Mae'n ddiddorol bod y trallod yn parhau - o 11 sedd Bangor (os ydym yn cyfri Pentir sy'n cynnwys rhan o Benrhosgarnedd) pedwar ymgeisydd yn unig sydd ganddynt. Mae gan y Blaid 11.
Gadawodd eu hunig gynghorydd ym Mangor - Gwynfor Edwards - y nyth am y Blaid Werdd rhywbryd y llynedd. Mae bellach wedi ail ymddangos yng Nghaerfyrddin yn sefyll i'r blaid honno.
Mae ganddynt un ymgeisydd yn llai na'r disgwyl - mae un o'u gweithwyr mwyaf diwyd a chyn gadeirydd Cymdeithas Myfyrwyr Llafur Bangor - Tom Wade - wedi ymddiswyddo o'r blaid a dydi ei enw ddim ar y rhestr ymgeiswyr. Roedd i fod i sefyll ym Menai (Bangor) - neu Fangor Uchaf. Ymddengys nad yw'n hapus efo camau ei blaid yn erbyn Ken Livingstone. Mae bellach yn disgwyl i'r Blaid gael etholiadau cryf iawn yn Arfon.
Diddorol iawn Cai. Fe aethon ni ganfasio ym Morawelon noson o'r blaen. Fi a'r ddau ymgeisydd Sir dros y Blaid.
ReplyDeleteI rywun sy'n nabod Caergybi (cyn athro Ysgol Llanfawr er enghraifft, hen gadarnle y Blaid Lafur erioed ym Mon ydy Caergybi) rhaid cofio felly fod Morawelon yn gadarnle o fewn cadarnle i'r Blaid Lafur. O'r hyn a welais i yno mae newid ar droed ac mae Llafur mewn trwbl anhygoel. Dwi bron yn methu credu'r hyn a glywsom. Taswn i ddim wedi bod yno faswn i ddim wedi credu'r peth.
Mae 9 ymgeisydd dros y Cyngor Sir yng Nghaergybi.
PC x 2
Llafur x 3
Tori x 1 (anhebygol tu hwnt y gwelwn Dori yn cael ei ethol dros Gaergybi)
Faswn i ddim yn synnu tasa'r Blaid yn cael y ddwy sedd sydd ar gael neu yn cael un efo ymgeisydd annibynnol yn cael y llall a Llafur ar 0. Gyda llaw does dim ymgeisydd UKIP yma y tro hwn chwaith.
Plaid Cymru lawr 5% yn Arfon, Llafur fynu 8% llynedd?
ReplyDeleteAnon 11.04 - dwi'n cymryd nad oes gennych radd mathemateg.
ReplyDelete