Sunday, December 31, 2017

Ffigyrau'r flwyddyn

Yn ol statcounter dyma'r flwyddyn fwyaf prysur erioed i Flogmenai - nid fy mod yn credu'r ffigyrau a dweud y gwir.  'Dwi wedi blogio llai yn 2017 'na dwi wedi ei wneud ers blynyddoedd - a 'dwi ddim yn siwr beth ydi'r neges i'w chymryd os ydi llai o flogio yn arwain at ddarlleniad uwch!

Thursday, December 28, 2017

Rhagweld 2018 - rhan 4

Theresa May.  Flynyddoedd maith yn ol roedd yna swydd yn India oedd gyda'r gwaethaf yn y Byd.  Disgwylid i ddeilydd y swydd dreulio ei ddiwrnod gyda'i ddwylo ynghanol afon o garffosiaeth agored yn chwilio am rhywbeth - unrhyw beth - o werth ynghanol y budreddi -  pres, darn o fetel, potel - unrhyw beth. Mae swydd bresenol Theresa May yn ymdebygu i'r swydd anymunol yma mewn rhai ffyrdd.

Mae'r greadures  wedi goroesi hyd yn hyn oherwydd nad oes neb arall eisiau ei swydd yn yr amgylchiadau sydd ohonynt.  Pan ddaw'n glir mai derbyn cyfarwyddiadau gan yr UE fydd y 'negydu' yn y flwyddyn newydd - yn union fel y 'negydu' sydd eisoes wedi mynd rhagddo, mi fydd yna ychydig o gicio a strancio gan Rees Mogg, Duncan Smith ac ati, a bydd y DUP yn chwythu ffiws os bydd ffin rhyngwladol yn cael ei bloncio ynghanol y Mor Celtaidd.  Ond yn y diwedd bydd y DU yn dilyn cyfarwyddiadau'r UE a bydd y setliad y byddwn yn ei gael yn rhywbeth gwaeth - ac efallai gwaeth o lawer - na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd.  Y rheswm am hynny ydi bod pawb yn deall erbyn hyn pwy sydd efo'r grym, a phwy nad oes ganddynt unrhyw rym - ond 'dydi'r sawl sydd wedi'n arwain i lle'r ydym ar hyn o bryd byth, byth am gyfaddef hynny. Byddant yn derbyn yr hyn y byddant yn ei gael yn union fel y gwnaethant yn gynharach y mis hwn.

Wedi'r setliad, ac wedi i'r DU adael yr UE bydd y gem yn newid - mi fydd rhaid i rhywun gymryd y bai am wneud smonach o bethau - a joban Theresa May fydd honno.  Bydd yn goroesi 2018 am resymau rydym eisoes wedi cyffwrdd a nhw, a bydd yn goroesi Brexit.  Wedyn - yn ystod hydref 2019 yn ol pob tebyg bydd yn cael ei hel i fyny'r planc ac yn cael ei lluchio i'r siarcod a bydd rhywun megis Jacob Rees Mogg yn cymryd ei lle.  Gallwn wedyn ddisgwyl llwyth o gimics bach diwerth fel y pasport glas.  Gall y system addysg ddisgwyl y pleser o gyflwyno dulliau mesur imperial i'r plantos.  

Wednesday, December 27, 2017

Rhagweld 2018 - rhan 3

Mae'r UE yn debygol i barhau i gefnogi llywodraeth Sbaen a bydd goblygiadau hir dymor i hynny.  Bwriad gwreiddiol yr UE oedd dod a'r rhyfeloedd hynod waedlyd sydd wedi 'sgubo tros gyfandir Ewrop tros y canrifoedd i ben trwy roi buddiannau tebyg i bob gwlad - ac mae hynny wedi bod yn hynod lwyddiannus.  Ond mae cymryd agwedd na all y ffiniau rhyngwladol oddi mewn i'r UE byth newid yn creu risg newydd i heddwch oddi mewn i'r UE.  Mae ffiniau gwleidyddol wedi newid ac  esblygu erioed, a byddant yn gwneud hynny am byth.  



Yn y gorffennol roedd y newidiadau hyn yn aml - ond nid pob tro -  yn digwydd oherwydd concwest milwrol, ond yn ddiweddar maent wedi adlewyrchu dymuniadau democrataidd y bobl sy'n byw o fewn eu ffiniau.   Lle nad oes cyfle i bobl fynegi eu hunaniaeth trwy ddulliau democrataidd, mae'r tebygrwydd o wrthdaro milwrol yn uwch.  Roedd y rhyfeloedd hir yng Ngogledd Iwerddon a Gwlad y Basg wedi eu hachosi - yn eu gwahanol ffyrdd - gan ddiffg cyfleoedd democrataidd i fynegi hunaniaeth genedlaethol.  Os ydi'r UE yn datblygu i fod yn rhwystr i newidiadau sy'n deillio o ewyllys democrataidd carfannau o bobl sy 'n byw yn yr UE bydd tyndra gwleidyddol yn adeiladu mewn gwahanol rannau o'r Undeb, a bydd tros amser yn arwain at dywallt gwaed.

