etholaethau sy’n cael eu cynrychioli gan y Blaid am tua dwy filltir.  Mae tros i draean o arwynebedd Cymru bellach yn cael ei gynrychioli gan aelodau Plaid Cymru yn San Steffan – gan gynnwys llefydd sydd erioed wedi cael eu cynrychioli o’r blaen a wardiau sy’n eitha’ agos at y ffin efo Lloegr.

 

Mae hi’n wir wrth gwrs bod y Torïaid a Reform wedi cael mwy o bleidleisiau na’r Blaid, er na lwyddodd y naill blaid asgell dde na’r llall i ennill unrhyw seddi yng Nghymru – ond mae gan y Blaid le i fod yn obeithiol wrth edrych ymlaen at yr etholiadau sydd i ddod yn ystod y blynyddoedd nesa’.  Mae’r Blaid yn ddi eithriad yn gwneud yn well mewn etholiadau Senedd Cymru na mewn etholiadau San Steffan, a dyna fydd y ddau set nesa’ o etholiadau.  Ar ben hynny mae nifer o agoriadau wedi ymddangos ar gyfer 2029 – rhai ohonyn nhw ymhell o’r Gorllewin.  Mae yna ddigon o le i fod yn obeithiol wrth edrych ymlaen i’r dyfodol canolig.

Monday, May 27, 2024

Etholiad 2024 a’r marchnadoedd betio

 Mae’n debyg y bydd rhaid i mi sôn rhyw ychydig am yr etholiad cyffredinol annisgwyl braidd sydd ar y ffordd - felly dyma gychwyn trwy edrych ar y marchnadoedd betio, a’r hyn maent yn dweud wrthym am yr hyn sy’n debygol o ddogwydd mewn etholaethau unigol.  

 

Cyn mynd ati i wneud hynny efallai ei bod werth dweud pwt am farchnadoedd betio, a pham eu bod yn ffordd eithaf da - ond ddim perffaith o bell ffordd - o ddarogan beth sydd am ddigwydd mewn etholiadau.  

 

Y peth cyntaf i’w ddweud mae’n debyg ydi bod marchnadoedd betio yn wrthrychol i’r graddau eu bod yn cael eu gyrru gan bres - maent yn adlewyrchu sut mae niferoedd eithaf mawr o bobl wedi betio, ac mae betio’n golygu gollwng gafael ar bres - a ‘dydi’r rhan fwyaf o bobl ddim yn gwneud hynny ar chwarae bach.  

 

Y ffordd arall o geisio darogan etholiadau ydi polau piniwn wrth gwrs. Mae’r rheiny yn gweithio mewn ffordd hollol wahanol i farchnadoedd betio  - maent yn gweithio trwy samplu setiau cynrychioladol o’r boblogaeth pleidleisio - ac erbyn hyn mae nhw’n gweithio’n eitha’ da - er bod yr amrediad rhwng gwahanol bolau yn gallu bod yn eang yn aml – rhywbeth sydd yn adlewyrchu methodoleg gwahanol yr amrywiol gwmnïau polio.

 

Mae’n debyg bod marchnadoedd betio yn llai ‘gwyddonol’ ar un olwg, ond mae ystyriaethau ehangach yn eu gyrru hefyd - yr amrywiol bolau piniwn wrth gwrs - ond hefyd ystyriaethau eraill megis gwybodaeth leol, canfyddiadau cyfryngol, argraffiadau o wefannau cymdeithasol, straeon anecdotaidd ac weithiau data sydd ym meddiant pleidiau gwleidyddol a pholio preifat. 

 

Mae’n anodd gwybod os mai marchnadoedd betio ‘ta polau ydi’r ffordd orau o ddarogan canlyniadau etholiad, ond mae gan y trywydd marchnadoedd betio un fantais - anaml y bydd polau ar gael ar gyfer etholaethau unigol - ond mae marchnadoedd betio ar gael ar gyfer etholaethau unigol, ac mae nhw eisoes wedi dechrau agor - gan gynnwys rhai Cymreig.  

 

Felly beth mae’r marchnadoedd Cymreig sydd wedi ymddangos yn dweud wrthym? Mi wnawn ni ddechrau efo tair etholaeth lle mae’r canlyniad tebygol yn eithaf clir - Dwyfor Meirionnydd, Aberafan / Maesteg a Phontypridd. Mae’r marchnadoedd betio yn adlewyrchu’r realiti hwnnw.   

