Friday, April 28, 2017

Beth fydd effaith yr etholiad cyffredinol ar yr etholiadau lleol?

Mae'r etholiadau cynghorau lleol yn rhai hynod anarferol oherwydd bod etholiad cyffredinol yn eu dilyn ychydig wythnosau'n ddiweddarach.  Fedra i ddim cofio i'r un peth ddigwydd yng Nghymru - er bod etholiadau lleol ac etholiad arall yn dogwydd ar union yr un diwrnod weithiau.  Y cwestiwn diddorol ydi pa effaith gaiff yr etholiad cyffredinol ar yr etholiadau lleol?  Mae'n amhosibl dweud i sicrwydd wrth gwrs - ond mae'n bosibl ceisio bwrw amcan.  Mae'r canlynol yn fy nharo.  

1). Bydd yna fantais i'r Toriaid.  Mae eu cefnogaeth wedi cynyddu ers galw'r etholiad cyffredinol a bydd hynny yn ol pob tebyg yn cael ei adlewyrchu ddydd Iau.

2). Doedd yna neb yn disgwyl i UKIP gael fawr ddim yng Nghymru beth bynnag, ond mae pethau'n edrych hyd yn oed yn waeth rwan - mae galw'r etholiad cyffredinol wedi prysuro'r broses o drosglwyddo pleidleisiau UKIP i'r Blaid Geidwadol.  Byddant yn lwcus o gael un sedd.

3). Bydd pethau'n waeth i Lafur na fyddai wedi bod yn absenoldeb etholiad cyffredinol.  Mae eu cefnogaeth wedi syrthio yn y rhan fwyaf o bolau ers galw'r etholiad.  Bydd eu harweinydd Prydeinig wedi cael ei golbio'n gyson gan y wasg am wythnosau cyn yr etholiad - ac mae hyn yn siwr o gael effaith negyddol ar y bleidlais Llafur.  Bydd hyn wrth gwrs yn fanteisiol i'r pleidiau sydd yn erbyn Llafur - Plaid Cymru yn y Cymoedd, y Blaid, y Toriaid a'r Dib Lems yng Nghaerdydd, y Toriaid yng Nghasnewydd ac Abertawe ac ati.

4). Gallai pethau fod yn fwy anodd i ymgeiswyr annibynnol a grwpiau bach oherwydd y bydd y prif bleidiau wedi cael sylw di ddiwedd cyn yr etholiad.  Gallai hyn fod yn arwyddocaol yn Ynys Mon yn arbennig - ond gallai hefyd fod yn bwysig ar hyd a lled Cymru.   

1 comment: