And I also feel sure that the appallingly biased presentation of debate by some of the media, intended to undermine the UK in negotiations to the extent that we might reject the final negotiated deal is making the British people more in favour of leaving.
Mae'n rhan o naratif cefnogwyr Brexit wrth gwrs bod y cyfryngau a'r sefydliad i gyd yn eu erbyn. Er cywirdeb dwi'n rhestru isod y cyfryngau oedd o blaid ac yn erbyn Brexit adeg y refferendwm ynghyd a'u cylcgrediad.
O blaid Brexit:
Sun (1.7m cylchrediad)
Daily Mail (1.5m)
Telegraph (490k)
Mail on Sunday (1.3m)
Sunday Times (797k)
Sunday Telegraph (797k)
Daily Star - heb ddatgan, ond y cyfeiriad golygyddol o blaid Brexit (425k)
Daily Express (427k)
Sunday Express (396k)
Sun on Sunday (1.45m).
O blaid Aros:
Times (438k)
Daily Mirror (776k)
I - heb ddatgan, ond y cyfeiriad golygyddol o blaid Aros (284k)
Guardian (165k)
FT (118k)
Observer (194k)
Sunday Mirror (1.8m)
Ac ar ben hynny mae nifer o'r papurau sydd o blaid Brexit yn uwd o gelwydd ac yn llawn optimistiaeth gorffwyll cwpl ddi dystiolaeth.
Son am straeon Brexit a'r cyfyngau. Y BBC yn adrodd ddoe.
ReplyDeleteHanes Nathan Gill a'r Glo!!
'A UKIP MEP who recently resigned as an AM has said he was sent a late Christmas present of a lump of coal. Nathan Gill, who is one of four Welsh MEPs in the European Parliament, believed he had been put on "Santa's naughty list" by a Remain supporter.'
Rwan. Mae hi'n hen draddodiad mewn sawl rhan o Gymru, yr Alban a Gogledd Lloegr i rhywun (pryd tywyll fel arfer)i ddod i mewn i'ch cartref ar Nos Calan hefo darn o lo fel anrheg er mwyn croesawu'r Flwyddyn Newydd.
Synnu'n fawr nad oedd Nathan Gill wedi sylweddoli hyn, gan gofio fod UKIP mor frwd dros hen draddodiadau ac arferion Prydeinig!
Synnu hefyd fod neb yn y BBC wedi sylweddoli hyn. Santa's Naughty List wir!!