Rwan 'does yna ddim byd o gwbl o'i le mewn clymbleidio rhwng grwpiau neu bleidiau gwleidyddol ar gynghorau lleol. Yn wir oni bai bod hynny'n digwydd byddai'n aml yn amhosibl rhedeg cynghorau.
Serch hynny efallai y byddai etholwyr sy'n ystyried pleidleisio tros Lais Gwynedd neu ymgeiswyr annibynnol eisiau adlewyrchu y gallai llwyddiant i'r grwpiau hynny arwain at gyngor sy'n drwm o dan ddylanwad Plaid Lafur Jeremy Corbyn.
Ella bod gan Plaid Cymru fwy o ymgeiswyr nag erioed......ond mae safon rhai ohonynt yn ddifrifol....gwirioneddol crafu gwaelod y gasgen. Mae yn well cael llai o ymgeiswyr a rheiny yn rai o safon.
ReplyDelete