Tuesday, December 26, 2017

Rhagweld 2018 - rhan 2

Carwyn Jones.  Beth bynnag ddaw o'r ymchwiliad swyddogol i fwlio yng nghoridorau pwer Bae Caerdydd, mae gan Carwyn Jones lawer o elynion oddi mewn i'r Blaid Lafur Gymreig bellach a bydd llawer o'r rheiny  eisiau gweld gwaed.  



Mae'r Blaid Lafur yn ehangach bellach wedi syrthio i ddwylo dilynwyr Corbyn, ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu yn y newid yn arweinyddiaeth Plaid Lafur yr Alban.  A gadael y sefyllfa Carl Sergeant o'r neilltu, mae Carwyn yn edrych yn greadur digon rhyfedd yng nghyd destun yr hyn ydi'r Blaid Lafur bellach.  Mae'n anodd credu y bydd gyda ni am hir.  Bydd yn syndod i mi os bydd yn goroesi'r flwyddyn fel arweinydd y Blaid Lafur Gymreig a Phrif Weinidog Cymru.

Sunday, December 24, 2017

Rhagweld 2018 - rhan 1

Os ydi'r blynyddoedd diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni - y ffaith nad yw'n syniad da ceisio rhagweld y dyfodol ydi un o'r rheiny.  Ond mi wnawn ni anwybyddu'r wers honno a cheisio edrych ymlaen ar un peth pob dydd rhwng rwan a'r flwyddyn newydd.  Mi gychwynwn ni efo Brexit - lle arall?



Fel 2016 a 2017 Brexit fydd yn dominyddu 2018 yn wleidyddol.  Bydd y DU yn parhau i ogor droi yn ei hunfan o ran deddfwriaeth seneddol, ond bydd rhaid dod i bendrefyniadau mawr yn gynnar yn y flwyddyn ynglyn a'r math o Brexit mae'r DU ei eisiau.  Bydd pob math o broblemau a chymlethdodau'n dod i'r amlwg, fel ddigwyddodd yn 2017 - ond y cwestiwn mawr fydd rhaid ei ateb ydi os bydd ffin rhyngwladol llawn rhwng y DU ac Iwerddon, ac os felly ymhle fydd y ffin.  

Mae'r DU eisoes wedi addo i'r UE na fydd ffin ar ynys Iwerddon, ac i'r DUP na fydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i weddill y DU.  Rhesymeg hynny ydi na fydd yna ffin ryngwladol go iawn ynghanol y Mor Celtaidd chwaith.  Os ydi hynny'n cael ei wireddu ni fydd y DU yn gallu crwydro ymhell oddi wrth safonau'r UE o ran masnach a bydd yn parhau i fod yn atebol i'r ECJ.  Bydd ei gallu i lunio cytundebau masnach efo gwledydd eraill wedi ei gyfyngu'n sylweddol hefyd.  Os digwydd hynny bydd llawer o Doriaid yn ofnadwy, ofnadwy o flin.  

Mae yna rhywun am gael ei siomi - ac yn ymarferol naill ai'r DUP neu Jacob Rees Mogg ac Iain Duncan Smith fydd yn siomedig. O'r ddau ddewis mae'n debyg y bydd May yn dewis siomi'r DUP - a bydd hynny yn di sefydlogi'r llywodraeth ymhellach - a bydd yna oblygiadau i Gymru wrth gwrs.

Friday, December 22, 2017

Thursday, December 21, 2017

Thursday, December 14, 2017

Ydi 90 Aelod Cynulliad yn ormodol?

O diar, mwy o anhapusrwydd i Felix - mae o'n ystyried cynnydd yn y nifer o Aelodau Cynulliad fel 'gorffwylldra llwyr'.




Ymddengys bod 'gorffwylldra llwyr' yn beth cyffredin braidd pan mae'n dod i senedd-dai a siambrau cyngor.

Cymru 3.06m
(60 AS).

Y DU - poblogaeth 64m
Ty'r Arglwyddi (812)
Ty'r Cyffredin (650) 
Cyfanswm (1462)

Powys 133,000 poblogaeth.
(73 cynghorydd).  

Gwynedd 122,000 poblogaeth.
(75 cynghorydd)

Yr Alban 5.3m poblogaeth.
(129 Aelod Senedd yr Alban).