 

Aberafan / Maesteg yn gyntaf.  Mae’r farchnad yma yn rhoi odds o 1/500 i Lafur - sydd yn cyfieithu i debygolrwydd sy’n agos i 100% mai Llafur fydd yn ennill yma.  




 

Mae marchnad Pontypridd yn rhoi odds o 1/150 i ni - sydd eto yn rhoi tebygolrwydd sydd yn agos at 100% mai Llafur fydd yn ennill.  




 

O symud i’r Gogledd Orllewin a’r ecosystem etholiadol wahanol sy’n bodoli yno, mae’r farchnad betio yn Nwyfor Meirionnydd yn rhoi odds o 1/100 mai Plaid Cymru fydd yn ennill yno.  Mae hyn yn cyfieithu i debygolrwydd o 99% mai Plaid Cymru fydd yn ennill yma.  Tra nad ydi hi byth yn bosibl bod yn hollol siŵr beth fydd canlyniad etholiad, mae’r hyn mae’r hyn mae’r marchnadoedd betio yn awgrymu am y dair etholaeth uchod yn rhesymol.




 

Beth am etholaethau Cymreig mwy ymylol felly? Wel, dim ond llond dwrn o farchnadoedd am etholaethau Cymreig sydd yn agored ar hyn o bryd, ond mae  rhai digon diddorol ar gael.  

 

Dyma’r farchnad ar gyfer Ynys Mon er enghraifft.  Mae’r odds o 4/5 yn awgrymu bod tebygolrwydd o tua 56% mai Plaid Cymru fydd yn ennill.  Yn bersonol ‘dwi’n meddwl bod y tebygolrwydd yn uwch na hynny - tua 66% o bosibl.  Ond ‘dydi canfyddiad y farchnad ddim yn un afresymol.   



 

Ceredigion / Gogledd Penfro nesaf.  Mae’r odds o 1/4 yn awgrymu bod y tebygolrwydd mai Plaid Cymru fydd yn ennill yma yn dod i tua 80%.  ‘Dwi’n meddwl bod hyn yn ganfyddiad hollol resymol.  



 

Yr hyn sy’n fwy diddorol o bosibl ydi’r odds o 125/1 sy’n cael eu cynnig i’ch perswadio i roi bet mai’r Lib Dems fydd yn ennill - sy’n cyfieithu i debygolrwydd sy’n is nag 1%.  Ag ystyried bod y blaid yma wedi dominyddu gwleidyddiaeth yng Ngheredigion am y rhan fwyaf o’r ganrif ddiwethaf, ac wedi dal y sedd mor ddiweddar a 2015 - ac wedi ei hennill gyda 19,000 o bleidleisiau yn 2010, mae hyn yn rhyfeddol - ac mae’n dangos mor gyflym mae tirwedd etholiadol yn gallu newid yn lleol.  

 

Ac yn olaf Bangor / Aberconwy.  Mae’r odds o 1/7 yn awgrymu bod y tebygolrwydd o fuddugoliaeth i Lafur o gwmpas 87% - sydd yn uchel. Ond yr hyn sy’n fwy diddorol ydi odds y Toriaid a Phlaid Cymru. Mae nhw’n awgrymu bod y tebygolrwydd y bydd y Toriaid yn ennill o gwmpas 14% tra bod tebygolrwydd y Blaid o ennill  tua 9%.  


Ag ystyried y byddai’r Toriaid wedi ennill y sedd yn eithaf hawdd petai’n bodoli yn 2019, ac mai trydydd fyddai’r Blaid mae agosatrwydd y ddwy blaid o ran tebygolrwydd yn drawiadol - ac yn awgrymu bod ymgyrch y Blaid yn yr etholaeth yma yn mynd yn dda.  Bydd yn ddiddorol gweld sut mae’r ffigyrau yn symud tros yr wythnosau nesaf - ac ar ben hynny mae unrhyw un sy’n betio yn gwybod bod ceffyl sydd ag odds o 10/1 yn dod yn gyntaf weithiau.  Ac wedyn mae yna Electoral Calculus hefyd.




 

Byddaf yn dod yn ôl at y mater yma unwaith neu ddwy tros yr wythnosau nesa’.