Dylai ddal at y rheolaeth hwnnw ym mis Mai. Mae yna nifer o resymau tros gredu hynny:
1). Mae'n dra thebygol y bydd llawer mwy o ymgeiswyr gan y Blaid yn 2017 na gafwyd yn 2012 - neu mewn unrhyw etholiad arall yn hanes y sir. Mae'r dyddiau lle'r oedd lleiafrif gweddol fawr o seddi yn y sir ddim yn cael eu hymladd gan y Blaid yn y gorffennol.
2). Mae is etholiadau cyngor diweddar wedi bod yn hynod o gadarnhaol i'r Blaid.
3). Roedd pleidlais y Blaid yn Arfon ar lefelau hanesyddol uchel iawn yn 2015 a 2016.
4). Fel yng ngweddill Cymru, 'dydi Llafur ddim mewn lle da.
5). Dydi pethau ddim yn edrych yn wych i Lais Gwynedd chwaith. Cawsant gryn gweir ym mhob is etholiad diweddar maent wedi llwyddo i ddod o hyd i ymgeisydd ar eu cyfer.
Serch hynny mae yna fwy o ymdrech nag arfer gan y grwp annibynnol i ddod o hyd i lechen lawn o ymgeiswyr - yn arbennig felly yn Arfon. Gallai hyn fod yn broblem - ond gallai hefyd fod yn gyfle i'r Blaid. Yn wahanol i weddill Cymru, mae gan y Blaid bleidlais graidd eithaf uchel yn y rhan fwyaf o Wynedd. I'r graddau hynny mae'n llesol iddi os ydi'r bleidlais wrth Plaid Cymru wedi hollti i gymaint o gydrannau gwahanol a phosibl. Hynny yw mae gobeithion y Blaid o ennill yn well os oes yna wrthwynebwyr Llafur, Llais Gwynedd ac Annibynnol yn hytrach nag un ohonynt yn unig.
Dylai'r Blaid gryfhau ei gafael yng Ngwynedd.
Dau gwestiwn yn ceisio ffeithiau:
ReplyDelete1.Beth yw'r union-ddosraniad o gefnogaeth i'r gwahanol pleidiau ar gynghor Gwynedd ar hyn i bryd?
2.Beth yw'r union-ddosraniad o ddarpar-ymgeiswyr i Lafur,y Toriaid, Ukip, Trethdalwyr, annibynnol ayb ac...
Oes newid yn y rhifoedd ers yr etholiad diwetha'
R'oedd gan brifysgol Exeter ddata eitha' cyflawn ar etholiadau lleol. Hwyrach t mae Blogmenai yn achub y blaen f'ama?
Anodd ei weithio fo allan - ond mae'r data llawn yma - https://diogel.cyngor.gwynedd.gov.uk/CanlyniadauEtholiadau/en/Etholiad/CSV/6
ReplyDeleteDydan ni ddim yn gwybod pwy fydd yn sefyll eto - ond dwi'n hyderys y bydd record o ran nifer y pleidwyr fydd yn sefyll.
Go brin y bydd y Toriaid na UKIP na'r Trethdalwyr yn ffactor yng Ngwynedd. PC, Annibynnol, Llais Gwynedd, ychydig o Lafurwyr ac un neu ddau o Dib Lems fydd hi yn ol pob tebyg.