Tuesday, June 27, 2017

Beth bynnag ddywedwch chi am y DUP _ _ _

 _ _ _ maen nhw wedi bod yn gyson trwy'r blynyddoedd.  Mae'n debyg mai yn y blaid yma yn unig mae gwleidyddiaeth Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn parhau i fyw, ac mae'r DUP mewn safle o gryn ddylanwad ar hyn o bryd.


Ond efallai bod yna bwynt ehangach i'w gymryd o'r etholiad cyffredinol diweddar.  Os ydym yn edrych tua'r Alban neu Ogledd Iwerddon y pleidiau mwyaf bellach ydi'r rhai llai 'parchus' a'r rhai sydd heb symud ymhell iawn oddi wrth egwyddorion creiddiol - a hynod amhoblogaidd o safbwynt y cyfryngau prif lif.

Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei dominyddu gan blaid unoliaethol sy'n coleddu'r wleidyddiaeth fwyaf rhagfarnllyd ac ansoffisdigedig yn Ewrop a phlaid genedlaetholgar sy'n ddi edifar am ei rhan mewn cyfres o wrthryfeloedd milwrol digon gwaedlyd tros y ganrif ddiwethaf.  Dydi'r blaid sy'n rheoli yn yr Alban ddim mor lliwgar na'rddwy sy'n rhedeg y sioe yng Ngogledd Iwerddon, ond mae honno wedi glynu yn ddigon di ildio at ei hegwyddor creiddiol o ennill annibyniaeth i'r wlad.  

Ac i edrych tua Lloegr (a Chymru o ran hynny), llwyddiant mawr yr etholiad oedd creadur oedd yn cael ei ystyried yn gwbl anaddas i reoli gan y cyfryngau prif lif - a llawer yn ei blaid ei hun - oherwydd 'amharchusrwydd' ei ddaliadau.

Mae'n siwr bod yna wers yn rhywle yn hyn oll.

Friday, June 23, 2017

Etholiadau lleol - rhan 1

Fel dwi wedi son eisoes dwi'n gwneud pwt o gyflwyniad ac yn bwriadu postio ambell i siart neu fap yma.

Mae'r mapiau isod wedi eu dwyn o wikipedia, mae'r map ar y chwith pob tro yn dangos pa blaid sy'n rheoli'r siroedd (du = dim rheolaeth) ac mae'r mapiau ar y dde  yn dangos dosbarthiad wardiau llywodraeth leol yn ol maint cyfnogaeth y gwahanol bleidiau.

Maent yn siarad trostynt eu hunain i raddau helaeth.  O safbwynt y Blaid y pwyntiau diddorol mae'n debyg ydi anghydbwysedd rhwng ei chefnogaeth yn nwyrain a gorllewin y wlad a'i thwf ar lefel lleol yn Ynys Mon a Chaerfyrddin.

2017



2012


2008


2004






Monday, June 19, 2017

Ynglyn a chynllun Llafur i foddi ardal Penrhosgarnedd efo tai

Datganiad i'r Wasg gan Blaid ynglyn a chynllun Llafur i foddi ardal Penrhosgarnedd efo tai.


Siom bod llais trigolion a Phlaid Cymru Bangor wedi ei ddiystyru am ddatblygiad 366 o dai ym Mangor
Mae trigolion lleol a Phlaid Cymru Bangor yn hynod siomedig bod Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Llafur y Cabinet dros yr Amgylchedd wedi derbyn argymhelliad yr Arolygaeth Gynllunio i ganiatáu’r cais i ddatblygu 366 o dai ym Mhen y Ffridd, Bangor, Gwynedd.

Gweithiodd Plaid Cymru Bangor yn ddiflino i wrthod y cynllun i ddatblygu cynifer mor fawr o dai mewn un lleoliad ym Mangor. Roedd Cynghorwyr yn gwrthwynebu ar sail y buddsoddiad angenrheidiol fyddai ei angen i isadeiledd yr ardal, y pwysau dybryd sydd eisoes ar wasanaethau cyhoeddus, megis y gwasanaeth iechyd ac ysgolion lleol yn ogystal â’r cynnydd mawr ddaw yn sgil y traffig ychwanegol i’r ardal.

