Sunday, May 27, 2018

Y daith o’r UE - rhan 1



Cyn bod blogio wedi bod yn ysgafn, a chyn bod ymadawiad anhrefnus y DU o’r UE yn debygol o ddominyddu’r newyddion tros yr wythnosau nesaf, efallai y byddai’n syniad  gwirio lle’r ydan ni  trwy edrych ar sut mae pethau wedi mynd tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf - fel ‘dwi’n eu cofio nhw beth bynnag.  Mae hi’n stori o dypdra, hunan dwyll, traha a chenedlaetholdeb cul ar ei fwyaf cibddall a hurt.  Mae hi hefyd yn stori eithaf maith - felly bydd yn cael ei hadrodd mewn pedwar blogiad tros y pedwar diwrnod nesaf.  ‘Does yna neb yn darllen blogiadau maith. 


  1. Mae’r stori  yn cychwyn yn 2014 pan mae David Cameron yn penderfynu y byddai’n syniad da rhoi refferendwm ar ddyfodol y DU yn Ewrop ym maniffesto’r Toriaid ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol oedd i’w gynnal y flwyddyn ganlynol.  ‘Doedd Cameron ddim yn credu am funud y byddai’n rhaid iddo weithredu ar yr addewid annoeth yma - roedd y polau ar y pryd yn awgrymu mai Llafur fyddai’n ennill yr etholiad ac mai’r gorau un y gallai’r Toriaid obeithio amdano fyddai gallu clymbleidio unwaith eto efo beth bynnag fyddai’n weddill o’r Dib Lems druan.  Fyddai yna ddim cwestiwn o refferendwm petai’r blaid honno o fewn miliwn o filltiroedd i lywodraeth.  Ffordd o gadw ei blaid yn unedig ac i chwystrellu‘r adain Rees-Mogaidd efo benzodiazepine dro dro oedd yr holl ymarferiad.  Ail pell i anghenion y Blaid Doriaidd oedd anghenion y DU - rhywbeth sydd wedi bod yn wir am ddegawdau pan mae’r Toriaid yn ystyried materion sy’n gysylltiedg a’r UE.
  2. Y Blaid Doriaidd yn ennill etholiad 2015 ar ei phen ei hun o fwyafrif bach ond digonol i ffurfio llywodraeth - David Cameron ar ol dod tros y sioc - yn gorfod galw refferendwm y flwyddyn ganlynol ac effaith y benzodiazepine yn pylu a diflannu gyda chyflymder rhyfeddol.
  3. Y refferendwm yn cael ei alw mewn amgylchiadau anodd i’r ochr aros.  Y rhan fwyaf o’r papurau newydd poblogaidd yn orffwyll o wrth Ewropiaidd ac wedi bod yn bychanu, dilorni neu ladd ar yr UE ers degawdau - yn aml iawn ar sail ‘ffeithiau’ cwbl ddychmygol. Ychydig iawn o bapurau sydd ar gael sydd o blaid yr UE - y Guardian a’r FT sydd ddim yn cael eu darllen gan fawr neb a’r Mirror sydd prin byth yn son am yr UE.  Mae’r cannoedd o filoedd o ffoaduriaid yn ffoi o Syria hefyd yn fyw iawn yn y cof.  Roedd y bobl anffodus yma wedi gyrru’r Sun, Express a’r Mail i uchelfanau cwbl newydd o gasineb a dicter tuag at dramorwyr.
  4. Ymgyrch refferendwm anhrefnus ac hynod anymunol yn cael ei chynnal.  Yr ochr Aros yn cynnal ymgyrch hysteraidd sy’n  pwysleisio pob math o erchyllderau economaidd os mai’r ochr Gadael fyddai’n ennill.  Yr ochr Gadael yn canolbwyntio ar bethau ymddangosiadol mwy haniaethol - sofraniaeth a rheolaeth.  Ond symbolau am bethau eraill oeddynt mewn gwirionedd - y drwgdeimlad tuag at fewnfudwyr ymysg llawer yn y DU - drwgdeimlad oedd wedi ei gorddi yn y wasg am flynyddoedd -  a chanfyddiad (cwbl ffug) bod y DU yn wlad bwerus a nerthol sydd yn cael ei dal yn ol gan yr UE.  Fel rheol materion economaidd sy’n ennill yn y diwedd mewn etholiadau, a phetai’r ochr Aros wedi ffocysu ei dadl economaidd yn well byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol.  Y ddadl y byddai’r DU yn cael ei hollti oddi wrth ei phrif farchnadoedd gan wal dollau oedd ei phrif arf o’r cychwyn ond ni wnaethwyd digon o ddefnydd ohoni, ac ni wnaed ymdrech ddigonol i fynd i’r afael ac ymateb ar ochr Gadael i hynny.  Yr ymateb hwnnw oedd ‘Bydd yr UE eisiau gwerthu gwin a Volkswagens i ni o hyd - felly bydd marchnad rydd yn bodoli rhyngom ni a nhw o hyd’.  Fel cawn weld yn hwyrach nonsens llwyr oedd y ddadl yma, ac un sy’n dangos diffyg dealltwriaeth llwyr o’r hyn ydi’r UE - ond ni wnaed hynny’n glir yn ystod yr ymgyrch.  Daw’n amlwg yn hwyrach bod symiau enfawr o arian wedi eu sianelu i’r ymgyrch Gadael trwy ddulliau amheus - rhai ohonyn nhw yn ol pob tebyg yn anghyfreithlon. 
  5. Y refferendwm yn cael ei gynnal a’r ochr Gadael yn ennill o tua 4% tros y DU.  Yr Alban yn pleidleisio’n drwm i aros a felly hefyd Llundain.  Gogledd Iwerddon yn pleidleisio i aros gyda phob etholaeth efo mwyafrif Pabyddol am aros a phedair o’r rhai efo mwyafrif Protestanaidd.  Cymru wrth reswm yn pleidleisio fel Lloegr gyda”r rhannau o’r boblogaeth oedd wedi elwa fwyaf o aelodaeth o’r UE fwyaf awyddus i adael.

No comments:

Post a Comment