Gogledd Iwerddon 1.8m poblogaeth
(108 aelod Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Iwerddon -  4.6m poblogaeth
(156 TD)

Gwlad yr Ia - 323,000 poblogaeth
(65 Aelod Althing)

Blaenau Gwent - poblogaeth, fawr o neb.
(42 cynghorydd).

Friday, December 08, 2017

Dydi Felix ddim yn hapus


Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod ein bod yn ymweld a chyfri trydar eithaf boncyrs Felix Aubel o bryd i'w gilydd - er fy mod wedi cael fy mlocio rhag dilyn y cyfri ers talwm.  Er enghraifft cawsom gip ar drydariadau ac aildrydyriadau anoddefgar y dyn yma.  Mae'r math yma o beth yn llai cyffredin y dyddiau hyn - ers i  Felix gael ei hun mewn dwr poeth oherwydd iddo  gael cyhoeddusrwydd anffafriol wedi iddo geisio dechrau trafodaeth efo eithafwr adain dde o Sweden ynglyn erlid pobl am resymau crefyddol.  






Ac am unwaith yn ei fywyd mae Felix yn gwbl gywir - mae'r DU wedi ildio ar pob dim roeddynt yn dweud oedd y 'linellau coch' ychydig amser yn ol.  Yn anhygoel mae'r cytundeb yn nodi y bydd y DU yn cadw at reoliadau a safonau Ewropiaidd os mai dyna'r unig ffordd o sicrhau nad oes ffin rhyngwladol yn yr Iwerddon.  Efallai y byddai'n syniad egluro pam bod hyn wedi digwydd er budd Felix a'i debyg.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad proses o negydu yn yr ystyr arferol ydi'r hyn sydd wedi dod i fwcl heddiw.  Yn hytrach mae'n broses o'r UE yn dweud wrth y DU beth sy'n rhaid iddi ei wneud cyn cael trafod trefniadau masnach yn y dyfodol, a'r DU - ar ol tipyn o theatrics - yn cytuno i'r hyn maent yn gofyn amdano.  

Mae'r rheswm pam bod hyn yn digwydd yn eithaf syml yn y bon - mae pethau'n unochrog iawn - mae'n 'negydu' rhwng bloc masnachu anferth a gwlad ganolig ei maint sydd ddim efo cytundeb masnach efo unrhyw wlad yn annibynnol o'r UE. Byddai methu a dod i gytundeb yn niweidiol i'r UE - ond byddai'n gwbl drychinebus i'r DU o safbwynt masnachol.

Gallwn ddisgwyl i'r 'negydu' tros y flwyddyn nesaf fod yn ddigon tebyg - gyda'r DU yn gorfod dilyn un gorchymyn ar ol y llall.

Felly rydym mewn sefyllfa lle mae pobl fel Felix sydd wedi bod yn ymgyrchu i adael Ewrop wedi'n cael mewn sefyllfa lle rydym yn gorfod talu swmiau mawr o arian i'r UE, lle bydd y Llys Ewropiaidd yn dal efo dylanwad yn y DU a lle bydd Gogledd Iwerddon yn symud oddi wrth gweddill y DU o ran ei threfniadau masnachol a rhai o'i threfniadau economaidd.

Ac mae yna rhywbeth arall hefyd.  Mae Iwerddon wedi cael pob dim roedd am ei gael o'r broses yma tra bod y DU wedi cael nesaf peth i ddim - ag eithrio cael mynd ymlaen i gael ei gicio o gwmpas eto yn ail gam y negydu.  Yn hanesyddol mae'r DU wedi arfer cael gwthio'r Iwerddon o gwmpas yr iard yn ddi dramgwydd.  Ni ddigwyddodd hynny y tro hwn oherwydd bod y Gwyddelod - fel aelodau parhaol o'r UE - gyda chefnogaeth gwledydd Ewrop, tra nad oedd gan Brydain gefnogaeth neb.  Cafodd y bwli ei fwlio gan endid llawer llai na fo'i hun.

Mae Felix a'i ffrindiau wedi gwneud y DU yn wanach ar y llwyfan rhyngwladol nag yw wedi bod erioed.  Mae'n anodd peidio chwerthin.
















Thursday, December 07, 2017

Beth sydd wedi digwydd i'r newyddion dywedwch?

Fi sy'n mynd yn hen, 'ta ydi'r newyddion yn mynd yn boncyrs?  Wele'r wythnos ddiwethaf yn unig.



















Monday, December 04, 2017

Is etholiad Alyn a Glannau Dyfrdwy


Bydd is etholiad Alyn a Glannau Dyfrdwy yn cael ei chynnal ar Chwefror 6 y flwyddyn nesaf.  Wele hanes etholiadol yr etholaeth hyd yn hyn.