Sunday, March 17, 2024

Ynglyn ag Arweinydd Newydd Llafur

 A dyma ni eto - etholiad am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru gyda’r enillydd yn cynrychioli etholaeth yng Nghaerdydd neu o leiaf un cyn agosed at Gaerdydd  a phosibl. Mae’n rhaid mynd yn ol i 1998 i ddod ar draws eithriad i’r rheol yma pan gafodd Rhodri Morgan (Gorll Caerdydd) ei guro gan Ron Davies (Caerffili). 

Mae penderfyniad Llafur i ddewis Vaughan Gethin yn arweinydd yn gamgymeriad eithaf mawr gan Lafur ac mi eglura i pam.





Ond cyn mynd ati i wneud hynny mae’n deg nodi arwyddocâd ethol arweinydd croenddu i arwain plaid wleidyddol Gymreig, ac yn wir i arwain Cymru.  Mae rhwystrau sydd yn ei gwneud yn anodd i bobl o leiafrifoedd ethnig gymryd rhan llawn yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac mae unrhyw beth sy’n cyfrannu at leihau’r rhwystrau hynny yn rhywbeth cadarnhaol. 


Ond mae hefyd yn deg dweud bod Llafur wedi gwneud dewis sydd ag elfen gref o risg yn perthyn iddi - ac mae’n bosibl y bydd goblygiadau eitha’ pell gyrhaeddol i’r dewis.  


Efallai mai’r lle i ddechrau ar hon ydi ymhell, bell yn ôl yn 1998 / 1999 pan roedd Llafur yn dewis arweinydd i ymladd etholiad cyntaf y Cynulliad (fel adwaenid y sefydliad bryd hynny) - a phan gollodd Rhodri Morgan etholiad adweinyddol ddwywaith.  


Roedd y ddau etholiad yn gystadlaethau rhwng y sefydliad Llafuraidd a’r - wel - adain llai sefydliadol.  Roedd yna hefyd elfen De / Chwith yn yr etholiad Alun Michael / Rhodri Morgan. Yn y ddau achos pleidleisiodd yr aelodaeth tros Rhodri Morgan, ond sicrhaodd pleidlais bloc yr undebau yr enwebiaeth i Ron Davies ac Alun Michael.


Ac wedyn daeth Etholiad Cynulliad 1999.  Ddwy flynedd ynghynt roedd Llafur wedi cael bron i 900k o bleidleisiau a bron i 55% o’r bleidlais yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol 1997.  Cafodd Llafur 384k o bleidleisiau a 37.6% o’r bleidlais yn 1999 ar y bleidlais uniongyrchol a chryn dipyn yn llai na hynny ar y bleidlais ranbarthol.  

 

Dau etholiad o fath gwahanol a gwahanol rymoedd gwleidyddol ar waith - ond go brin bod unrhyw un yn amau bod y canfyddiad bod yr etholiadau arweinyddol wedi eu cynnal mewn ffordd amhriodol ac annheg wedi bod yn un o’r ffactorau a arweiniodd at rhywbeth oedd yn ymylu ar fod yn drychineb etholiadol i Lafur.  


A daw hyn a ni at etholiad arweinyddol diweddaraf y Blaid Lafur yn Nghymru.  Mae yna adlais gref o’r hyn ddigwyddodd yn 98/99 yma.  


‘Dydi Llafur ddim yn fodlon rhyddhau manylion y bleidlais, ond mae fwy neu lai yn sicr i Jeremy Miles gael mwy o bleidleisiau aelodau cyffredin na Vaughan Gething.  

‘Does yna ddim pleidlais bloc gan yr undebau erbyn hyn, ond mae aelodau undebau efo hawl i bleidleisio - mae mwy o lawer o aelodau undeb na sydd o aelodau o’r Blaid Lafur ac mae undebau yn gallu helpu un ochr neu’r llall trwy wahaniaethu o ran y mynediad i fanylion cyswllt aelodau, cyfeirio aelodau at ohebiaeth etholiadol un ochr yn unig a chreu rheolau sy’n fanteisiol i un ymgeisydd, ond ddim i’r llall.