Un arall o’r prif ffactorau i’r Blaid ym Mangor wrthod y cynnig i ddatblygu cynifer o dai mewn un ardal oedd effaith andwyol datblygiad o’r fath ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

Cynhaliwyd trafodaethau lu ac ymgynghoriad cyhoeddus gyda thrigolion lleol yr ardal i wyntyllu barn a gwrthododd aelodau Plaid Cymru’r cais mewn cyfarfod cynllunio rhai misoedd yn ôl.

Yn ôl Gareth Roberts Y Cynghorydd Sir sy’n cynrychioli trigolion Ward Dewi ar Gyngor Gwynedd: “Buom yn gadarn ein barn o’r dechrau cyntaf. Doedd trigolion yr ardal ddim am weld datblygiad o’r maint yma yn dod i’r Ward. Mae’n sicr o newid ein hamgylchedd a’n cymuned ac rydym yn siomedig iawn iawn gyda phenderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru.”

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Ward ym mis Hydref 2016 i glywed barn bobl leol, a chynrychiolwyd y trigolion lleol gan Y Cynghorydd Roberts, yn ogystal ag aelodau eraill o gynghorwyr Plaid Cymru Bangor mewn cyfarfod apêl.

"Does dim amheuaeth y bydd datblygiad o'r maint yma’n cael effaith enfawr ar fywydau trigolion o Fangor, a dwi’n pryderu nad yw'r seilwaith yn ei le i ni allu delio â'r cynnydd yn y boblogaeth ddaw yn sgil cymeradwyo datblygiad o'r maint hwn yn yr ardal,” meddai Cynghorydd Elin Walker-Jones, Ward Glyder, Bangor.

“Dadleuwyd yr achos yn gryf wrth wrthwynebu’r cais bod potensial enfawr i ddatblygiad mor fawr gael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth y gymuned. Mae’n siom enfawr nad yw Ysgrifennydd Llafur Cabinet Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn cydnabod y pryder am y Gymraeg yn ei llythyr. Mae’n dangos difaterwch llwyr gan Llywodraeth Cymru.”

Yn ôl Y Cynghorydd Gareth Roberts: "Mae gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn gwegian, mae ein hysgolion yn llawn, mae sicrhau apwyntiadau gyda meddygfeydd yn anodd, mae nifer y cerbydau sydd eisoes ar ein lonydd yn broblemus, a thydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod nifer y tai a gynigir o fewn y cynllun yn gymesur â’r ardal."

“Bydd y gwaith yn parhau i sicrhau bod aelodau’r Ward yn cael tegwch, bod ardal Bangor yn cael chwarae teg a bod Gwynedd gyfan ddim yn cael ei heffeithio’n andwyol gan ddatblygiad o’r maint hwn,” ychwanegodd Y Cynghorydd Gareth Roberts.

Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon: "Does dim amheuaeth bod angen tai newydd ar gyfer pobl leol, ond mae angen iddynt fod yn gartrefi o’r math cywir yn y lleoliad cywir ac ar raddfa sy’n dderbyniol i’r ardal leol. Yn anffodus, dwi’n siomedig iawn bod y cais wedi ei ganiatáu ac yn bryderus bod y datblygiad hwn yn llawer rhy fawr i'r ardal.

"Fel Plaid, byddwn yn parhau i gydweithio a phwyso ar y llywodraeth yn Llundain i ddatganoli grym cynllunio o Lundain i Gymru. Dim ond bryd hynny y gall trigolion lleol fod yn hyderus bod Cymru yn cael y grym yn ôl i’w dwylo eu hunain gan benderfynu tynged ein cymunedau gyda sustem gynllunio Gymreig."

Sunday, June 18, 2017

Etholiad Cyffredinol 2017 - rhan 1

Am resymau na wnaf eich blino efo nhw dwi'n paratoi cyfres o graffiu ac ati sydd wedi eu seilio ar ganlyniadau etholiad Mehefin 8.  'Dwi'n bwriadu cyhoeddi un ar y blog pob hyn a hyn.

