Mi fydd darllenwyr rheolaidd Golwg360 wedi sylwi bod y wefan newyddion bellach yn arbenigo mewn cynhyrchu straeon di ddiwedd am ffraeo oddi mewn i Blaid Cymru neu newyddion drwg o Gynghorydd r Gwynedd - cyngor sydd wrth gwrs yn cael ei reoli gan Blaid Cymru. Os oes yna rhywun yn rhywle yn ‘sgwennu llythyr sy’n feirniadol o Gyngor Gwynedd, neu bod aelod unigol o rhyw gangen afradlon yn rhywle yn gwneud rhyw ddatganiad neu’i gilydd gallwch fentro y bydd ar ben tudalen flaen Golwg360 - ac felly yn stori bwysicach na’r un stori arall yn y Byd mawr crwn ar y diwrnod dan sylw.
Un o’r problemau sy’n deillio o’r diddordeb obsesiynol yma mewn straeon negyddol am un o’r gwrthbleidiau Cymreig ydi y gallai rhywun sydd ond yn cael ei newyddion gan Golwg360 fod yn gwbl anwybodus o’r straeon negyddol am bawb arall. Dwi’n gwybod y bydd un neu ddau yn ei chael yn anodd credu bod yna gymaint ag un copa walltog yng Nghymru sydd ond yn cael ei newyddion o’r ffynhonnell arbennig yma - ond a barnu oddi wrth gyfraniadau rhai o’r cyfeillion sy’n gadael sylwadau ar ddiwedd y straeon, dwi’n tueddu i anghytuno.
Felly fel arfer mae Blogmenai yn awyddus iawn i helpu. Dyma un neu ddwy o straeon bach negyddol eraill sydd ddim yn cael llawer o sylw gan Golwg360 a sydd felly yn creu perygl bod ei darllenwyr yn llafurio efo’r cysyniad mai Plaid Cymru ydi’r unig blaid yng Nghymru - a’i bod yn un ddrwg iawn, iawn sy’n gwneud smonach o bob dim.
- Mae Paul Orders, Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd (Llafur) yn ennill £173,417 y flwyddyn. Mwy na phrif weinidogion y DU.
- Bydd cynnydd o 12.5% yn nhreth y cyngor Sir Benfro (Annibynnol) yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
- Mae Llafur Prydain wedi ei chladdu mewn honiadau a chwynion am ymddygiad gwrth Semitaidd ar hyn o bryd - ac wedi colli 17,000 aelod oherwydd hynny.
- Mae tri ymchwiliad wedi eu galw i amgylchiadau o gwmpas marwolaeth Carl Sargeant. Doedd a wnelo’r diweddar weinidog na’r ymchwiliadau ddim oll a Phlaid Cymru.
- Mae cyn weinidog yn Llywodraeth Cymru yn honni bod yna ddiwylliant gwenwynig o fwlio wrth galon Llywodraeth Cymru. Does a wnelo Plaid Cymru ddim oll a Llywodraeth Cymru.
- Mae’r Toriaid Cymreig yn caniatau i foi sydd eisiau trafod ail sefydlu erledigaeth crefyddol yn Ewrop i siarad trostynt ar y cyfryngau torfol.
- Mae Cyngor Bro Morgannwg (Toriaidd) yn bwriadu gostwng eu nifer o weithwyr ieuenctid o 53 i 25 yn ystod y flwyddyn ariannol yma.
- Mae Cyngor (Llafur) Caerffili wedi llwyddo i chwythu £3m yn ceisio cael gwared o’i prif weithredwr ac aelod blaenllaw arall o’u staff.
- Mae adroddiad gan bwyllgor craffu Cyngor Powys (Annibynnol / Toriaidd) yn darogan y bydd £5.4m o ddyled gan ysgolion y sir erbyn blwyddyn addysgol 2019-20.
- Mae Cyngor Castell Nedd Port Talbot (Llafur) wedi llwyddo i ‘golli’ 2,500 o’u staff mewn cwta bum mlynedd.
- Mae dwy o ysgolion uwchradd Dinas Casnewydd (Llafur) mewn mesurau arbennig.
- Mae Cyngor Caerffili yn gwario llai na’r un cyngor arall yng Nghymru ar addysg plant y sir (a llawer, llawer llai na’r cynghorau sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru).
- Mae yna ychydig o helynt ar hyn o bryd am bod yna Aelod Seneddol Llafur efo hanes o guro’i wraig.
- Teresa May (Tori dwi’n meddwl) yn bersonol oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i beidio a thrydaneiddio’r rheilffordd yr holl ffordd i Abertawe.
- Mae un o aelodau UKIP yn y Cynulliad wedi ei wahardd rhag siarad yno am flwyddyn, mae un arall wedi ymddiswyddo ac mae’r aelod a gymrodd ei le wedi gafael UKIP.
Dwi’n dechrau ‘laru ar hyn - mae yna gannoedd o straeon cyfredol negyddol am bleidiau a gwleidyddion unoliaethol i’w cael os ydi rhywun yn chwilio amdanyn nhw - ond mae’n rhaid gwneud mymryn o ymdrech i ddod o hyd iddyn nhw - ac os ydi eich holl ynni yn cael ei wario ar chwilio am fan straeon negyddol am (ar hyn o bryd) drydydd blaid y Cynulliad, a’r unig un sydd y tu allan i’r consensws unoliaethol, does yna ddim amser i wneud hynny.
Mae GOLWG 360 yn wefan newyddion difrifol - straeon sydd yn aml yn ffeithiol anghywir (Doniol o anghywir, mewn gwirionedd), lluniau anaddas neu amherthnasol, ac yn aml mae'n amlwg nad oes gan awdur y darn y syniad lleiaf am beth mae'n son. Fe ddylai fod gan Dylan Iorwerth- newyddiadurwr go iawn ardderchog - gywilydd go iawn o'i arddel.
ReplyDeleteRhan o'r broblem, dybiwn i, yw diffyg cyswllt rhwng awduron y wedfan ac unrhyw ran o Gymru y tu allan i'r Fro Gymraeg. Maent yn ddibynnol ar straeon o Gwynedd, Ceredigion (llawer iawn o straeon di-nod yn deillio o'r fan yna) a Chaerfyrddin.
Go brin fod yna 'dwrch' Cymraeg ei iaith th Casnesydd, Cei-Connah neu Llandrindod.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef y buaswn yn hoffi gwybod pwy sy'n gweithio iddo. Yr oedd Iolo Cheung
yn gyfrannwr craff, ond nid yw i weld yn cyfrannu bellach. Huw Prys Jones yw'r unig enw arall sy'n ymddangos.
Mae'r wefan yn uffernol. A dyw'r cyclgrawn wythnosol fawr iawn gwell.
ReplyDelete