A dyma wrthrych yr ymddiheuriad.
I'r graddau bod yr 'ymddiheuriad' yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, mae'n ymddangos ei fod yn awgrymu mai ceisio mynegi ei hoffter o eira roedd yn hytrach na gwyntyllu honiad cyfangwbl ffug am fewnfudwyr i Loegr.
Barnwch chi - a barnwch pam y byddai rhywun eisiau gwasgaru honiad celwyddog am grwp mawr o bobl.
Tori eithaf prif lif ydi Felix Aubel, mae arnai ofn dweud. O sgwrsio a sawl aelod o'r Blaid Geidwadol dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r mwyafrif llethol ohonynt yn arddel syniadau digon tebyg i rai Felix. Maent yn ddieithriad yn Unoliaethwyr rhonc ; maent yn frwd dros adael yr UE, ac mae atgasedd tuag at 'fforinars', a Mwslemiaid yn glefyd sy'n rhemp yn eu plith.
ReplyDeleteFelly, pam mae mwy nac un AC y Blaid yn yr wythnosau diwethaf wedi datgan bwriad o greu clymbaid hefo'r giwad asgell-dde eithafol yma at ol yr etholiad nesaf ?
Bobol bach! Cofiwch yr Arglwydd Penrhyn ! Cofiwch hanes Churchill yn anfon milwyr i'r cymoedd ! Cofiwch Dryweryn ! Cofiwch Magi Thatcher yn difetha economi Cymru yn yr 1980au !
Cofiwch ymgyrch y Toriaid i wrthwynebu sefydlu Cynulliad i Gymru ym 1979 ac ym 1997.
A'r wythnos diwethaf ymosodiad haerllug Janet Finch-Saunders ar gynghorau cymuned sy'n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Clymblaid hefo'r Toriaid. Na!