Mi wnwn ni ddechrau efo 'r isod - mae'n dangos lle enillodd y Blid bleidleisiau a lle collwyd pleidleisiau yn ol rhanbarth Cynulliad.  

Yr hyn sy'n drawiadol ydi i'r Blaid ennill pleidleisiau yn y Canolbarth a'r Gorllewin a Dwyrain De Cymru - gyda'r enillion i gyd bron ym Mlaenau Gwent yn achos yr ail.  Collwyd pleidleisiau yn y rhanbarthau eraill. 


Pam bod ail etholiad buan yn debygol iawn

Ei phroblem ydi ei bod yn ddibynol ar blaid Asgell Dde eithafol, ond hynod ecsentrig y DUP.  Ystyriwch y canlynol:

1). Mae'r DUP o blaid Brexit - ond maent yn erbyn ffin galed - nid oherwydd rhyw gariad mawr at Ewrop na'r Weriniaeth, ond oherwydd y byddai ffin galed yn niweidiol yn economaidd ac yn hynod anghyfleus i etholwyr y DUP.  

2). Beth bynnag arall fydd yn digwydd mae'r DUP yn erbyn i Ogledd Iwerddon gael ei thrin yn wahanol i weddill y DU.  Maent yn gweld unrhyw symudiad i'r cyfeiriad hwnnw fel cyfraniad i gyfeiriad Iwerddon unedig - hunllef eithaf y DUP.  

3). Mae yna leiafrif bychan ond swnllyd iawn o aelodau seneddol Toriaidd sydd eisiau Brexit caled yn annad dim arall yn y Byd mawr crwn.  Does yna ddim byd wneith eu perswadio nhw i fod yn hyblyg ynglyn a Brexit caled.  Mae'n debyg mai er mwyn peidio bod yn ddibynol arnyn nhw y galwodd May yr etholiad.  



Rwan mae ganddi hi'r DUP ar y naill ochr iddi hi sydd am fod yn erbyn Brexit caled a Redwood, Rees Mogg ac ati ar y llall sy'n ystyried atal mewnfudo yn bwysicach na dim arall.  Mae am fod yn nesaf peth i amhosibl i blesio'r ddwy ochr.

Os ydi'r DUP yn cytuno i Brexit caled bydd y gost yn uchel iawn - mae'r DUP wedi arfer negydu efo McGuiness, Adams a Kelly - byddant yn llyfu eu gwefysau wrth feddwl am negydu efo Mrs Weak & Wobbly.  Gallant fod ar ol addasu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith - rhywbeth fyddai'n torri cytundeb rhyngwladol, neu becyn economaidd anferth - rhywbeth fyddai'n corddi rhannau tlawd eraill o'r DU.  

Mi fyddai Etholiad Cyffredinol arall yn llawer llai o drafferth na cheisio mynd i'r afael a hyn oll. 

Dathliad - steil Llafur Gorllewin Caerdydd

Champagne - yn ddigon addas, potel o win coch  Gentleman Jack - Jack Daniels pobl fawr.

Be ddywedan ni dywedwch - Gentleman Jack Socialist ta Champaigne Socialist?


Sylwadau brysiog ar etholiad ddoe

1). Arfon.  Ychydig iawn o bleidleisiau gollodd y Blaid yn Arfon ond daethom yn agos iawn i golli'r sedd i ymgeisydd sy'n byw yn Llundain, na wnaeth fawr o ymdrech o gymharu a Sion Jones ac Alun Pugh, sydd ddim yn siarad Cymraeg a sy'n ystyried ei bod yn gwbl briodol ateb ymholiadau Cymraeg mewn Sbaeneg.  Daeth y bleidlais bron i gyd gan bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn ddiweddar neu oedd yn pleidleisio am y tro cyntaf.  Daeth yr hollt ieithyddol yn ol gyda llaw - rhywbeth oedd wedi lled ddiflanu yn yr etholaeth.  Roedd gwahaniaeth mawr rhwng y patrymau pleidleisio mewn cymunedau lle mae'r Gymraeg yn dominyddu a'r lleill - er bod rhai eithriadau o'r ddwy ochr.

