Saturday, March 25, 2017

Etholiadau cynghorau lleol - Caerdydd

Dwy sedd yn unig enillwyd gan y Blaid yn 2012 - colled o 5 sedd o gymharu a 2008 - er i'r bleidlais ar draws y ddinas ond disgyn y mymryn bach lleiaf.  Ers hynny mae is etholiadau a chynghorwyr yn croesi'r llawr wedi cynyddu'r grwp i 5.  Cynnydd sylweddol yn y bleidlais Lafur oedd yn gyfrifol am y colledion yn hytrach na chwymp yng nghefnogaeth y Blaid.

Yn wir cafodd y Blaid 12.8% o'r bleidlais ar draws y ddinas o gymharu a 16.4% gan y Dib Lems - ond cafodd y rheiny 16 sedd - 8 gwaith cymaint a'r Blaid.  Y rheswm am hynny oedd bod eu cefnogaeth wedi ei ddosbarthu'n fwy effeithiol gyda chefnogaeth trwm mewn nifer cymharol fach o wardiau aml sedd yn agos at ganol y ddinas.

Rwan mae cefnogaeth y Blaid ers hynny hefyd wedi ei ganoli ar wardiau yng Ngorllewin y ddinas a Grangetown yn y De.  Byddai cynnydd o fwy na 5% yn debygol o ddod a nifer dda o seddi iddi - cyn belled a bod y wardiau gorllewinol a Grangetown yn gweld y cynnydd hwnnw.  Mae'r ffaith bod aelodau'r grwp Llafur sy'n rhedeg y cyngor wedi bod wrthi'n ceisio dadberfeddu eu gilydd ers blynyddoedd yn gwneud pethau'n haws.

Beth bynnag dyma'r posibiliadau cryfar:  Grangetown (3), Treganna (3), Tyllgoed (3) Mae'r Blaid eisoes gyda 2 sedd yn y Tyllgoed ac 1 yn Grangetown

Wedyn mae yna bosibilrwydd o ennill rhai o'r canlynol - Caerau (2), Buteown (1), Glanyrafon (3), Trelai (3), Creigiau/St Ffagan (1), Pentyrch (1)


Y nodyn negyddol o bosibl ydi perfformiad y Blaid mewn is etholiadau lleol ers 2012 - mae wedi gwneud yn dda - ond ddim cweit digon da i wneud gwahaniaeth yn unman ond Grangetown - ardal gryfa'r Blaid ag eithrio'r Tyllgoed.  Gall wneud yn dda iawn - ond bydd rhaid iddi wneud mymryn yn well nag a wnaeth mewn is etholiadau diweddar.

No comments:

Post a Comment