Reit ta - beth sy’n debygol o ddigwydd tros yr wythnosau nesaf? Yr ateb wrth gwrs ydi nad oes yna neb yn gwybod. Ond o ran ceisio darogan y dyfodol mae yna waeth ffyrdd o fynd ati nag edrych ar beth mae’r marchnadoedd betio yn awgrymu. Dyma beth maent yn awgrymu o ran tebygolrwydd gwahanol ddigwyddiadau.
Theresa May yn ennill ei phleidlais ddydd Mawrth - 17%
Ail Refferendwm - 36%
Theresa May yn peidio a bod yn Brif Weinidog eleni - 69%
Etholiad Cyffredinol eleni - 40%
Ac mi arhoswn ni efo’r olaf. Petai yna etholiad yn y dyfodol agos, beth fyddai’n digwydd? Ond mae’n bosibl edrych ar y sefyllfa gyfredol, etholiad 2017 a bwrw amcan ar sail hynny.
Y peth cyntaf i’w ddweud ydi ei bod yn rhyfeddol - ag ystyried pob dim sydd wedi digwydd ers Etholiad Cyffredinol 2017 - pa mor debyg ydi’r polau rwan i ganlynad yr etholiad.
Er enghraifft roedd y pol Cymreig diweddaraf gan ITV Cymru fel a ganlyn.
Canlyniad Etholiad Cyffredinol oedd.
Felly y prif wahaniaeth ydi cwymp yng nghefnogaeth Llafur - ond cwymp sy’n eu gadael yn y sefyllfa gryfaf o ddigon.
A bod yn onest dwi ddim yn meddwl ei bod yn debygol y byddai Etholiad Cyffredinol yn cynhyrchu canlyniad mor debyg i un 2017. Byddai etholiad cyffredinol yn arwain at i bob dim gael ei luchio i’r awyr - a phan mae hynny’n digwydd mae’n anarferol i bob dim syrthio’n ol yn yr un lle. Gallai rhywbeth tebyg i’r hyn ddigwyddodd yn etholiad 2017 ddigwydd gyda symudiadau sylweddol mewn lefelau cefnogaeth yn ystod y cyfnod ymgyrchu.
Doedd yna ddim newidiadau mawr yn y nifer seddi yng Nghymru (na’r DU) oherwydd i gefnogaeth y ddwy blaid unoliaethol fawr symud i’r un cyfeiriad - Llafur + 12% a’r Toriaid + 6% yng Nghymru. Mae’r rhain yn symudiadau mawr iawn.
Rwan petai’r ddwy brif blaid unoliaethol yn symud i gyfeiriad gwahanol byddai yna newidiadau mawr mewn seddi seneddol. Er enghraifft petai yna ogwydd o 6% oddi wrth y Toriaid tuag at Lafur byddai yna gyflafan. Byddai eu seddi i gyd yng Nghymru ag eithrio tair yn syrthio - Trefaldwyn, Brycheiniog a Maesyfed a Mynwy.
Byddai gogwydd tebyg oddi wrth Lafur tuag at y Toriaid yn arwain gyflafan fwy. Byddai Wrecsam, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Pen y Bont, Gogledd Caerdydd, De Clwyd, Delyn, Gwyr a Dyffryn Clwyd yn syrthio. Byddai Ynys Mon a Gorllewin Casnewydd hefyd yn agos iawn.
Ond mae’n bosibl - neu’n debygol hyd yn oed - y bydd y ddwy blaid unoliaethol fawr yn ymladd yr etholiad tra’n cefnogi Brexit. Wedi’r cwbl dyna beth ddigwyddodd yn 2017. Wnaeth y pleidiau llai gwrth Brexit (Dib Lems, Gwyrddion, SNP a Phlaid Cymru) ddim llwyddo i fanteisio ar hynny yn 2017. Ond mae yna lawer iawn o ddwr wedi llifo o dan y bont ers hynny, ac mae agweddau’r ddwy ochr wedi caledu - a chwerwi.
Mae’n bosibl felly y byddai etholiad cyffredinol yn arwain at symudiad sylweddol oddi wrth y ddwy blaid unoliaethol fawr a thuag at bleidiau llai sydd yn amlwg wrth Brexit. Byddai angen symudiad gwirioneddol fawr o’r math hwn i arwain at newid mawr o ran niferoedd seddi. Ond gallai newid llai fraeanu’r tir ar gyfer yr ail strwythuro gwleidyddol mwyaf ers yr 80au cynnar - os nad ers 1918.
Ydi polisiau'r blaid ar BREXIT yn mynd i wneud drwg iddi yn Ne Cymru petai etholiad o fewn y mis neu ddau neasf - gan gynnwys Caerfyrddin ? Rhaid cael hyd i naratif Cymreig yn o sydyn er mwyn peidio mynd o dan y don o deimlad gwrth Ewropeaidd sydd i weld yn gryf o hyd yna.
ReplyDelete