Mae yna awgrymiadau lu bod hyn oll wedi digwydd y tro hwn - a hynny er budd Vaughan Gething.  


Ac mae yna fwy y tro hwn wrth gwrs - gan gynnwys y rhodd enfawr o £200k o ffynhonnell amheus a dweud y lleiaf i ymgyrch Vaughan Gething - y rhodd gwleidyddol mwyaf o ddigon yn hanes gwleidyddiaeth Cymru yn ôl pob tebyg.  Ag ystyried mor agos oedd pethau mae’n debygol iawn bod y rhodd hwnnw ynddo’i hun wedi gwneud y gwahaniaeth - a llawer mwy na’r gwahaniaeth.  

 

Nid dyma’r tro cyntaf i Vaughan Gething fod yn destun honiadau o ymddygiad annheg mewn etholiad gyda llaw.  

 

Petai natur amheus yr etholiad arweinyddol a’r amheuon am roddion ariannol fyddai unig wendidau Vaughan Gething efallai y byddai modd rheoli’r niwed - ond mae ganddo wendidau ehangach, a nifer ohonyn nhw ar hynny.  


Er enghraifft Vaughan Gething oedd yn gyfrifol am iechyd yn ystod dwy don gyntaf covid cyn cael ei symud i fod yn gyfrifol am yr economi. Mae’n anodd iawn credu na fydd beirniadaeth ohono - pan fydd canfyddiadau’r ymchwiliad i ymateb llywodraethau’r DU i’r epidemig yn cael ei gyhoeddi. Rydym eisoes yn gwybod iddo waredu ei holl negeseuon WhatsApp o’r cyfnod.  Rydym hefyd yn gwybod bod teuluoedd llawer o’r rhai a gollwyd yn ystod y cyfnod hwnnw yn feirniadol iawn ohono.


Mae hefyd wedi bod yn eistedd yn y Cabinet ers 2016 - bron i wyth blynedd bellach, ac wedi bod a swyddi pwysig iawn ar y Cabinet hwnnw. 


‘Dydi Llafur ddim wedi llwyddo i fynd i’r afael a nifer o’r problemau mawr sy’n wynebu Cymru yn ystod y cyfnod - tlodi plant, anhrefn yn y Gwasanaeth Iechyd, diffyg twf economaidd dybryd ac ati.  Os rhywbeth wedi symud yn ôl ac nid ymlaen ydym ni.  Mae Vaughan Gething wedi ei gysylltu efo record go hir o fethiant llywodraethol.  


Mae’n bosibl fy mod yn anghywir wrth gwrs ac y bydd yn llwyddo i oresgyn y problemau sylweddol sy’n nodweddu cychwyn ei gyfnod yn arwain ei blaid a’i wlad.  


Etholiadau Senedd Cymru 2027 fydd yn brawf ar hynny wrth gwrs - ond efallai y byddwn yn cael awgrym o sut mae pethau’n  mynd yn ddiweddarach eleni. 

 

Rydan ni wedi sôn unwaith yn barod am etholiad 1997.  Cafodd Llafur etholiad da iawn ar hyd y DU gan gael 43.2% o’r bleidlais.  Ond cafodd Llafur Cymru etholiad gwell o lawer gan gael tua 11.2% yn uwch na hynny. 

 

Mae Llafur pob amser yn gwneud yn well yng Nghymru nag yn y DU mewn etholiadau cyffredinol. 6% i 8% ydi amrediad y gwahaniaeth wedi bod ers 1997.  Os bydd y gwahaniaeth rhwng perfformiad Llafur yng Nghymru a gweddill y DU yn arwyddocaol is na 6%, bydd hynny’n awgrym bach eithaf pendant bod canlyniad gwael ar y ffordd yn Etholiad Senedd Cymru yn 2026.

No comments:

Post a Comment