2). Corbyn.  Mae perfformiad Llafur yn yr etholiad yma am ladd y ddadl mai'r canol ydi'r lle i fod yn wleidyddol am genhedlaeth.  Roedd y canlyniad bron yn gymaint o slap i'r traddodiad Blairaidd nag oedd i'r Toriaid.

3).  Mae'r Dib Lems mewn lle du iawn yng Nghymru - 62 o seddi cyngor enillwyd gan blaid fwyaf celwyddog yn y wlad, nid oes ganddynt yr un aelod seneddol am y tro cyntaf erioed i bob pwrpas a dim ond Kirsty Williams sydd ganddynt yn y Cynulliad, ac mae hithau yn fwy o aelod annibynnol na dim arall.

4). Yr Alban.  Mae'n bosibl bod pleidleisio tactegol i'r Toriaid gan Lafurwyr gwrth annibyniaeth wedi caniatau i May barhau fel Prif Weinidog.  Mae gwleidyddiaeth yr Alban hefyd wedi ei Ulstereiddio - yn bennaf diolch i'r Toriaid.  Mae'r math yma o wleidyddiaeth yn fwy ffyrnig, cynhenus, ac anymunol na gwleidyddiaeth gweddill y DU.  Toriaid Ruth Davidson sy'n gyfrifol am hyn i raddau helaeth.

5). Gogledd Iwerddon.  Y DUP ydi plaid mwyaf eithafol ac yn wir boncyrs y DU o ddigon.  Ar sawl cyfri maent ymhellach  i'r Dde nag UKIP.  Mae May am orfod dibynnu ar eu pleidleisiau nhw - ac mi fydd yna bris i'w dalu.  Gallai hynny beryglu elfennau o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, a hefyd mae yna oblygiadau i Brexit.  Gan y bydd y DUP yn mynnu na fydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i unrhyw ran arall o'r DU gallai hynny olygu y bydd rhaid i'r Toriaid anghofio am Brexit caled, neu gallai olygu Brexit caled ar ffin y Gogledd a'r Weriniaeth - rhywbeth fyddai'n arwain at y DU yn gadael yr UE heb gytundeb - rhywbeth fyddai'n arwain at anhrefn llwyr.  Gallai'r DUP hefyd orfodi'r Toriaid i beidio ag ad drefnu'r ffiniau etholaethol - byddai newidiadau yn gostus i'r DUP.  Yn y cyfamser mae'r canol gwleidyddol wedi ei sgubo o'r neilltu, ac mae'r etholaethau ar hyd y ffin bellach yn wyrdd tywyll, tywyll, tywyll.  Mae gwleidyddiaeth y dalaith wedi ei bolareiddio yn llwyr - ac mae Brexit a'r ffin wrth galon y polareiddio hynny.

6). Plaid Cymru.  Ag ystyried grym y llif i Lafur yng Nghymru mae cynyddu ein seddi yn erbyn y llanw wedi bod yn gryn gamp - er ein bod hefyd wedi bod yn lwcus iawn yn Arfon a Cheredigion ag ystyried maint y mwyafrifoedd.  Ar y llaw arall gwleidyddiaeth unigryw y Gymru Gymraeg sydd wedi caniatau i hyn ddigwydd, a rydym unwaith eto ymhell o dorri tir newydd yn y Gymru ddi Gymraeg.

7). Llafur Cymru.   Canlyniad da iawn iddyn nhw yng Nghymru - diolch i'r Blaid Lafur Brydeinig.  Ar ol pleidleisio i Lafur am ganrif a chael ein hunain ar waelod pob tabl economaidd rydan ni wedi pleidleisio i Lafur eto, ac wedi gwneud hynny mewn niferoedd sylweddol iawn - mwy felly nag ydym wedi ei wneud ers cyfnod maith.

8). Y Toriaid.  Ha, ha.

9). UKIP.  Ha, ha, ha, ha, ha _ _ _ 

Sibrydion

Son bod PC 100 ar y blaen yn Arfon, Llaf eisiau ail gyfri.  Pc yn iawn yn Dwyfor Meirion a Dwyrain Caerfyrddin.  Agos yn Ceredigion - PC mymryn ar y blaen.

Wednesday, June 07, 2017

Mwy o driciau budur gan Dib Lems Ceredigion

Mae'n debyg mai 'Dib Lems' Ceredigion sy'n. 'Arwain' y ffordd yng Nghymru o ran triciau budur etholiadol a dweud celwydd.  Mae'r hanes yn un hir a hynod anymunol.  Ni fyddai etholiad yn gyflawn yng Ngheredigion pe na byddai'r Lib Dems yn mynd i lawr i'r gwter.









Honni ar y munud olaf bod Plaid Cymru o blaid Brexit caled ac ymddiheuro wedi i'r niwed gael ei wneud ydi'r gem y tro hwn.  Yn anffodus i'r Dib Lems mae'r cyfryngau prif lif wedi neidio ar eu celwydd am unwaith - a gallai hynny wneud rhywfaint o niwed i'r blaid fwyaf celwyddog Cymru.  Ymddengys bod hyd yn oed rhai o gyn ymgeiswyr seneddol y Dib Lems yn beirniadu eu nonsens celwyddog.


Mae yna gymhlethdod arall hefyd - mae'n debyg i'r rhannau o Geredigion mae'r Dib Lems gryfaf ynddynt wedi pleidleisio i adael yr UE - dydi gwneud mor a mynydd o'u gwrthwynebad 'unigryw' i Brexit ddim o anghenrhaid yn syniad da.

Bydd yn ddiddorol gweld os ydi celwydd etholiadol yn gweithio i'r Dib Lems eto fyth.

Monday, June 05, 2017

Paradocs rhyfedd etholiad 2017

Felly beth ydym i'w wneud o'r etholiad ryfedd yma?

Os ydym i gredu'r polau - er gwaetha'r amrywiaeth sylweddol yng nghanfyddiadau'r polau hynny - mae yna batrwm amlwg yn ymddangos, ac mae'n batrwm amlwg iawn.

Yr hyn sy'n rhyfedd, ac yn anarferol iawn ydi bod erbyn hyn mae'r ddwy blaid fawr yn ymddangos i fod yn ennill pleidleisiau.  Mae hynny'n bennaf oherwydd y chwalfa ym mhleidlais UKIP, ond mae hefyd - i raddau llai - ar draul y pleidiau llai eraill.  Ar ol blynyddoedd o symud oddi wrth gyfundrefn dwy blaid a thuag at cyfundrefn aml bleidiol, ymddengys bod y llanw wedi troi - ac wedi troi go iawn.
Felly - os ydi'r polau i'w credu bydd Llafur a'r Torïaid yn ôl pob tebyg yn cynyddu eu cyfran o'r bleidlais. Y broblem o safbwynt Llafur a'r Toriaid ydi na fyddant yn ennill llawer o seddi oddi wrth ei gilydd os ydi pleidlais y ddwy blaid yn cynyddu.  
Hynny yw os ydi y Torïaid i ennill nifer fawr o seddi, mae'n rhaid iddynt i ennill oddi wrth Lafur a felly hefyd i'r gwrthwyneb.  Ond os ydi pleidlais y ddwy blaid yn codi ar draul UKIP yna fydd yna ddim llawer o symud o ran seddi.  Ar hyn o bryd mae'r polau cyfartalog yn awgrymu y bydd pleidlais y Toriaid tros y DU yn cynyddu o 6.2%, tra y bydd pleidlais Llafur yn cynyddu 4.8%.  Mae hyn yn ogwydd o 0.7% gogwydd fyddai'n arwain at ychydig iawn o newid o ran seddau.  Yn wir gallai arwain at fwy ac nid llai o seddi i'r Toriaid.
Felly gellir yn hawdd ddychmygu'r Toriaid yn cael cryn dipyn mwy o bleidleisiau na gawsant yn 2015, ond yn cael llai o seddi - neu o leiaf ddim llawer mwy.  Gallai May fod allan o joban ddydd Gwener er iddi gynyddu canran y Toriaid o'r broblem yn sylweddol